Chwech yn cael eu henwi i rownd derfynol Worldskills

Mae’r chwe chigydd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth gigyddiaeth WorldSkills 2017 wedi’u cyhoeddi.

Mae’r rhestr yn cynnwys tri chystadleuydd newydd a thri chigydd sy’n dychwelyd. Yn cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf mae: James Taylor, o Simpsons Butchers yn Nwyrain Canolbarth Lloegr; Lucy Webster o Taylors Farm Shop yng ngogledd orllewin Lloegr; a Joseph O’Gorman o’r Southern Regional College yng Ngogledd Iwerddon.

Yn dychwelyd i roi cynnig arall am yr aur eleni mae Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats yng Ngogledd Iwerddon a ddaeth yn agos at y brig llynedd; James Gracey o Southern Regional College, a gafodd ganmoliaeth uchel llynedd; a Martin Naan, hefyd o Southern Regional College.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal dros ddeuddydd yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC Birmingham o 16 i 18 Tachwedd. Bydd y chwe chigydd yn cael y dasg o gyflawni cyfres o heriau gan gynnwys cynhyrchu prydau parod i’w bwyta, adran gwneud selsig a barbeciw, darnau crynion parod i’r gegin, tynnu esgyrn a thorri ar hyd y cyhyr, a chreu arddangosfa ddymunol i’r llygaid.

“Llongyfarchiadau i’n holl gigyddion yn y rownd derfynol am gyrraedd mor bell â hyn yn y gystadleuaeth, gan fod cyrraedd y rownd derfynol yn gyflawniad enfawr yn ei hun ac mae pob un ohonom yn gyffrous i weld sut mae’r gystadleuaeth yn datblygu yn y Sioe Sgiliau – pob lwc i chi gyd,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a drefnodd y gystadleuaeth gigyddiaeth.

Ychwanegodd Dr Neil Bentley, prif weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i bob un yn y rownd derfynol a fydd yn cystadlu yn y Sioe Sgiliau eleni.

“Mae Cystadlaethau WorldSkills UK wedi profi eu bod yn gwella rhaglen brentisiaeth neu hyfforddiant rhywun trwy eu galluogi i ddatblygu sgiliau cymeriad a chyflogadwyedd allweddol. Gan ddefnyddio gwybodaeth a ddysgwyd o gystadlu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gwyddwn ein bod yn gweithio i feincnodau a fydd yn darparu’r sgiliau iawn er mwyn i fwy o bobl ifanc helpu busnesau’r DU i gystadlu’n well ar raddfa fyd-eang.”