Busnesau’n dod adref â’r wobr Aur yn y Gwobrau Twristiaeth

Enwyd Parc Antur a Sw Fferm Ffoli yng Nghilgeti fel y Diwrnod Allan Gorau yng Nghymru 2015 yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Roedd hi’n noson lwyddiannus hefyd i fusnesau eraill Gorllewin Cymru gyda Clydey Cottages ym Moncath yn cael ei enwi fel y Lle Gorau i Aros yn y categori hunanarlwyo a The Grove yn Arberth yn cymryd y wobr Aur ar gyfer Datblygu Sgiliau Twristiaeth.

Casglodd Coast yn Saundersfoot y wobr arian am y Lle Gorau i Fwyta – Tai Bwyta Mawr ac enillodd y Griffin Inn yn Dale arian hefyd am y Lle Gorau i Fwyta – Tafarn. Casglodd y Long Course Weekend, sef g?yl dridiau o chwaraeon yn Ninbych-y-Pysgod, efydd am y Digwyddiad Gorau – Mawr yng Nghymru.

Dywedodd Chris Ebsworth, cyfarwyddwr Parc Antur a S? Fferm Ffoli: “Rydym wrth ein boddau o ennill y Diwrnod Allan Gorau yng Nghymru am y trydydd tro. Nid oes mesur gwell o’n llwyddiant na chael y gydnabyddiaeth hon gan ein cymheiriaid yn y diwydiant. Rydym yn falch o’r rhan fach a chwaraewn yn yr arlwy twristiaeth ryfeddol sydd yng Nghymru a derbyniwn y wobr hon yn falch ar ran ein hymwelwyr ffyddlon a’n staff ymroddedig.”

Noddwyd y categori Datblygu Sgiliau Twristiaeth gan Hyfforddiant Cambrian, noddwyd y Diwrnod Allan Gorau gan Edwards Coaches, noddwyd Y Lle Gorau i Aros gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a noddwyd y Lle Gorau i Fwyta gan Fwyd a Diod Cymru. Noddodd Croeso Cymru’r categori Digwyddiad Gorau.

Mae’r gwobrau, a gynhelir gan Croeso Cymru mewn partneriaeth fasnachol â Quadrant Media & Communications, yn cydnabod y goreuon yn nhwristiaeth Cymru ac yn cynnwys categorïau fel y Lle Gorau i Aros, y Lle Gorau i Fwyta, y Diwrnod Allan Gorau, y Digwyddiad Gorau, y Croeso Gorau i Ymwelwyr, Datblygu Sgiliau Twristiaeth, y Busnes Twristiaeth Gorau a’r categori Seren Twristiaeth y Dyfodol newydd, sy’n cydnabod y rhai sydd ar eu ffordd i fyny yn y diwydiant. Cynhaliwyd y gwobrau yn y Vale Resort yn Hensol ar nos Fercher 25 Mawrth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “ Y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yw Oscars y diwydiant twristiaeth ac maent yn talu teyrnged i’r sawl sy’n ymroi ac yn angerddol am eu busnesau, twristiaeth a Chymru. Mae ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig yma yng Nghymru’n mynd o nerth i nerth ac mae’r Gwobrau’n gyfle i ni gyd ddathlu’r diwydiant ac arddangos ansawdd eithriadol ein sector twristiaeth fywiog. Hoffwn longyfarch yr enillwyr a dymunwn y gorau ar gyfer tymor llwyddiannus.

Gellir edrych ar restr lawn yr enillwyr ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2015 yn http://www.ntawales.com/english/categories/

Enillwyr fesul categori
Y Busnes Twristiaeth Gorau, noddir gan Quadrant Media & Communications
Aur – Celtic Manor Resort (De Ddwyrain)
Arian – Venue Cymru (Gogledd)
Efydd – Canolfan D?r Gwyn Ryngwladol Caerdydd (De Ddwyrain)
Digwyddiad Gorau (Mawr), noddir gan Croeso Cymru
Aur – Wales Rally GB (Gogledd)
Arian – G?yl Fwyd y Fenni (De Ddwyrain)
Efydd – The Long Course Weekend (De-orllewin)
Digwyddiad Gorau (Bach), noddir gan Croeso Cymru
Aur – G?yl Lenyddiaeth Dinefwr (De-orllewin)
Arian – Welshpool Airshow & Transport Festival (Canolbarth)
Efydd – Isle of Fire (De Ddwyrain)
Y Croeso Gorau i Ymwelwyr, noddir gan Gyngor Bro Morgannwg
Aur – Monmouthshire Cottages (De Ddwyrain)
Arian – Pen-y-ceunant Isaf Tea House (Gogledd)
Efydd – Cantref Adventure Farm (Canolbarth)
Y Diwrnod Allan Gorau, noddir gan Edwards Coaches
Aur – Parc Antur a Sw Fferm Ffoli (De-orllewin)
Arian – Canolfan D?r Gwyn Ryngwladol Caerdydd (De Ddwyrain)
Efydd –Zip World (Gogledd)
Canmoliaeth – Corris Craft Centre (Canolbarth)
Y Lle Gorau i Fwyta (Tai Bwyta Mawr), noddir gan Bwyd a Diod Cymru
Aur – Sosban (De-orllewin)
Arian – Coast (De-orllewin)
Efydd – Dylan’s (Gogledd)
Y Lle Gorau i Fwyta (Tai Bwyta Bach), noddir gan Bwyd a Diod Cymru
Aur – Neuadd Ynyshir (Canolbarth)
Arian – Y Polyn (De-orllewin)
Efydd – The White Hart Village Inn (De Ddwyrain)
Y Lle Gorau i Fwyta (Caffi), noddir gan Bwyd a Diod Cymru
Aur – The Bakers’ Table CIC (Canolbarth)
Arian – Raspberry Tea Room (De Ddwyrain)
Efydd – Wright’s Food Emporium (De-orllewin)
Y Lle Gorau i Fwyta (Tafarn), noddir gan Bwyd a Diod Cymru
Aur – The Bee Inn (Gogledd)
Arian – Griffin Inn Dale (De-orllewin)
Efydd – Black Boy Inn (Gogledd)
Y Lle Gorau i Aros (Gwesty), noddir gan Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Aur – Neuadd Ynyshir (Canolbarth)
Arian – Celtic Manor Resort (De Ddwyrain)
Efydd – Neuadd Llangoed (Canolbarth)
Y Lle Gorau i Aros (Hunanarlwyo), noddir gan Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Aur – Clydey Cottages (De-orllewin)
Arian – Rivercatcher (Gogledd)
Efydd – Plas Dinam Country House (Canolbarth)
Y Lle Gorau i Aros (Llety ar gyfer Gwesteion), noddir gan Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Aur – Glangwili Mansion (De-orllewin)
Arian – Llanerch Vineyard (De Ddwyrain)
Efydd – Black Boy Inn (Gogledd)
Y Lle Gorau i Aros (Hosteli, Tai Bync a Llety Arall), noddir gan Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Aur – Wye Valley Canoes (Canolbarth)
Arian – Plas Curig (Gogledd)
Efydd – Scamperholidays (De-orllewin)
Y Lle Gorau i Aros (Parc Gwyliau, Carafanau Teithio a Gwersylla), noddir gan Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Aur – Pen Y Garth (Canolbarth)
Arian – Tree Tops Caravan Park (Gogledd)
Efydd – Trecco Bay Holiday Park (South)
Seren Dwristiaeth y Dyfodol, noddir gan Destination Conwy
Aur – Sean Taylor (Gogledd)
Arian – Tim Rees (De-orllewin)
Efydd – Ryan Thomas (Canolbarth)
Datblygu Sgiliau Twristiaeth, noddir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian
Aur – The Grove (De-orllewin)
Arian – Celtic Manor Resort (De Ddwyrain)
Efydd – Gwesty’r Emlyn Hotel (De-orllewin)