Rownd Derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru: Gwesty’n meithrin ei brentisiaid ei hunan er mwyn cynnal ei enw da

Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd.

Nod Gwesty’r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd â 13 o ystafelloedd gwely moethus, boutique, yw cynnig gofal ardderchog i’w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw da sydd ganddo ledled Prydain.

Ar hyn o bryd, mae gan y gwesty 11 o brentisiaid, mae wedi hyfforddi 20 dros y pum mlynedd diwethaf ac mae’n bwriadu cyflogi mwy yn y dyfodol.. Mae’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen BIIAB Lefel 2, Prentisiaethau mewn Coginio Proffesiynol Lefel 2 a Lefel 3 a chyfleoedd i symud ymlaen i wneud Coginio Celfydd yr AAA, Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3 a Rheoli Lletygarwch Lefel 4.

Yn awr, mae’r gwesty wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Gwesty’r Harbourmaster yn ceisio goresgyn problem prinder sgiliau yn y diwydiant lletygarwch trwy feithrin ei staff medrus ei hunan gan ddefnyddio Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwesty, sydd â pholisi recriwtio cynhwysol, wedi datblygu cysylltiadau ag Ysgol Gyfun Aberaeron a Choleg Ceredigon er mwyn canfod gweithwyr posibl.

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn meithrin ein staff ein hunain i gyrraedd eu potensial, gan roi cyfle iddyn nhw weithio yn eu sir enedigol a chyfrannu at economi’r ardal,” meddai’r Rheolwr Cyffredinol, Dai Morgan.

“Ein nod o’r dechrau fu datblygu tîm cryf yn yr Harbourmaster ac rŷn ni wedi llwyddo i wneud hyn oherwydd y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau.

“Mae hyfforddiant wrth weithio yn werthfawr i unrhyw fusnes gan ei fod yn galluogi’r dysgwr i feithrin sgiliau a gwybodaeth yn y gwaith. Daeth yn amlwg fod aelodau o’r staff sydd ar y Rhaglen Brentisiaethau’n dangos gwelliant yn eu gwaith, mwy o ymroddiad i’r swydd a hyder aeddfed wrth ymwneud ag ymwelwyr yn y gwesty. ”

Dywedodd Chris Bason, Pennaeth Lletygarwch gyda Hyfforddiant Cambrian: “Mae Gwesty’r Harbourmaster yn dangos sut y gall ymroddiad i raglen brentisiaethau esgor ar lwyddiant.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Westy’r Harbourmaster a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

Picture captions:

Y Rheolwr Cyffredinol, Dai Morgan y tu allan i Westy’r Harbourmaster.

Rheolwr Cyffredinol Gwesty’r Harbourmaster gydag un o’r prentisiaid, Megan Hawkins.