Busnes lladd-dy ymgeisydd terfynol yn cael budd o’r Prentisiaethau

Mae gan ladd-dy yng Nghanolbarth Cymru, sy’n defnyddio Prentisiaethau i ddatblygu a gwella gweithlu hyderus, medrus ac ymroddedig, gyfle i ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Mae Randall Parker Foods, Dolwen, Llanidloes, yn un o’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yng nghategori Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, 29 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Randall Parker Foods, sy’n cyflogi dros 110 o staff ac yn cyflenwi cig i gwsmeriaid ar draws y DU ac Ewrop, yn cael budd o hyfforddi a datblygu ei gyflogeion.

“Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar hyfforddi a datblygu staff, a’i weld fel ffordd o gyflogi a chadw gweithwyr proffesiynol medrus all ein helpu ni i symud ymlaen yn strategol o ran datblygiad a thwf y busnes,” meddai Jessica Bradley, rheolwr adnoddau dynol y cwmni.

Mae gan y cwmni 20 o brentisiaid ar hyn o bryd ac mae’n gobeithio cynnwys 10 arall ym mis Ionawr. Mae staff o bob sector o’r gweithlu’n cael cynnig ystod o hyfforddiant fel rhan o ethos y cwmni o ddysgu gydol oes.

Mae Fframweithiau Prentisiaeth yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen yn Prosesu Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Busnes a Gweinyddu. Darperir hyfforddiant hyblyg wedi ei deilwra i anghenion y cwmni gan Gwmni Cambrian Training o’r Trallwng.

Ar wahân i greu gweithlu medrus, mae’r rhaglen Brentisiaeth wedi helpu i gadw staff ac wedi hybu proffil y cwmni. Mae trosiant recriwtiaid newydd wedi gostwng o 41 y cant yn 2014 i 15 y cant eleni.

“Mae ymrwymo i staff a’u datblygu yn unol â’r Fframwaith Prentisiaeth wedi arwain at ddelwedd gadarnhaol o yrfaoedd hirdymor â thâl da sy’n cael eu cynnig yn y busnes,” ychwanegodd Jessica.

Canmolodd Chris Jones, pennaeth cwricwlwm Cwmni Cambrian Training ar gyfer cynhyrchu bwyd Randall Parker Foods am wneud ymrwymiad mawr i ddatblygu gweithlu o ansawdd trwy ddarparu cyfleoedd dysgu i’r holl staff.

Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Randall Parker Foods a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.

“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTfW, ar Ffôn: 02920 495861