Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn chwilio am Diwtor Sgiliau Hanfodol proffesiynol i ddarparu Sgiliau Hanfodol i ddysgwyr o fewn De Orllewin Cymru (ardal Abertawe)
(Llawn Amser 37 awr yr wythnos)
Cyflog: £25,000.00 y flwyddyn – £27,000.00 y flwyddyn yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a chymwysterau
Ein Stori
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn Ddarparwr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith blaenllaw sydd wedi darparu prentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru ers dros 25 mlynedd. Rydym wedi dod yn Gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ddiweddar, sy’n golygu bod gan y gweithwyr gyfran yn llwyddiant y busnes. Rydym yn canolbwyntio ar sectorau Lletygarwch, Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Rheoli ac Arwain, a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy. Ein nod yw ymgysylltu â holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwr, sy’n gefnogi unigolion a sectorau Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Chigyddiaeth i ffynnu trwy hyfforddiant a datblygiad. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddi a datblygu o ansawdd uchel.
BETH RYDYM YN CHWILIO AMDANO:
Rydym yn chwilio i recriwtio Tiwtor Sgiliau Hanfodol medrus i weithio fel rhan o’n tîm Sgiliau Hanfodol Cymru sy’n tyfu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y gallu i addysgu a datblygu ein prentisiaid i gyflawni eu cymwysterau galwedigaethol. Mae hunan gymhelliant, brwdfrydedd, gweithio annibynnol a gwaith tîm yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ochr yn ochr â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr a phrentisiaid o bob oedran, felly mae’n rhaid i’r gallu i ysgogi unigolion a’u cefnogi i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt fod yn un o’ch priodoleddau. Rhaid meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, a bod â gallu profedig o ysgogi unigolion i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt.
Yn y pen draw, byddwch yn cael llawer iawn o foddhad swydd drwy ddysgu’ch prentisiaid i gyflawni eu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.
Gallwch ddisgwyl cyflwyno addysgu a dysgu yn y gweithle o ddydd i ddydd, gan drosglwyddo eich gwybodaeth a’ch profiad, wrth genfogi dysgwyr i wella eu llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd.
Mae’n ofyniad i feddu ar drwydded yrru ddilys gyfredol, a mynediad i’ch cludiant eich hun gan fod teithio yn hanfodol i’r swydd.
Beth yw cyfrifoldebau craidd y rôl hon?
- Mae’r rôl yn cynnwys cyflwyno ac asesu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol gan gynnwys Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, a Llythrennedd Digidol (Lefelau 1 a 2).
- Defnyddio’r offeryn asesu diagnostig WEST i gynllunio cymorth i ddysgwyr a chynllunio’u cyflwyniad.
- Bod yn gyfrifol am drefnu, cynnal ac arolygu tasgau dan reolaeth gyda dysgwyr yn unol â gofynion CHC a chyrff dyfarnu.
- Bod yn gyfrifol am gyflawni unrhyw waith gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol megis paratoi, marcio, ac asesu.
- Defnyddio e-portffolio a Google Drive i gynnal a storio cofnodion dysgwyr.
- Mynychu sesiynau safoni ac ymgymryd â DPP eich hun a’i gofnodi.
- Gweithio fel rhan o dîm ynghyd â Swyddogion Hyfforddiant i sicrhau bod y dysgwr yn cyflawni ei Sgiliau Hanfodol a Fframwaith mewn modd amserol.
- Bod yn atebol am gefnogi ac ymgysylltu â dysgwyr a chyflogwyr.
- Cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol â’r tîm ac unedau gweithredol ehangach.
Pa sgiliau a phrofiad rydyn ni’n chwilio amdanynt?
- Profiad o weithio o fewn Dysgu Seiliedig ar Waith.
- Profiad o gyflwyno Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.
- Profiad o gefnogi a gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Byddai bod yn ymarferydd Sgiliau Hanfodol, meddu ar wobr aseswr TAQA neu gymhwyster priodol arall yn fanteisiol.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Y gallu i weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion y dysgwr a chyflogwyr.
MANTEISION ALLWEDDOL:
Cyflog hyd at £27,000.00 y flwyddyn yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a chymwysterau.
- Oriau gwaith hyblyg.
- Hawliau gwyliau’r Banc a gwyliau blynyddol hael.
- Cynllun Tâl Salwch Cwmni ar ddiwedd y cyfnod prawf.
- Tâl sy’n gysylltiedig â pherfformiad.
- Cefnogaeth iechyd meddwl a lles.
- Cyfleoedd DPP parhaus.
- Cynllun pensiwn cwmni.
- Darperir gwisg staff, gliniadur a ffôn symudol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych eisiau’r swydd a pham rydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas i:
Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:
stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893
Bydd angen i chi gofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd angen datgeliad DBS ehangach ar draul y cyflogwr.
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Dydd Gwener 28ain o Dachwedd 2025.
Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.
| Job Category | Hyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm! |
