Prentis yn parhau i astudio tra’n gwarchod a derbyn triniaeth ar gyfer canser

Mae prentis sy’n gweithio i Gyngor Sir Powys a fu’n parhau i astudio tra’n gwarchod a derbyn triniaeth am ganser, wedi’i nodi am wobr gan ei ddarparwr hyfforddiant.

Mae’r gweithiwr gwastraff ac ailgylchu, Graham Jones, 38, sydd wedi’i leoli yn Rhaeadr Gwy, wedi bod yn astudio i ennill cymwysterau lefel dau a thri mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy gyda Hyfforddiant Cambrian. Mae Graham bellach yn un o dri dysgwr yn y ras i gael ei enwi’n Brentis y Flwyddyn y cwmni.

Roedd ei astudiaethau i fod i gymryd tair blynedd i’w cwblhau, ond enillodd y taid ysbrydoledig ei gymwysterau mewn ychydig dros ddwy flynedd ac ni adawodd i’w broblemau iechyd ei ddal yn ôl. Gorfodwyd Graham i dreulio amser gartref y llynedd yn gwarchod oherwydd ei apnoea cysgu ac yna darganfyddodd fod ganddo ganser y ceilliau, gan arwain at lawdriniaeth a chemotherapi.

Dywedodd ei swyddog hyfforddi gyda Cambrian Training, Jay  Syrett-Judd, fod Graham yn sefyll allan oherwydd ansawdd ei waith a’i ymroddiad i lwyddo yn wyneb adfyd. Dywedodd: “Drwy gydol y ddau gymhwyster, cyflwynodd Graham ei holl waith yn brydlon, daeth i bob apwyntiad gyda mi ac yn bwysicaf oll dangosodd wybodaeth a chymhwysedd trylwyr yn ei swydd a’i ddealltwriaeth o reoli gwastraff. ”

Dywedodd Graham, sydd wedi gweithio i’r cyngor ers bron i naw mlynedd ac sy’n byw yn Llandrindod, ei fod wedi penderfynu astudio ar gyfer y ddau gymhwyster i helpu i ddatblygu ei yrfa. Mae’n gobeithio cael dyrchafiad i rôl goruchwyliwr yn fuan.

“Fy nod yw parhau i wella ac addysgu fy hun gymaint ag y gallaf a symud ymlaen,” meddai. “Roeddwn i’n hynod o falch o gael fy enwebu ar gyfer y wobr. Mae’n dangos bod pobl yn cydnabod eich gwaith caled ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y seremoni wobrwyo!”

Ar ôl cyfnod pryderus lle mai cael a chael oedd hi i Graham ar ôl darganfod canser y ceilliau, mae’n awyddus i atgoffa dynion eraill i edrych am lympiau a mynd i weld eu meddyg teulu os oes ganddynt bryderon am eu hiechyd.

Darganfu’r chwydd ar ôl i’w ŵyr neidio ar ei lin gan achosi poen annisgwyl iddo. Fe ysgogodd hyn iddo weithredu ac ers hynny mae wedi  gwella’n dda.

Dywedodd Graham: “Nid oeddwn erioed wedi breuddwydio y byddwn i’n cael canser y ceilliau. Rydych yn gweld yr holl bosteri a hysbysebion mewn digwyddiadau chwaraeon yn dweud wrthych am chwilio eich hun, ac mae’n rhywbeth nad ydych yn meddwl amdano. Ond fe ddes i drwyddi ac mae popeth yn dda hyd yn hyn. ”

Mae Cyngor Sir Powys wedi canmol Graham am ei lwyddiant yn cael ei enwebu ar gyfer gwobr Hyfforddiant Cambrian ac am ei ymrwymiad i wella ei sgiliau a’i wybodaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod y Cabinet ar faterion Yr Amgylchedd: “Rwy’n credu y bydd llawer o bobl yn gweld stori Graham yn un sy’n ysbrydoli.  Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y seremoni wobrwyo pan fydd yn digwydd.

“Mae wedi dangos ymroddiad mawr wrth barhau i astudio tra’n brwydro gydag afiechyd ac mae wedi bod yn ddewr yn ei barodrwydd i siarad am ei brofiad ei hun gyda chanser – gan gredu y bydd yn helpu eraill. Pob lwc Graham!”

Roedd seremoni Gwobrau Hyfforddiant Cambrian i fod i gael ei chynnal ar 28 Gorffennaf ond cafodd ei gohirio oherwydd COVID-19.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.