Busnes cig yn lansio academi i ddatblygu staff medrus

Gwnaeth ddymuniad i ddenu, datblygu a chadw gweithwyr o’r ardal amgylchynol berswadio Celtica Foods, sef busnes cigyddiaeth arlwyo a phrosesu cig yng Ngorllewin Cymru, i ddatblygu ei academi hyfforddiant ei hun.

Mae gan y cwmni yn Cross Hands weithlu o 75 a throsiant o £12.8 miliwn. Cyflenwa’r sector lletygarwch a gwasanaeth bwyd ac mae nifer fawr o’i gynhyrchion wedi’u teilwra i gwsmeriaid unigol, gan ofyn am gigyddion medrus i brosesu archebion.

Erbyn hyn, mae Celtica Foods ar y rhestr fer am Wobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu am deitl Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor Resort yng Nghasnewydd ar 20 Hydref.

Mae’r gwobrau chwenychedig a gyd-drefnir gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn cael eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan bartner y cyfryngau, Media Wales.

Mae tri deg o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu arbennig sydd ynghlwm â’r gwaith o gyflwyno rhaglenni sgiliau llwyddiannus ar draws Cymru ar y rhestr fer am Wobrau Prentisiaethau Cymru.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dyluniwyd y gwobrau i arddangos a dathlu cyflawniadau eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu rhaglenni Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Cydnabuodd Celtica Foods, adain y cyfanwerthwr bwyd Castell Howell Foods Ltd, mai un o’r bygythiadau posibl i fusnes oedd proffil oedran y cigyddion h?n – sef 49 oed ar gyfartaledd – ac roedd y farchnad lafur newidiol yn golygu bod llai o gigyddion medrus ar gael i’w recriwtio.

Dywedodd Edward Morgan, rheolwr gyfarwyddwr Celtica Foods: “Mae deinameg cyflogaeth yn sector cig y DU wedi arwain at fwlch yn yr ymadawyr ysgol sy’n dechrau yn y grefft.”

Roedd angen i’r cwmni ddenu gweithwyr iau a rhoi iddynt ystod lawn o sgiliau cigyddiaeth i fodloni gofynion y sector arlwyo a lletygarwch.

Felly, sefydlwyd academi hyfforddiant a chyflwynir cymwysterau sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen mewn Cig a Dofednod a Sgiliau Diwydiant Bwyd i Uwch Brentisiaeth mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd gan y darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian. Yn ystod y degawd diwethaf, mae 114 aelod o staff wedi cwblhau rhaglenni prentisiaeth ac mae gan y cwmni naw prentis ar hyn o bryd.

“Sylwir bod y prentisiaid yn frwdfrydig ynghylch eu dysgu parhaus ac maen nhw’n ymateb yn dda i’r amser a fuddsoddir,” ychwanegodd Edward.

Wrth ganmol safon yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Celtica Foods am gael eu cynnwys ar y rhestr fer am wobr, dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Ymhlith yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eleni mae unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd ymhellach i gefnogi’r prentisiaid maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon yn dal i ryfeddu ac ysbrydoli.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn gynhwysion hanfodol i lwyddo’n economaidd ac yn offer hollbwysig wrth adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn cynnig platfform delfrydol er mwyn dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymunaf bob lwc i bawb ar y noson.”