Adeiladu ar Lwyddiant Clwb Rygbi Cobra Trwy Adran Iau Ffyniannus

Yn aml, mae llwyddiant unrhyw glwb chwaraeon yn cael ei orchymyn gan gryfder ei rwydwaith cymorth a’i gadwyn gyflenwi sy’n cyflawni chwaraewyr ifanc dawnus sy’n gallu cystadlu ar y lefel uchaf.

Mae Clwb Rygbi COBRA yn enghraifft berffaith o glwb sy’n anelu at fod yn gryf o’r gwreiddiau i fyny. Fe’i ffurfiwyd fel Cymdeithas Rygbi Hen Fechgyn Caereinion ym 1978 gan gr?p o athrawon a chyn ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion, Llanfair Caereinion i chwarae gemau cyfeillgar. Ers hynny, mae’r clwb wedi codi trwy’r rhengoedd ac ar hyn o bryd mae’n chwarae ar ei lefel uchaf erioed yn Adran 1 y Gogledd, Cynghrair SWALEC.

Yn allweddol i gynnydd y clwb fu datblygu adran iau gref ers y 1990au, sydd wedi cynhyrchu cyfres o chwaraewyr ifanc dawnus i’r tîm cyntaf.

Mae gan y clwb naw tîm yn ei adran iau ar hyn o bryd, gan ddarparu rygbi i 157 o chwaraewyr cofrestredig o bump i 16 oed. Nid yw’n anarferol gweld dros 120 o chwaraewyr ym mhencadlys COBRA ym Meifod ar y nosweithiau hyfforddi.

Er mwyn sicrhau bod yr adran iau’n parhau i ddatblygu, mae COBRA wedi sicrhau nawdd i ddod â hunaniaeth gryfach i’w holl dimau. Mae’r darparwr dysgu yn y gwaith arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y mae ei bencadlys yn y Trallwng, wedi llofnodi contract tair blynedd i ddod yn brif noddwr i’r adran iau er mwyn parhau â chynnydd y clwb.

Gweithiodd COBRA ar y cysyniad canolog o unioni ei holl stripiau o Iau i ieuenctid i h?n. Prynwyd y stripiau chwarae newydd unfath ar gyfer pob un o’r naw tîm iau, trwy gael cymorth nawdd WMO o’r Trallwng, KLF Insurance o’r Amwythig, Harrisons Solicitors, Y Trallwng a Karl Lewis Agri Engineers, Manafon. Mae Four Crosses Vets hefyd yn noddi gwobrau chwaraewr y gêm ar gyfer pob gr?p oedran.

Galluogodd y cysyniad canolog o gael undod yn stripiau’r tîm i’r clwb roi sylw helaeth i ddarpar noddwyr ac mae wedi galluogi’r clwb i ddenu llawer o arian mawr ei angen gan noddwyr i barhau â’i ddatblygiad. Mae wedi cynorthwyo’r clwb hefyd i gyflwyno’i hun fel corff trefnus y mae’n werth buddsoddi ynddo yn ystod adeg economaidd galed.

Yn ogystal, mae 24 rhiant wedi cael hyfforddiant Cymorth Argyfwng Rygbi trwy gyllid Recriwtio Undeb Rygbi Cymru ac mae 15 hyfforddwr ar draws y grwpiau oedran yn gweithio tuag at gymwysterau, gyda mwy i ddilyn. Mae’r clwb yn symud ymlaen gyda’i hyfforddiant i wirfoddolwyr ar ôl gwneud cais llwyddiannus i gefnogi hyd at 20 darpar wirfoddolwr gyda hyfforddiant dyfarnu yn 2014.

Esboniodd Sarah Lewis, ysgrifennydd tîm iau Cobra RFC: “Mae’r gefnogaeth gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’r noddwyr eraill yn ein caniatáu ni i ddatblygu hunaniaeth brand ar gyfer y clwb a thacluso pethau. Bydd y timau iau yn chwarae stripiau unfath ym mhob gr?p oedran ac rydym am eu gwneud nhw’n falch o fod yn rhan o COBRA.

“Rydym yn ceisio bodloni disgwyliadau’r plant a’u rhieni wrth ddangos ein bod ni’n glwb sy’n gwybod i ble mae’n mynd ac mae gennym gynllun datblygu ar waith. Bu llwyddiant y tîm cyntaf yn aruthrol ac mae hynny wedi creu diddordeb yn y clwb drwyddi draw.”

Yn ogystal, mae’r clwb wedi ymgymryd â phrosiect i brynu llifoleuadau cludadwy ar gyfer ei ail gae. Mae’r clwb hanner ffordd tuag at gyflawni hyn, ar ôl sicrhau Grant Cyfleusterau Undeb Rygbi Cymru. Mae’r clwb bellach yn y broses o wneud cais i Chwaraeon Cymru am gyllid pellach i fodloni cost ddisgwyliedig y prosiect o £20,000.

Daw craidd chwaraewyr y clwb ym mhob gr?p oedran o ddalgylch Ysgolion Uwchradd Caereinion a Llanfyllin. Fodd bynnag, mae llwyddiant yn esgor ar lwyddiant ac mae’r chwaraewyr bellach yn cael eu denu o ardaloedd eraill.

“Mae’r clwb yn darparu ffordd wych o ddod â phobl cymunedau Llanfair Caereinion a Llanfyllin at ei gilydd” meddai Sarah. Mae’r rhieni’n mwynhau cymryd rhan yn y clwb cymaint â’u plant ac mae yna awyrgylch cadarnhaol iawn yma.

“Fel clwb, rydym yn awyddus i ddefnyddio brwdfrydedd y rhieni trwy fuddsoddi mewn recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Daw rhieni’n fwy na dim ond cefnogwyr wrth yr ystlys gan gyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y clwb.”

Mae COBRA yn falch o’i hanes o ddatblygu chwaraewyr ifanc i chwarae ar lefel uwch. Mae Rhodri Meyer bellach yn chwarae i Sale ac wedi cael galwad i fynd i’r Alban ac mae Huw Worthington yn chwarae i RGC ac yn ymdrechu i gael cap Dan 21 Cymru.

Mae COBRA, sy’n glwb teuluol i bob pwrpas, yn estyn croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae, hyfforddi, gwirfoddoli, trefnu neu wylio rygbi. Dywedodd y Cadeirydd Gareth Jones: “Daeth pob aelod ond dau o’n tîm cyntaf trwy’r adran iau, sy’n hynod bwysig i ddyfodol y clwb.

“Ein cynllun yw cynnig cyfleoedd i chwarae ar gyfer y chwaraewyr ifanc dawnus sy’n dod i’r amlwg o’r adrannau iau ac ieuenctid.”