10 gair i gall ar gyfer cyfweliad i’ch helpu i gael eich cyflogi

Ni waeth faint o gyfweliadau swydd y byddwch yn eu mynychu, nid yw’r broses byth yn haws! Dyma rai cynghorion defnyddiol i’ch helpu i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf, a dangos eich hun ar eich gorau.

1. Cyrhaeddwch yn gynnar, ond ddim yn rhy gynnar, a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod i ble rydych chi’n mynd.

2. Ymddangoswch yn broffesiynol. Gwagiwch eich pocedi, ystyriwch glymu eich gwallt neu dynnu gemwaith os cewch eich temtio i ffidlo’n nerfus.

3. Ewch â’ch CV efo chi. Argraffwch ychydig o gopïau taclus o’ch CV rhag ofn y bydd y cyfwelwyr eisiau un. Gair i gall ychwanegol fyddai dod â chopi mewn ffolder anhyblyg fel y gallwch ei ddal ar eich glin i gadw eich dwylo yn brysur ac atal ffidlo.

4. Gwenwch. Mae gwenu yn eich galluogi i deimlo’n fwy hyderus ac yn eich helpu chi, a’ch cyfwelwyr, i ymlacio.

5. Peidiwch â bod ofn gofyn am eglurhad os nad ydych yn gwybod beth mae’r cyfwelydd yn ei ofyn.

6. Peidiwch â rhuthro eich atebion. Cymerwch anadl (byr) cyn ateb cwestiwn. Bydd yr anadl hwn yn rhoi eiliad i chi ganolbwyntio, ac yn gwneud i’r cyfwelydd feddwl eich bod chi wir yn ystyried eich ateb.

7. Gofynnwch gwestiynau. Dylech bob amser gael cwestiwn neu ddau i’w gofyn ar y diwedd. Mae holi am gynlluniau dyrchafu ar gyfer staff diwyd yn gwneud gwell argraff na holi am dâl neu bolisi salwch staff.

8. Gwnewch ymchwil. Peidiwch â dibynnu ar ddarllen tudalen we “Amdanom Ni” y cwmni yn unig. Gwnewch ymdrech i ddysgu mwy am y diwydiant ehangach a chynnwys rhai ffeithiau
perthnasol yn eich atebion.

9. Cofiwch nad yw’r rhan fwyaf o gyfwelwyr wedi’u hyfforddi’n arbennig; maent yn aml yr un mor nerfus â chi! Os ydych chi’n gyfeillgar ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol, byddan nhw’n ei hoffi.

10. Ennill neu golli, cofiwch ofyn am adborth bob amser a rhoi sylw iddo.