Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC), un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith annibynnol Cymru, yn falch o nodi 30 mlynedd o ddarparu prentisiaethau i fusnesau ar draws y wlad.
Ers sefydlu fel is-gwmni bach Twristiaeth Canolbarth Cymru (MWT Cymru bellach), mae CHC wedi tyfu i fod yn sefydliad sy’n cael ei barchu’n genedlaethol, gan gyflwyno 20,000 o raglenni prentisiaethau mewn mwy na 4,500 o fusnesau. Heddiw, mae’r cwmni sydd wedi’i leoli yn y Trallwng yn gweithredu allan o bum swyddfa, wrth gefnogi mwy na 850 o gyflogwyr gyda chymorth 63 o weithwyr a naw is-gontractwr partner.
Er mwyn dathlu’r garreg filltir hon, cynhaliodd CHC ei ddathliadau pen-blwydd yn 30 oed ar ddydd Mawrth, a chynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol trwy gydol mis Medi, gan gynnwys prentisiaid, cyflogwyr, staff, a rhanddeiliaid sydd wedi llunio’i daith.
Wedi ymrwymo’n llwyr at gyflawni rhagoriaeth, mae’r cwmni wedi arloesi hyfforddiant yn y diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod, wrth hefyd yn ymestyn i sectorau newydd, fel iechyd a gofal cymdeithasol.
Dwy o’r anrhydeddau a enillwyd gan y cwmni, sy’n meithrin talent, yw Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn a’r Darparwr Prentisiaethau Seiliedig ar Waith Gorau yng Nghymru.
Mae etifeddiaeth y cwmni yn gynnwys creu cystadleuaeth Cigydd Ifanc y Flwyddyn, sydd wedi esblygu i ddod yn Brentis Cigydd y Flwyddyn, a Gwobrau Hyfforddiant Cambrian. Mae’r cwmni hefyd wedi cefnogi cystadlaethau lletygarwch Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ers ei sefydlu yn 2014.
O lansio canolfannau rhagoriaeth i ddod yn gontractwr uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ac yn ddiweddar trosglwyddo i ymddiriedolaeth sy’n 100% yn eiddo i’r gweithwyr, mae’r cwmni’n angerddol am rymuso unigolion, cefnogi cymunedau a gyrru addysg alwedigaethol gynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru.
Yn ogystal, mae CHC yn chwarae rôl ganolog wrth hyrwyddo a chefnogi datblygiad, twf a chynaliadwyedd hirdymor sectorau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru. Diwydiannau sy’n gyfranwyr hanfodol i economi Cymru a ffynonellau cyflogaeth allweddol, yn enwedig o fewn cymunedau gwledig.
Trwy bartneriaethau strategol a nawdd, gan gynnwys Cymdeithas Goginiol Cymru, Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a gwobrau twristiaeth ranbarthol, mae CHC yn cefnogi datblygiad y sector yn weithredol, yn dathlu rhagoriaeth ac yn meithrin arloesedd.
Mae ymgysylltiad dwfn y cwmni â chyrff a digwyddiadau’r diwydiant yn cryfhau llwybrau galwedigaethol ac yn sicrhau bod hyfforddiant yn parhau i fod yn berthnasol, yn ymatebol ac yn diwallu anghenion busnesau a chymunedau Cymru.
Mae CHC yn canolbwyntio ar chwarae rôl allweddol yn system addysg drydyddol esblygol Cymru, gan sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol ac yn deall yr holl lwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt pan fyddant yn gadael yr ysgol.
“Rydym yn falch iawn o’n cyflawniadau yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian dros y 30 mlynedd diwethaf,” meddai Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr. “Nid busnes yn unig yw Hyfforddiant Cambrian. Mae’n rym er daioni. Rydym yn helpu pobl i adeiladu gyrfaoedd, ennill hyder, a darganfod eu potensial. Rydym yn cefnogi cyflogwyr, siapio sectorau, ac yn hyrwyddo cynhwysiant. Ac rydyn ni’n ei wneud gydag uniondeb a charedigrwydd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolwr Sefydlu Hyfforddiant Cambrian (Ymddiriedolwr) Cyf, Arwyn Watkins, OBE, a arweiniodd bryniant gan y rheolwyr o’r cwmni yn 2002, am hanes, heriau ac esblygiad y busnes, mae “wedi’i adeiladu ar angerdd, arloesi ac, yn anad dim, pobl”.
“O’n dyddiau cynnar, fe wnaethon ni ddechrau gyda chenhadaeth glir: darparu hyfforddiant o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a chreu cyfleoedd sy’n newid bywydau ac yn cryfhau cymunedau,” meddai. “Dros y 30 mlynedd diwethaf, rydym wedi cyflawni hyn a llawer mwy.
“Mae’r byd hyfforddiant a datblygu sgiliau yn parhau i esblygu a bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn parhau i arwain gydag arloesi, uniondeb ac effaith.”
Mewn neges i’r bwrdd cyfarwyddwyr, ychwanegodd: “Parhewch â’r etifeddiaeth, peidiwch â rhoi’r gorau i gymryd risgiau, sefyll allan o’r dorf, gwneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt, byddwch yn arloesol ac yn greadigol.
“Parhau i fod yn ymatebol ar bob adeg a gwneud penderfyniadau cyflym oherwydd nad oes unrhyw fusnes llwyddiannus mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym yn cael ei redeg gan bwyllgor.”
“Mae taith Cwmni Hyfforddiant Cambrian hyd yma wedi’i diffinio gan bartneriaethau cryf, arloesi wrth gyflawni dysgu ac ymrwymiad angerddol i rymuso pobl gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn economi gystadleuol sy’n newid yn gyflym,” ychwanegodd Faith.
“Byddwn yn parhau i gadw’n driw i’r gwerthoedd hyn wrth i ni ymgysylltu â mwy o ddysgwyr Cymraeg a’u hysbrydoli i lwyddo yn eu gyrfaoedd dewisol.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.