Prosiect Gogledd Cymru’n ennill Gwobr Ysbrydoli! am ei waith gyda throseddwyr

Mae prosiect yng Ngogledd Cymru sy’n helpu cael cyn-droseddwyr i waith wedi ennill gwobr ddysgu fawr.

Cipiodd menter Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru 8 Ffordd o Newid Eich Bywyd (8 Ways to Change Your Life) y wobr prosiect yng Ngwobrau Ysbrydoli! fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2015.

Trwy’r prosiect, cynigir profiad gwaith unigol i gyn droseddwyr gyda thîm rheoli gwastraff Thorncliffe Building Supplies, gyda’r potensial am gyflogaeth amser llawn ar ddiwedd y cyfnod prawf neu Brentisiaeth gyda Hyfforddiant Cambrian.

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhedeg o 13 i 19 Mehefin ac yn dathlu dysgu gydol oes, boed yn y gwaith, fel rhan o gwrs addysg gymunedol, yn y coleg, yn y brifysgol neu ar-lein.

Nod yr wythnos, sydd bellach yn ei 24ain flwyddyn yw hyrwyddo ystod y cyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr sy’n oedolion, o ieithoedd i gyfrifiadura a gofal plant i gyllid.

Cynhelir Gwobrau Ysbrydoli! bob blwyddyn cyn yr Wythnos Addysg Oedolion i ddathlu cyflawniadau dysgwyr eithriadol yng Nghymru sydd wedi dangos angerdd eithriadol, ymrwymiad a chymhelliant i ddysgu yn aml yn wyneb amgylchiadau anodd.

Ers dros ddwy flynedd, mae Thorncliffe Building Supplies yn Abergele wedi bod yn gweithio gydag 8Ways, sef prosiect a ddyluniwyd i dorri’r cylch aildroseddu.

Cyfeiria’r term “8Ways” at yr wyth categori lle gellir darparu help – cymorth cyffuriau ac alcohol, llety, plant a theuluoedd, budd-dal cyllid a dyled, iechyd meddwl a chorfforol, agweddau, meddwl ac ymddygiad, ac addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Ar hyn o bryd, mae Thorncliffe yn gweithio gyda naw cyn-droseddwr ar eu safleoedd ar hyd a lled Cymru, yn eu plith, Sean Williams, a gyflogir yn amser llawn ar safle ailgylchu’r cwmni yn Abergele.

Cyfeiriwyd Sean, 27 oed, o Lanelwy at 8 Ways gan y gwasanaeth prawf ddwy flynedd yn ôl ar ôl iddo dreulio cyfres o ddedfrydau o garchar am drais.

“Bûm i drwy’r system ofal, gadewais yr ysgol yn 14 oed a dechreuais yfed a chymryd cyffuriau,” meddai. “Roeddwn i’n ymladd yn y dafarn pob penwythnos ac roeddwn i’n 17 oed yn mynd i’r carchar am y tro cyntaf.

“Gwneuthum bedair blynedd am ymosodiad adran 18 ac ar ôl hynny, roeddwn i nôl ac ymlaen yn y carchar – am yfed ac ymladd bob tro.”

Yn 2013, gadawodd Sean y carchar am y tro olaf ac fe’i cyfeiriwyd at 8Ways gan y gwasanaeth prawf.

Erbyn hyn, mae’n gweithio fel goruchwyliwr gan fod yn gyfrifol am dîm o 10, ac mae’n dad i ferch 15 mis oed, sef Maizie-Jay, gyda’i bartner Leanne.

“Dechreuais fel gwirfoddolwr am fis, gan weithio deuddydd yr wythnos, wedyn cefais gynnig swydd ac ymhen tri mis, cefais fy nyrchafu i rôl goruchwyliwr,” meddai.

“Rhoddodd gyfle i mi newid, rhoddodd fy swydd gyntaf i mi a’m rhoi o gwmpas cyflogwyr oedd yn credu ynof i ac a oedd eisiau i mi wneud yn dda.”

Mae Sean bellach wedi cwblhau ei Brentisiaeth lefel dau mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy, gan gynnwys lefel un mewn Sgiliau Hanfodol, ac mae’n gweithio tuag at ei Brentisiaeth lefel tri a gobeithia fod yn Rheolwr Safle un diwrnod.

“Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a gwyliais bobl oedd wedi mynd i’m hysgol yn cael bywyd braf, car a chartref da, pethau roeddwn i eu heisiau,” meddai.

“Efallai fy mod i wedi’i wneud yn hwyrach na’r lleill, ond mae dysgu wedi newid fy mywyd a fi yw’r prawf nad yw hi byth yn rhy hwyr. Po fwyaf y dysgwch  chi, gorau i gyd fydd eich cyfleoedd.”

Dywedodd Steve Harper, Rheolwr y Safle: “Mae’r prosiect wedi gwella hyder a hunan-barch, ac wedi cymell y dysgwyr i aros ar ochr iawn y gyfraith ond wedi’u cymell yn academaidd hefyd i wella’u sgiliau llythrennedd ac ennill cymwysterau.

“Mae gwarth yn cael ei gysylltu â chyn droseddwyr, sy’n golygu nad yw llawer o bobl yn barod i gynnig cyfle iddynt, sy’n meddwl wrth reswm fod y cylch yn parhau gan fod rhywun sydd newydd adael y carchar yn ei chael hi’n anodd cael swydd.

“Rydym yn hapus i roi cyfle i rywun sydd wedi bod yn y carchar i gael profiad gwaith a hyfforddiant, ac mae llawer ohonynt yn aros yma i weithio i ni. Mae’n system sydd o fantais iddyn nhw fel unigolion ac i ni fel cwmni gan eu bod nhw wedi bod yn weithwyr gwych sy’n ddiolchgar o gael y cyfle.”

Trefnir Wythnos Addysg Oedolion gan NIACE Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi cyfle i bawb ddysgu rhywbeth newydd, p’un a ydych yn y dysgu o adref, yn y gweithle neu yn eich cymuned leol.

“Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod y bobl sydd wedi cymryd y cam hwnnw, a dylai eu hesiampl hwy annog unrhyw un sy’n credu ei bod hi naill ai’n rhy hwyr neu’n rhy anodd i fynd ati i ddysgu sgil newydd.

“Gobeithiwn y bydd Wythnos Addysg Oedolion yn annog oedolion ledled Cymru i gael gwybod mwy am eu sgiliau a’u dewisiadau gyrfa trwy fynd draw i’r digwyddiadau yn eu hardal.

“Gall oedolion hyd yn oed droi at y Porth Sgiliau i gael cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd, p’un a ydyn nhw eisiau gwella’u sgiliau a chyflogadwyedd neu fynd nôl i’r gwaith.”

Dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwr NIACE Cymru: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn ein hatgoffa ni o rym dysgu ac mae pob stori’n destament i waith caled y dysgwyr a’r tiwtoriaid.

“Mae pob enillydd wedi dod yn bell ac wedi dangos gwir benderfyniad ac angerdd i ddysgu a dymunwn bob llwyddiant i bob un ohonynt i’r dyfodol.

“Gall pawb gymryd rhan yn yr Wythnos Addysg Oedolion trwy ymuno â digwyddiad am ddim i ddysgwyr yn eu hardal ar unrhyw beth o gymorth cyntaf i ffotograffiaeth ddigidol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion, ewch i www.careerswales.com/skillsgateway , ffoniwch 0800 028 4844 neu dilynwch @skillsgatewaycw

Diwedd

Ymholiadau’r cyfryngau i Claire Rees neu Amanda Bunn yn Golley Slater ar 02920 786048 neu crees@golleyslater.co.uk/abunn@golleyslater.co.uk