Prentis Distyllfa gyda Hensol Castle Distillery

Cynhyrchu bwyd, Diwydiant Bwyd
Bro Morgannwg
Posted 3 days ago

Prentis Distyllfa gyda Hensol Castle Distillery 

Hensol Castle Park, Hensol, Bro Morgannwg, CF72 8JX

Amdanom ni

Mae Hensol Castle Distillery yn distyllfa grefft arobryn wedi’i lleoli o fewn selerau hanesyddol Hensol Castle. Rydym yn cynhyrchu ein gwirodydd premiwm ein hunain, yn datblygu ryseitiau pwrpasol ar gyfer cleientiaid, ac yn cefnogi nifer cynyddol o frandiau diodydd ledled y DU a thu hwnt. Fel tîm bach sy’n tyfu’n gyflym, rydym yn ymfalchïo mewn ansawdd, ac ymagwedd ymarferol at bob agwedd o gynhyrchu hylif.

Y rôl

Rydym yn chwilio am ddistyllwr dan hyfforddiant i ymuno â’n tîm cynhyrchu. Mae hwn yn gyfle unigryw hwn i ddysgu’r broses ddistyllu llawn wrth gefnogi’r Prif Ddistyllwr gyda gweithrediadau o ddydd i ddydd. Byddwch yn ennill profiad ymarferol ym mhob agwedd o gynhyrchu, o ddeunyddiau crai hyd at botelu.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cynorthwyo’r Prif Ddistyllwr gyda phob agwedd o gynhyrchu gwirodydd gan gynnwys cyfuno, distyllu, mwydo a datblygu cynhyrchion newydd yn y labordy.
  • Paratoi a gweithredu offer, gan gynnwys distyll-lestri a datrys problemau ar y llinell botelu.
  • Sicrhau bod ardaloedd cynhyrchu yn cael eu cynnal i’r safonau glendid uchaf ar gyfer cydymffurfiaeth â BRCGS.
  • Cofnodi a monitro data cynhyrchu yn gywir trwy waith papur.
  • Dosbarthu botanicals a sbeisys ar gyfer distyllu.
  • Cynnal gwiriadau ansawdd a chynnal a chadw.

Amdanoch chi

  • Diddordeb gwirioneddol mewn gwirodydd a distyllu.
  • Sylw cryf at fanylion a pharodrwydd i ddysgu prosesau technegol.
  • Dull ymarferol gyda sgiliau datrys problemau da.
  • Yn gyfforddus wrth weithio mewn amgylchedd cynhyrchu sy’n cynnwys codi a chario.
  • Dibynadwy, trefnus, ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
  • Lefel dda o hylendid personol.
  • Rhaid bod gennych y gallu i yrru.

Gwybodaeth Ychwanegol 

Mae gweithio gyda’r cwmni yn cynnwys manteision sy’n cynnwys disgownt ym mhob siop Leeke a’r Vale Resort, mynediad at gampfa’r Vale yn ystod adegau tawel, prisiau staff am boteli o alcohol, a digwyddiadau staff aml.

Cymwysterau Gofynnol: 

Safon dda o addysg gyffredinol. Mae TGAU gradd C neu gyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.

Gofynion y Gymraeg:

Dim.

Cwrs Prentisiaeth: 

Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gweithrediadau Bwyd a Diod

Cyflog:

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Oriau:

37.5 awr yr wythnos ac mae’n rhaid i oriau fod yn gymharol hyblyg rhwng 07:00 – 16:00, gan ein bod yn dechrau cynhyrchu tua 08:00 felly byddai’n fuddiol dechrau tua 07:30.

Trefniadau Cyfweliadau:

Cyfweliad wyneb yn wyneb yn Hensol Castle Distillery.

Gwneud cais: 

Anfonwch e-bost eglurhaol a’ch CV at ellis.evans@hensolcastledistillery.com.

Job CategoryHensol Castle Distillery