Diwtor Sgiliau Hanfodol

Sgiliau hanfodol
Abertawe
Posted 11 hours ago

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn chwilio am Diwtor Sgiliau Hanfodol proffesiynol i ddarparu Sgiliau Hanfodol i ddysgwyr o fewn De Orllewin Cymru (ardal Abertawe)

(Llawn Amser 37 awr yr wythnos)

Cyflog: £25,000.00 y flwyddyn – £27,000.00 y flwyddyn yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a chymwysterau

Ein Stori

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn Ddarparwr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith blaenllaw sydd wedi darparu prentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru ers dros 25 mlynedd. Rydym wedi dod yn Gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ddiweddar, sy’n golygu bod gan y gweithwyr gyfran yn llwyddiant y busnes. Rydym yn canolbwyntio ar sectorau Lletygarwch, Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Rheoli ac Arwain, a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy. Ein nod yw ymgysylltu â holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwr, sy’n gefnogi unigolion a sectorau Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Chigyddiaeth i ffynnu trwy hyfforddiant a datblygiad. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel.

BETH RYDYM YN CHWILIO AMDANO:

Rydym yn chwilio i recriwtio Tiwtor Sgiliau Hanfodol medrus i weithio fel rhan o’n tîm Sgiliau Hanfodol Cymru sy’n tyfu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y gallu i addysgu a datblygu ein prentisiaid i gyflawni eu cymwysterau galwedigaethol. Mae hunan gymhelliant, brwdfrydedd, gweithio annibynnol a gwaith tîm yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.

Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oedran, felly mae’n rhaid i’r gallu i ysgogi unigolion a’u cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un o’ch priodoleddau. Rhaid meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a bod â gallu profedig o ysgogi unigolion i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt.

Yn y pen draw, byddwch yn cael llawer iawn o foddhad swydd drwy ddysgu’ch prentisiaid i gyflawni eu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.

Gallwch ddisgwyl cyflwyno addysgu a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth a’ch profiad, wrth genfogi dysgwyr i wella eu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd.

Mae’n ofyniad i feddu ar drwydded yrru ddilys gyfredol, a mynediad i’ch cludiant eich hun gan fod teithio yn hanfodol i’r swydd.

Beth yw cyfrifoldebau craidd y rôl hon?

  • Mae’r rôl yn cynnwys cyflwyno ac asesu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol gan gynnwys Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, a Llythrennedd Digidol (Lefelau 1 a 2).
  • Defnyddio’r offeryn asesu diagnostig WEST i gynllunio cymorth i ddysgwyr a chynllunio’u cyflwyniad.
  • Bod yn gyfrifol am drefnu, cynnal ac arolygu tasgau dan reolaeth gyda dysgwyr yn unol â gofynion CHC a chyrff dyfarnu.
  • Bod yn gyfrifol am gyflawni unrhyw waith gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol megis paratoi, marcio, ac asesu.
  • Defnyddio e-portffolio a Google Drive i gynnal a storio cofnodion dysgwyr.
  • Mynychu sesiynau safoni ac ymgymryd â DPP eich hun a’i gofnodi.
  • Gweithio fel rhan o dîm ynghyd â Swyddogion Hyfforddiant i sicrhau bod y dysgwr yn cyflawni ei Sgiliau Hanfodol a Fframwaith mewn modd amserol.
  • Bod yn atebol am gefnogi ac ymgysylltu â dysgwyr a chyflogwyr.
  • Cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol â’r tîm ac unedau gweithredol ehangach.

Pa sgiliau a phrofiad rydyn ni’n chwilio amdanynt?

  • Profiad o weithio o fewn Dysgu Seiliedig ar Waith.
  • Profiad o gyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.
  • Profiad o gefnogi a gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Byddai bod yn ymarferydd Sgiliau Hanfodol, meddu ar wobr aseswr TAQA neu gymhwyster priodol arall yn fanteisiol.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Y gallu i weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion y dysgwr a chyflogwyr.

MANTEISION ALLWEDDOL:

Cyflog hyd at £27,000.00 y flwyddyn yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a chymwysterau.

  • Oriau gwaith hyblyg.
  • Hawliau gwyliau’r Banc a gwyliau blynyddol hael.
  • Cynllun Tâl Salwch Cwmni ar ddiwedd y cyfnod prawf.
  • Tâl sy’n gysylltiedig â pherfformiad.
  • Cefnogaeth iechyd meddwl a lles.
  • Cyfleoedd DPP parhaus.
  • Cynllun pensiwn cwmni.
  • Darperir gwisg staff, gliniadur a ffôn symudol.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych eisiau’r swydd a pham rydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas i:

Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:

stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893

 

Bydd angen i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen datgeliad DBS ehangach ar draul y cyflogwr.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 28ain o Dachwedd 2025.

 

Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.

Job CategoryHyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm!
Apply here
stephen@cambriantraining.com