Cydlynydd y Gymraeg yn ennill Gwobr Llysgennad am waith ‘trawsnewidiol’

Mae Jasmine Miles wedi ennill gwobr dysgu seiliedig ar waith am drawsnewid sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio a’i hystyried ym musnes meithrinfa i blant ym Mhenarth lle mae’n gweithio.

Enwyd y cydlynydd y Gymraeg yn Green Giraffe Nursery yn Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn yn y gwobrau blynyddol mawreddog a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’i bartneriaid.

Mae’r gwobrau a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi’i lleoli yn y Trallwng, a’i bartneriaid.

Roedd saith ar hugain ar y rhestr fer – tri ym mhob un o’r naw categori – yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Mae Jasmine, 20, sy’n brentis gyda’r darparwr dysgu seiliedig ar waith Sirius Skills, yn cael ei chanmol am drawsnewid darpariaeth Cymraeg yn ei meithrinfa a’r sefydliad ehangach trwy “ei hangerdd, ei harweinyddiaeth a’i chreadigrwydd”.

Mae hi’n ymgorffori’r Gymraeg mewn ymarfer dyddiol, yn cefnogi staff gydag ynganu ac yn meithrin eu hyder. Mae ei menter ‘Pencampwr Cymraeg y Mis’ yn rhedeg ar draws sawl cangen, wrth i’w harwyddion dwyieithog, pecynnau teulu a gweithgareddau diwylliannol yn creu amgylchedd ymgolli lle mae plant ifanc yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol.

Mae Jasmine hefyd yn darparu hyfforddiant staff ysbrydoledig ac yn rhannu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus, gan ddod yn esiampl dda o arfer gorau.

Wrth ymateb i’w gwobr, dywedodd Jasmine:

“Mae’n gyffrous iawn ac mae’n anrhydedd ennill y wobr hon. Nawr fy mod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth Lefel 2, rwy’n symud ymlaen i Lefel 3 ac yn gobeithio camu ymlaen i rôl rheoli yn y dyfodol.”

Diolchodd i’w swyddog hyfforddiant Alison Widdicombe, o Sirius Skills, am ei hanogaeth a’i chefnogaeth.

Dywedodd Maddie Daw, dirprwy reolwr Green Giraffe Nursery Penarth:

“Mae Jasmine yn aelod cryf o staff sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn gynhwysol yn y feithrinfa.”

Dywedodd Manon Rosser, swyddog cymorth y Gymraeg a chyfathrebu Cwmni Hyfforddiant Cambrian:

“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymrwymo i ymgorffori’r Gymraeg ym mhob agwedd ar ein gwaith, gan gefnogi cyflogwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn y gweithle.

“Rydym yn llongyfarch Jasmine ar gael ei henwi’n Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu nid yn unig ei hymroddiad personol, ond hefyd ein hymrwymiad ehangach i hyrwyddo’r Gymraeg mewn lleoliadau proffesiynol.

“Fel ymarferydd blynyddoedd cynnar, mae Jasmine yn chwarae rhan arbennig o bwysig wrth gyflwyno a meithrin y Gymraeg ar ddechrau datblygiad plentyn. Mae ei gwaith yn cefnogi sylfeini dwyieithrwydd o oedran ifanc, gan helpu i sicrhau dyfodol cryf ar gyfer i’r iaith ar draws ein cymunedau a’n gweithlu.”

Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.

Jasmine Miles, enillydd Gwobr Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn.

Jasmine Miles, enillydd Gwobr Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01983 555893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.