Prentis Sylfaen y Flwyddyn yn Ysbrydoli Plant Ysgol i Ystyried Llwybr Prentisiaeth

Dychwelodd Matthew Edwards, Prentis Sylfaen y Flwyddyn 2014, i’w wreiddiau’r wythnos hon i ysbrydoli myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Wrecsam.

Mae Matthew yn rhan o dîm ‘Llysgenhadon Prentisiaeth’ sy’n gweithio gydag Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i deithio’r wlad i annog pobl ifanc i ddilyn y llwybr prentisiaeth a chymryd un o’r amrywiaeth enfawr o rolau sydd ar gael ledled Cymru.

Nid oedd y g?r 23 oed o Wrecsam yn gwybod dim am amrywiaeth y prentisiaethau oedd ar gael iddo pan adawodd yr ysgol yn 18 oed, ond erbyn hyn mae ymhell ar y ffordd i redeg ei fusnes ei hun ar ôl iddo ddilyn cyfres o gyrsiau galwedigaethol gyda Hyfforddiant Cambrian.

Ymwelodd Matthew ag Ysgol Uwchradd Castell Alun yr wythnos hon i siarad gyda disgyblion am sut gwnaeth mynd ar y trywydd galwedigaethol ei helpu i ennill y cymwysterau a’r sgiliau yr oedd arno eu hangen i’w osod ar lwybr at lwyddiant.

Dywedodd wrth y disgyblion sut bu iddo fwynhau gweithio yn ei siop gigydd leol ers iddo fod yn 15 oed, ond mai dim ond ar ôl iddo adael yr ysgol yn 19 oed y bu iddo sylweddoli y gallai fod yn llwybr gyrfa i’w ddilyn.

Ar ôl dilyn cyfres o brentisiaethau mewn sgiliau cigyddiaeth sylfaenol ac uwch, mae bellach wedi gallu symud ymlaen i’r brentisiaeth Lefel 3 Cig a Dofednod mewn sgiliau rheoli a goruchwylio ac mae’n awyddus i ddechrau a pherchen ar ei siop gigydd ei hun.

Dywedodd: “Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i bobl ifanc ddeall yr holl ddewisiadau gyrfa gwahanol sydd ar gael iddynt pan fyddant yn yr ysgol.

“Pan adewais i’r ysgol yn 19 oed, doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud a doeddwn i ddim wir yn deall yr holl ddewisiadau oedd ar gael i mi.

“Nid oeddwn wedi’i ystyried yn yrfa hyd nes i’m cyflogwr yn Siop Fferm Swan’s fy annog i ddilyn gyrfa mewn cigyddiaeth. Ond, sylweddolais yn fuan fod gennyf wir dalent amdano a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers imi gymryd fy mhrentisiaeth gyntaf gyda Jones Butchers yn Llangollen bedair blynedd yn ôl.”

At hynny, dywedodd Matthew, sydd bellach yn gweithio i Vaughan’s Butchers ym Mhenyffordd, “Wnes i wir fwynhau’r elfen ymarferol o wneud prentisiaeth. Rydw i wedi gallu datblygu fy sgiliau a’m cymwysterau mewn cigyddiaeth ond hefyd wedi magu cymaint o hyder trwy weithio gyda chwsmeriaid o ddydd i ddydd.

“Mae’n wych gwybod hefyd fod gen i lwybr gyrfa glir o’m blaen i ac fy mod i’n gwybod yn union pa gymwysterau ychwanegol y mae arnaf eu hangen i redeg fy siop cigydd fy hun.”

O blith yr amrywiaeth enfawr o fframweithiau prentisiaethau sydd ar gael i bobl ifanc ledled Cymru mae cigyddiaeth i bobi, peirianneg i drydanol neu letygarwch i adnoddau dynol. Nod ymgyrch ‘Llysgenhadon Prentisiaeth’ Llywodraeth Cymru yw codi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd, wrth dynnu sylw at y manteision o gael profiad ymarferol dan arweiniad y diwydiant.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:

“Mae cymaint o amrywiaeth o lwybrau gyrfa ar gael i bobl ifanc y dyddiau hyn, yn enwedig os byddant yn dilyn y llwybr galwedigaethol, ac mae’n bwysicach nag erioed bod yr holl ddewisiadau hygyrch sydd ar gael yn cael eu cyflwyno i’r myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud dewisiadau deallus ar eu dyfodol.

“Mae Matthew a’r llysgenhadon prentisiaeth eraill yn fodelau rôl o gig a gwaed i bobl ifanc ledled Cymru.

“Maen nhw’n enghreifftiau clodwiw o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gyfuniad gwerthfawr o sgiliau, cymwysterau a hyfforddiant, Gall dilyn llwybr galwedigaethol prentisiaeth arwain hefyd at yrfa hynod gwerth chweil a llwyddiannus.”

Ychwanegodd Matthew “Gwnes i wir fwynhau cyfarfod â’r myfyrwyr yng Nghastell Alun.

“Mae ganddynt rai penderfyniadau mawrion o’u blaen ar eu dyfodol dros y flwyddyn nesaf felly rwy’n gobeithio bod fy sgwrs i wedi’u hysbrydoli i edrych i mewn i’r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael iddynt ac ystyried dilyn llwybr galwedigaethol.”

Yn gwmni i Matthew oedd ei ddarparwr hyfforddiant a’i fentor, Chris Jones, sef y pennaeth uned fusnes ar gyfer cynhyrchu bwyd yn Hyfforddiant Cambrian. Siaradodd gyda’r disgyblion ynghylch sut mae cynllun prentisiaeth yn gweithio.

Bydd y llysgenhadon prentisiaeth yn ymweld ag ysgolion yng Nghaerdydd, Merthyr, Trecelyn, Treorci, Yr Wyddgrug, Caerfyrddin, Abertawe a’r Trallwng dros y mis nesaf.

Ariennir y rhaglen brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn brentis, ewch i www.careerswales.com neu ffoniwch 0800 0284844. Gallwch ein gweld ni ar Facebook hefyd ar www.facebook.com/apprenticeshipscymru ac ar Twitter @apprenticewales