Mae saith ar hugain wedi cyrraedd y rownd derfynol a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol ar gyfer gwobrau blynyddol mawreddog darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghrymu ym mis Mehefin.
Mae’r Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi’i leoli yn y Trallwng, a’i bartneriaid.
Mae tri ym mhob un o’r naw categori ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau, a fydd yn cael eu cyflwyno mewn seremoni a gynhelir yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod ar 2 Mehefin.
Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd a gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.
Mae dau gydweithiwr yn Ysgol Pen Coch, y Fflint, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn. Bydd dirprwy penaethiaid, Samantha Stenhoff a Rebecca Kirkpatrick, yn wynebu Chris Prendergast, rheolwr gosodion yn Lloyd Morris Electrical, Wrecsam.
Mae Adam Pike, cogydd ym Mhant yr Ochain, Gresffordd yn cystadlu am y Gwobrau Prentis Sylfaen ac Unigolyn Rhagorol.

Adam Pike sydd wedi’i enwebu am ddwy wobr yn y seremoni eleni.
Y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yw:
Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Ashley Watkins, cogydd yn Coldra Court Hotel, Casnewydd, Jacob Doggett, cogydd yn George IV Inn, Cwm-twrch Uchaf, Cwmllynfell ac Adam Pike.
Prentis y Flwyddyn: Aaron Jones, gweinydd blaen y tŷ ym Mhenycae Inn, ym Mhenycae, ger Abertawe, Ellen Whitehouse, arweinydd a hyfforddwr yn Safle Parc Cenedlaethol Bluestone, Arberth a Louise Mead, hyfforddwr personol yn Evo Fit, Cross Hands.

Mae Aaron Jones o Benycae Inn yn awyddus i ychwanegu Prentis y Flwyddyn at y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig Unigolyn Rhagorol a enillodd y llynedd.
Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn: Oliver Addis-Fuller, rheolwr bar a digwyddiadau yn y Glyn Clydach, Casnewydd, Sophie Lawrence, rheolwr siop Boots yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd ac Adam Pike.
Ymarferydd y Flwyddyn: Andrew Addis-Fuller a Melanie Canning, swyddogion hyfforddi lletygarwch, a Sharon Roberts, swyddog hyfforddi gweithgynhyrchu bwyd a diod, i gyd o Gwmni Hyfforddiant Cambrian.
Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn: Dyfan James, cigydd yn Ken Davies Butchers, Crymych; Jasmine Miles, cydlynydd y Gymraeg yn Green Giraffe Nursery, Caerdydd, ac Olivia Browning, swyddog hyfforddiant yng Nghlybiau Plant Cymru Kids’ Club, Caerdydd.
Cyflogwr Bach y Flwyddyn: KC Accountancy Services, Llanfyllin, Penycae Inn, a Pontcysyllte Tea Rooms, Dyfrbont Pontcysyllte, Llangollen.
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Amberleigh Care, y Trallwng, Farmers Pantry, Llanilltud Fawr, a Thŷ Llandaf Care Home, Caerdydd.
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Farmfoods, Cymru gyfan, Kepak, Merthyr Tudful, a Morrisons, Cymru gyfan.
Dywedodd Faith O’brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu teithiau personol nodedig pob un o’r un a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y seremoni wobrwyo fis nesaf. Mae pob un ohonynt wedi dangos ymroddiad, gwydnwch a thwf, ac mae’n wych gweld eu cyflawniadau yn cael eu cydnabod gan y beirniaid.
“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i anrhydeddu nid yn unig y prentisiaid a’r cyflogwyr, ond hefyd y teuluoedd, y cydweithwyr, a’r mentoriaid sydd wedi eu cefnogi ar hyd y ffordd. Gyda’i gilydd, maent yn dangos y rôl hanfodol y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth gryfhau economi Cymru a gosod y safon aur ar gyfer dysgu seiliedig ar waith.”