Cwestiynau Cyffredin am Brentisiaethau – atebion i’ch cwestiynau

Beth ydych chi eisiau bod pan fyddwch chi’n tyfu i fyny? Dyna’r cwestiwn y mae pawb yn ei ofyn ac yn anffodus, ni allwn ateb hynny ar eich rhan. Ond yr hyn y gallwn ei gynnig i chi yw opsiwn cyffrous a rhad ac am ddim i ennill cymwysterau, sgiliau a phrofiad wrth ennill cyflog. Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi yw prentisiaeth.

Mae ein rhaglenni prentisiaeth arobryn yn rhoi’r cyfle i chi ennill cyflog wrth ennill cymhwyster achrededig mewn gyrfa o’ch dewis.

Gwyddom pa mor anodd y gall penderfynu ar eich gyrfa yn y dyfodol fod i chi. Er mwyn ceisio gwneud hynny ychydig yn haws, rydym wedi rhestri rhai cwestiynau cyffredin am ein prentisiaethau seiliedig ar waith.

 

C: Ydw i’n rhy hen i wneud prentisiaeth?

A: Allwch chi byth fod yn rhy hen i wneud prentisiaeth. Mae ein prentisiaethau ar gael i unigolion o unrhyw oed o 16 i fyny.

 

C: A yw’r hyfforddiant neu’r cymhwyster yn costio arian?

A: Mae ein prentisiaethau yn hollol rad ac am ddim i chi!

 

C: A ydw i’n ennill cyflog tra byddaf yn hyfforddi?

A: Rydych chi’n dal i ennill cyflog fel unrhyw aelod arall o staff ac er weithiau gall cyflogau prentisiaethau fod ychydig yn is, mae’r cyflog yn gallu bod yn fwy nag yr ydych chi’n ei feddwl!

 

C: A ydw i’n dal i dderbyn buddion cwmni fel gwyliau a phensiwn?

A: Fel prentis rydych chi’n dal i gael yr un buddion â phob aelod arall o staff. Mae hyn yn cynnwys gwyliau blynyddol â thâl a mynediad i gynllun pensiwn.

 

C: A yw’n gymhwyster go iawn?

A: Mae ein holl brentisiaethau yn gyfartal â chymwysterau eraill fel TGAU a Safon Uwch. Cânt eu hachredu gan gyrff dyfarnu uchel eu parch fel City & Guilds a chânt eu cydnabod a’u parchu’n eang gan gyflogwyr.

 

C: Rwyf eisoes wedi gwneud rhai cymwysterau; alla i ddal i wneud prentisiaeth?

A: Gyda rhai eithriadau, bydd y rhan fwyaf o bobl yn dal yn gymwys i gwblhau prentisiaeth, hyd yn oed os ydych wedi derbyn cymwysterau eraill yn flaenorol. Newyddion gwych os ydych chi’n edrych am newid gyrfa!

 

C: Nid oes gennyf unrhyw gymwysterau; alla i ddal i wneud prentisiaeth?

A: Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer prentisiaeth. Fodd bynnag, weithiau gall cyflogwyr ofyn i chi gael rhai cymwysterau sylfaenol fel Mathemateg a Saesneg cyn dechrau eich prentisiaeth gyda nhw.

 

C: Beth os oes gen i anghenion ychwanegol neu dim ond angen cymorth?

A: Rydym yn cefnogi ac yn darparu ar gyfer pob unigolyn os oes gennych angen ychwanegol neu anabledd. Bydd swyddog hyfforddi dynodedig yno ar eich cyfer bob cam o’r ffordd ac yn sicrhau eich bod yn gallu astudio ar eich cyflymder eich hun a chyflawni eich nodau gyrfa.

 

Yn dal i fethu dod o hyd i’r atebion rydych chi’n chwilio amdanyn nhw? E-bostiwch ni ar info@cambriantraining.com neu ffoniwch ni ar 01938555893