Pen cogyddion o Gymru yn penodi Hyrwyddwr Cynaliadwyedd Cenedlaethol

Capsiwn y llun: Donna Heath, Hyrwyddwr Cynaliadwyedd Cenedlaethol CAW.

Mae Cymdeithas Goginio Cymru wedi penodi Hyrwyddwr Cynaliadwyedd Cenedlaethol i fwrw ymlaen â mentrau Worldchefs ledled Cymru i ysbrydoli defnydd cynaliadwy o fwyd.

Mae Donna Heath, swyddog hyfforddiant lletygarwch yn y darparwr hyfforddiant yn y gwaith sydd wedi ennill gwobrau, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn edrych ymlaen at ei rôl a gweithio’n agos ag ysgolion, colegau a busnesau.

Bydd hi’n hyrwyddo ac yn gweithredu rhaglenni Bwydo’r Blaned Worldchefs, sy’n cynnwys Her Arwyr Bwyd, Her Gwastraff Bwyd a’r Cwricwlwm Cynaliadwyedd.

Nod Bwydo’r Blaned yw ysbrydoli’r defnydd cynaliadwy o fwyd ymhlith cymunedau a gweithwyr proffesiynol a chefnogi pobl mewn angen trwy gymorth mewn argyfwng, lleddfu tlodi bwyd ac addysg. Mae’r fenter, y mae Worldchefs wedi’i sefydlu, yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth ag Electrolux ac AIESEC.

Mae Worldchefs yn hyrwyddo’r rhaglenni oherwydd bod traean o’r bwyd a gynhyrchir ledled y byd yn mynd i wastraff ar hyn o bryd, tra bo 800,000,000 o bobl yn llwgu wrth fynd i’r gwely.

Prosiect addysg ar gyfer plant sy’n cael ei ysgogi gan ben gogyddion yw Her Arwyr Bwyd. Gan ddefnyddio pecyn cymorth a ddatblygwyd trwy fenter cynaliadwyedd UNICEF, Gwers Fwyaf y Byd, caiff plant ysgol, rhwng wyth a 12 oed, eu haddysgu am arferion bwyta cynaliadwy.

Nod y fenter yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwyta’n gynaliadwy. Mae’r gweithdy 70 munud yn cynnwys gweithgareddau, fideos, deunyddiau llyfr gwaith a gwobr Arwr Bwyd.
Mae’r Cwricwlwm Cynaliadwyedd yn cynnwys cyfres o saith gweithdy dwy awr y mae Worldchefs wedi’u datblygu i archwilio’n fanwl i bynciau bwyd, ynni, dŵr a gwastraff ar lefel fyd-eang, ranbarthol a lleol. Mae’r cwricwlwm yn targedu busnesau a cholegau coginio.
Mae’r Her Gwastraff Bwyd wedi’i chynllunio i helpu busnesau i nodi sut y gallant leihau eu gwastraff bwyd a gosod targedau i weithio tuag atynt.

“Fy rôl i yw codi ymwybyddiaeth o’r tair menter hyn ledled Cymru,” meddai Donna, 33. “Rwyf bellach wrthi’n cysylltu ag ysgolion cynradd i bwyso a mesur diddordeb yn yr Her Arwyr Bwyd.

“Trwy greu’r adnoddau yn y Gymraeg a’r Saesneg, rydym wedi ei gwneud hi’n bosibl i ysgolion gyflwyno’r Her Arwyr Bwyd eu hunain, neu rydym yn hapus i ymweld â’r ystafell ddosbarth.

“Mae gen i ferch saith oed, Amy, felly rwy’n angerddol am gynaliadwyedd a gwneud plant yn gyfrifol am eu dyfodol. Mae cynaliadwyedd yn bwnc llosg iawn â’r drafodaeth fyd-eang am newid hinsawdd a lleihau gwastraff plastig.”

Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, fod y gymdeithas yn cymryd yr awenau wrth gynyddu ymgysylltiad gan ben gogyddion, sefydliadau addysgol ac arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru yn rhaglenni Bwydo’r Blaned Worldchefs yng Nghymru.

“Rydym wedi dilyn yr alwad i weithredu gan Worldchefs trwy benodi Donna fel ein Hyrwyddwr Cynaliadwyedd Cenedlaethol ac mae hi bellach yn rhoi proses ar waith i gyflwyno’r Her Arwyr Bwyd i nifer cyfyngedig o ysgolion yng Nghymru,” ychwanegodd.

“Dyma fydd ein blwyddyn peilot i helpu i gyflwyno Gwers Fwyaf y Byd ac mae ein haelodau’n cael eu hannog i gefnogi Donna wrth gyflwyno’r fenter hon yn eu cymunedau lleol.”

Gofynnir i ysgolion, busnesau neu golegau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am raglenni Bwydo’r Blaned Worldchefs gysylltu â Donna ar 01938 555 893 neu e-bostiwch donna@cambriantraining.com.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Arwyn Watkins, OBE, llywydd Cymdeithas Goginio Cymru, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes, swyddog cyhoeddusrwydd, ar Ffôn: 01686 650818.