Buddugoliaeth Brwydr y Ddraig i Gogyddion Canolbarth Cymru

Mae tîm o gogyddion o Ganolbarth Cymru wedi rhoi’r ardal ar y map trwy ennill cystadleuaeth fawreddog Brwydr y Ddraig ym mhrif ddigwyddiad coginio’r wlad.

Dan arweiniad yr aelod profiadol o Dîm Coginio Cenedlaethol Cymru, Nick Davies, Cogydd-Perchennog y Lion Hotel, Llandinam, brwydrodd y tîm yn erbyn her gref o ardaloedd Gogledd a De Cymru i godi Tlws y Ddraig.

Datgelodd llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru, Colin Gray mai dim ond ambell i bwynt oedd wedi gwahanu’r timau ar ôl tridiau o gystadlu yn 20fed Pencampwriaeth Coginio Ryngwladol Cymru yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos. Noddir y bencampwriaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Unilever Food Solutions a Hybu Cig Cymru.

Yn ymuno â Davies, y capten yn nhîm Canolbarth Cymru oedd cyn bencampwr Cogydd Cenedlaethol Cymru, Neil Roberts, sef cogydd-perchennog y Waggon and Horses, Y Drenewydd, Kelly Thomas o Lanbedr Pont Steffan a Stephen Griffiths o’r Trallwng, ill dau’n gweithio i Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’r prentis o gogyddion Rhiannon Morris, 17 oed o’r Lion Hotel, Llandinam a Jacob Sampson, 18 oed o’r Raven Inn, y Trallwng. Gareth Johns oedd Rheolwr y Tîm, sef cydberchennog Gwesty Wynnstay, Machynlleth.

Gweinodd pob tîm fwydlen tri chwrs i 90 o giniawyr. Dechreuodd Canolbarth Cymru gyda therîn sewin (brithyll môr) a chennin wedi’i gywasgu, tarten cregynbysgod Bae Ceredigion hufennog, hollandaise sitrws, salad ffenigl a chucumer wedi’u piclo a saws tomato paprica.

Ar gyfer y prif gwrs, cafwyd crwmp oen rhost Cymru, risol cig oen sinsir sbeislyd, bresych Savoy hufennog, pwmpen cnau menyn rhost, tatws stwnsh mwg Halen Môn, ffriter offal a sudd sialóts ac eirin ysgaw. I bwdin cafwyd tarten siocled a Chwisgi Penderyn, sorbed granadila, pwdin rhew llugaeron, toesen sinamon ceuled oren a salsa mango.

Canmolodd Mr Davies gyd aelodau ei dîm i’r entrychion, yn enwedig y ddau brentis. “Allwn i ddim credu pa mor dda ymdopon nhw gyda’r pwysau, heb wegian o gwbl, aeth popeth fel cloc yn y gegin”, meddai. “Gweithio fel tîm oedd ein cryfder mawr. Gweithiodd pob un ohonom ar y tri phryd ac rwy’n credu i hynny dalu ar ei ganfed.

“Mae’r fuddugoliaeth hon yn cydnabod nad dim ond pwdin coginio yw Canolbarth Cymru. Efallai bod y gwestai mawr i gyd yn Ne a Gogledd Cymru, ond mae yna gogyddion da iawn yma yng Nghanolbarth Cymru ac mae’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn ddisglair gyda’r doniau sy’n dod i’r amlwg.
“Roedd hi’n wych cael 18 cogydd yng Nghymru’n cystadlu, sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol. Gobeithiwn drefnu cyfres o giniawau chwaethus yng Nghanolbarth Cymru i ennyn diddordeb rhagor o gogyddion, er mwyn rhwydweithio a chodi lefel y sgiliau yn yr ardal.”

Cymerodd y beirniad ddwy awr i benderfynu ar yr enillydd. “Roedd y rhan fwyaf o’r pwyntiau ar gyfer blas a chafodd pob tîm sgorau tebyg iawn”, meddai Mr Gray, perchennog Capital Cuisine yng Nghaerdydd.

Eleni, roedd elfen gyhoeddus i’r beirniadu. Estynnwyd gwahoddiad i bawb a eisteddodd i giniawa dros y tridiau i lenwi cerdyn sgorio ac roedd eu pleidleisiau’n cael eu cyfuno gyda rhai’r panel beirniadu i benderfynu ar yr enillydd.

“Roedd pleidlais y cyhoedd yn eithaf agos i sgorau’r beirniaid a’r farn gyfunol oedd mai Canolbarth Cymru oedd piau hi o drwch blewyn,” ychwanegodd Mr Gray. “Bu ansawdd y bwyd dros y tridiau’n wych, a chydnabuwyd hyn trwy ddyfarnu medalau aur i’r tri thîm.

“Dyma ganlyniad rhyfeddol i Ganolbarth Cymru, a gafodd ei adfer yn ardal Cymdeithas Goginiol Cymru haf diwethaf.”
Newidiodd Cymdeithas Goginiol Cymru ei thraddodiad eleni trwy wahodd y tri thîm rhanbarthol i gystadlu am Dlws y Ddraig i arddangos coginio gorau Cymru. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwahoddwyd dau dîm rhyngwladol i gystadlu yn erbyn Cymru yn y gystadleuaeth.

“Mae’r gystadleuaeth wedi creu cymaint o ddiddordeb cyhoeddus yn y rhanbarthau a bu cyfeillgarwch penigamp rhwng y timau” ychwanegodd Mr Gray. Bwriadwn nawr i gyfalafu ar y teimlad cadarnhaol hwn er mwyn symud y gymdeithas yn ei blaen.”

Roedd wrth ei fodd o gyflwyno’r cogyddion oedd yn dod i’r amlwg i arena’r gystadleuaeth, gan fod rhaid i bob tîm gynnwys o leiaf ddau aelod dan 23 oed. “Ar ôl cael blas am gystadlu, rwy’n gobeithio y bydd y cogyddion ifanc hyn am barhau,” meddai.

Dechreuodd Gogledd Cymru’r gystadleuaeth ar ddydd Mawrth, gan goginio bwydlen yn defnyddio Cig Eidion Cymru fel prif gwrs. Yn gapten ar y tîm roedd Toby Beevers, cydberchennog Kokonoir, Brychdyn. Roedd cyd-aelodau ei dîm yn cynnwys Danny Burke, perechennog Shared Olive, Penarlâg, Hefin Roberts, prif gogydd ac Ioan Evans o Ye Olde Bull’s Head Inn, Biwmaris, Sally Owens, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos a Chris Tull, Signatures Restaurant, Aberconwy.

Cwblhaodd De Cymru’r arlwy ar ddydd Iau, gan goginio porc Cymru fel prif gwrs. Roedd y tîm yn cynnwys y capten Trevor Jones, cogydd gweithredol yn Custom House, Penarth, a phum aelod o’r Celtic Manor Resort, Casnewydd, oedd yn cynnwys y prif gogydd gweithredol Michael Bates, sydd hefyd yn gogydd-perchennog ar y White Hart Village Inn, Llangybi, y cogydd crwst gweithredol Karl Jones-Hughes, y cogydd Simon Crockford a’r dirprwy gogyddion Jonathan Pring a Ffion Lewis.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Colin Gray, llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru ar 02920 851997 neu 07957 422546 neu Duncan Foulkes, swyddog y wasg, ar 01686 650818.