Chloe, y 10,000fed cyfranogwr yn Nhwf Swyddi Cymru’n ennill swydd dylunio’i breuddwydion

Mae unigolyn graddedig a oedd yn ddi-waith am flwyddyn cyn ennill swydd ei breuddwydion wedi’i hanrhydeddu mewn digwyddiad sy’n dathlu carreg filltir i Dwf Swyddi Cymru.

Chloe Bignell o Lanelli yw’r 10,000fed person i sicrhau swydd gyda Thwf Swyddi Cymru, sef rhaglen Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n cynnig cyfle am swydd gyda thâl am chwe mis i bobl ifanc ddi-waith.
Roedd Chloe, sy’n ddau ddeg dwy oed, yn westai anrhydeddus yn y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mercher), a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates.
Gwahoddodd y digwyddiad bobl ifanc a chyflogwyr ledled Cymru i ddathlu eu llwyddiant trwy’r rhaglen gyflogaeth flaenllaw i bobl ifanc.
Graddiodd Chloe, sy’n byw yn Llannerch, gyda gradd 2:1 mewn Dylunio Graffig o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a threuliodd y 12 mis nesaf yn ceisio cymryd ei cham cyntaf i’r diwydiant.
“Roeddwn i’n anfon rhyw un CV yr wythnos, gwneuthum gais am 30 o swyddi yn yr ardal leol, ond ni chefais yr un gwahoddiad i gyfweliad,” meddai.
“Roedd hi fel petai neb yn fodlon rhoi gwaith i ddylunydd iau heb fod ganddynt o leiaf bum mlynedd o brofiad. Roeddwn i mewn sefyllfa lle byddwn i wedi derbyn unrhyw swydd oedd ar gael. Roeddwn i ar fin gwneud cais am swydd yn y llyfrgell leol, rhywbeth hollol wahanol i’r hyn roeddwn i wedi gweithio tuag ato. Roedd bod yn ddi-waith yn anodd ac roeddwn i’n dechrau colli synnwyr o’r hyn roeddwn i am ei wneud. Roeddwn i’n ystyried gadael dylunio’n gyfan gwbl gan nad oedd yn ymddangos yn ddewis gyrfa ymarferol.”

Wedyn, daeth Chloe ar draws rhaglen Twf Swyddi Cymru a gynigiodd cyfle o swydd am chwe mis yng nghwmni dylunio ATECH Signs yn Llanelli ac mae hi bellach wedi dechrau gweithio fel dylunydd iau gyda’r gobaith o swydd barhaol.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, aeth 82% o bobl ifanc sy’n gweithio yn y sector preifat ymlaen i gyflogaeth barhaol, prentisiaeth neu gyfleoedd dysgu pellach ar ôl cwblhau eu cyfleoedd chwe mis gyda Thwf Swyddi Cymru.

“Rydw i’n dwlu ar fy ngwaith” meddai Chloe. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar Mini sy’n cael ei drawsnewid yn gar rasio. Mae hynny wedi bod yn gyffrous tu hwnt. Fy ngwaith i yw ffitio’r gwaith graffeg ar y gwaith metel sydd wedi’i newid yn ddramatig i’r cleient, sef rhywun sy’n caru rasio a cheir Mini ill dau.”

Cynigiwyd y cyfle am swydd i Chloe yn y cwmni ym Mharc Diwydiannol Trostre trwy Hyfforddiant Cambrian. “Cymerais i’r cyfle’n syth” meddai. “Rhoddodd gyfle i mi, na fyddwn i wedi’i gael fel arall, i ddilyn fy newis gyrfa ac rwy’n ei fwynhau’n aruthrol. Mae’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw’n wych ac rwy’n dysgu wrthynt wrth i mi fynd yn fy mlaen – mae tipyn i’w ddysgu ac rydw i eisoes yn adeiladu fy sgiliau ymarferol. Rydw i hapusaf pan fyddaf yn greadigol ac roeddwn i wrth fy modd â chelf yn yr ysgol – pan oeddwn yn iau, nid oeddwn i erioed wedi sylweddoli y gallwn i gael fy nhalu am wneud hynny bob dydd.”

Dywedodd Richard Thomas, cyflogwr Chloe yn ATECH: “Yn ystod twf ATECH, mae ystod a swm y tasgau wedi rhoi pwysau ar ein tîm dylunio i fodloni dyddiadau cau parhaus. Lleddfwyd y pwysau hyn yn sgil cyflwyno’n dylunydd iau newydd a gwych. Dewiswyd Chloe o blith sawl ymgeisydd, am ei bod hi’n sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw pawb gyda’i set sgiliau perthnasol. Mae Chloe wedi bod yn gaffaeliad gwerthfawr i’r cwmni, a gwnaed hyn yn bosibl trwy gynllun Twf Swyddi Cymru.”

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Mae Twf Swyddi Cymru’n stori lwyddiant heb ei hail. Rydw i’n falch ofnadwy o wybod cynifer y bobl ifanc sydd bellach wedi cael eu helpu i gyfleoedd gwaith ystyrlon, gyda thâl sy’n arwain at gyflogaeth amser llawn. Nid oes dim amheuaeth ynghylch yr effaith y mae’r rhaglen hon wedi’i chael ar leihau diweithdra ymhlith ieuenctid. Ni fyddai’r cyfleoedd hyn wedi bodoli oni bai am Dwf Swyddi Cymru. Mae a wnelo’r digwyddiad heddiw â dathlu pobl ifanc fel Chloe a’u cyflogwyr. Heb eu cefnogaeth, eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd nhw, ni fyddai Twf Swyddi Cymru wedi bod yn gymaint o lwyddiant.”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Ddwy flynedd yn ôl, ni allem fod wedi dychmygu pa mor llwyddiannus y byddai Twf Swyddi Cymru’n dod. Nid oes llawer o raglenni cyflogaeth i bobl ifanc lle mae 82% o bobl ifanc yn y sector preifat yn symud ymlaen i gyflogaeth barhaus neu ddysgu pellach ar ôl chwe mis.

“Mae hynny’n dangos pa mor effeithiol y bu Twf Swyddi Cymru wrth helpu’n pobl ifanc i waith – gan roi iddynt y sgiliau, y profiad a’r gefnogaeth y mae arnynt eu hangen i ddechrau cyflogaeth barhaol. Mae Twf Swyddi Cymru wedi rhoi’r cyfle angenrheidiol i bobl ifanc fel Chloe i gael eu troed i mewn i fyd gwaith a dangos eu potensial enfawr, gan helpu ein cyflogwyr i dyfu ar yr un pryd. Mae’n fformiwla lwyddiannus ac rwy’n eithriadol o falch o bob person ifanc sydd wedi gwneud y rhaglen hon yn gymaint o lwyddiant syfrdanol.”