Ymunodd gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant lletygarwch o bob cwr o Gymru â phanel beirniaid i fwrw golwg dros y genhedlaeth nesaf o dalent goginio yng nghystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Galwodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru, ar y beirniaid ar gyfer cystadlaethau lletygarwch a gynhaliwyd ar gampws y Drenewydd a Chastell-nedd Grŵp Colegau NPTC a Champws Iâl Coleg Cambria.
Bydd y digwyddiad dathlu yn cael ei gynnal ar nos Fercher 18fed Mawrth 2026 yn Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl, lle bydd enillwyr medalau yn cael eu cyhoeddi.
Bydd enillwyr y cystadlaethau celfyddydau coginio a gwasanaethau bwyty yn cael eu gwahodd i gynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol WorldSkills UK ac, o bosibl, rowndiau terfynol WorldSkills.

Arwyn Watkins, OBE, Llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru, yn beirniadu cystadleuaeth Celfyddydau Coginio yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru
Darparodd Cymdeithas Goginiol Cymru llywydd Arwyn Watkins, OBE, a Nick Davies, prif reolwr arlwyo Cyngor Sir Powys, i feirniadu’r cystadlaethau celfyddydau coginio ac is-lywydd Colin Gray, Capital Cuisine, Caerffili, a Karl Jones-Hughes, Stopio, Arberth, i feirniadu’r cystadlaethau patisserie a melysion.
Rob Hookham, pennaeth rhagoriaeth gwasanaeth yn y Celtic Collection, Casnewydd, Linda Thomas, Hyrwyddwr Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau ar gyfer sector iechyd a lletygarwch blaenorol, Marnie Gaskell, Pontio Lounge, Cas-gwent, a Yuliia Batrak, Gwesty George, Llandudno, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth gwasanaethau bwyty.

Linda Thomas, Marnie Gaskell, Yullia Batrak and Robert Hookham
Swyddogion Cwmni Hyfforddiant Cambrian Melanie Canning, Nora Jones, Joanna Davies, a Gemma Wilkins oedd yn beirniadu’r cystadlaethau paratoi bwyd cynhwysol a gwasanaethau bwyty cynhwysol.
“Mae Hyfforddiant Cambrian yn falch o gynnal cystadlaethau lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.,” meddai Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr. “Mae’r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i brentisiaid arddangos eu talent, magu hyder, a phrofi eu sgiliau yn erbyn meincnodau diwydiant a chwarae rhan bwysig wrth wella safonau ac ysbrydoli rhagoriaeth ar draws y sector.
“Hoffem estyn ein diolch i’n tîm o feirniaid proffesiynol profiadol sy’n gweithio’n agos gyda Hyfforddiant Cambrian. Mae pob un ohonynt yn arbenigwyr yn y sectorau yr oeddent yn asesu, gan sicrhau safonau uchel a darparu adborth gwerthfawr, y byd go iawn i gefnogi datblygiad prentisiaid.”
Mae’n flwyddyn fawr i’r diwydiannau lletygarwch a bwyd yng Nghrymu sy’n cynnal Cyngres ac Expo WorldChefs yn ICC Cymru, Casnewydd, rhwng 16-19 Mai. Bydd tua 800 o gogyddion o bob cwr o’r byd yn mynychu’r digwyddiad, sydd ar y thema: ‘Pasture, Passion, Plate’ sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Goginiol Cymru.
Dyma’r tro cyntaf mewn 98 mlynedd i Gyngres ac Expo WorldChefs gael ei gynnal yn y DU.
Dywedodd Matthew Watts, Hyrwyddwr Sgiliau ar gyfer Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghrymu, trefnwyr Cystadleuaeth Sgiliau Cymru: “Unwaith eto, mae’r safon sy’n cael ei harddangos yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi bod yn ardderchog.
“Pob blwyddyn mae lefel proffesiynoldeb, creadigrwydd, a’r gallu technegol a ddangosir gan gystadleuwyr yn creu argraff arnom, ac nid yw 2026 yn eithriad.
“Mae gan y sector lletygarwch yng Nghymru ddyfodol lewyrchus iawn, ac mae cystadlaethau fel y rhain yn chwarae rhan hanfodol wrth herio dysgwyr, gwella safonau, a rhoi’r hyder iddynt symud ymlaen i lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n ysbrydoledig gweld cymaint o dalent yn dod drwodd.”
Ydych chi’n barod i brofi eich sgiliau a chystadlu yn erbyn y goreuon yng Nghymru? Darganfyddwch fwy am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a sut i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf trwy fynd i: https://inspiringskills.gov.wales/skills-competition-wales