Cydweithwyr a ffrindiau’n helpu Katy i godi £553 ar gyfer elusen ganser

Rhoddodd cydweithwyr a ffrindiau Katy Godsell, sef rheolwraig marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, eu dwylo’n ddwfn yn eu pocedi dros ?yl y Nadolig i godi £553 ar gyfer Cronfa Ganser Lingen Davies yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig.

Mae Katy, sy’n gweithio ym mhencadlys y cwmni hyfforddiant arobryn yn y Trallwng, newydd gwblhau triniaeth ar gyfer canser y fron. Gan fod bywydau sawl cydweithiwr hefyd wedi’u heffeithio gan ganser yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid oedd prinder cefnogaeth i’r elusen.

Codwyd yr arian trwy wneud a gwerthu addurniadau Nadolig wedi’u creu â llaw, dymuniadau Nadolig yn lle cardiau, arwerthiant blanced hardd wedi’i grosio gan Norma Thomas, raffl, cwis a diwrnod gwisg ffansi i’r staff. Gwnaeth Sharon Thomas, rheolwraig Mid Wales Home Care, addurniadau Nadolig hefyd ac fe’u gwerthodd i gefnogi’r ymgyrch codi arian.

“Diolch yn arbennig i Norma a Sharon Thomas ac i Joyce Godsell am eu holl waith caled yn gwneud addurniadau; Joyce am ei hamser a’i hymroddiad yn trefnu ac yn cydlynu’r gweithgareddau ac i’r holl staff am eu rhoddion caredig” meddai Katy.

“Gwnaethom benderfynu codi arian i Gronfa Ganser Lingen Davies gan fod canser wedi dod i ran cynifer o aelodau staff, teuluoedd a ffrindiau dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddem am gefnogi’r elusen hon oherwydd mae’n cefnogi cleifion canser lleol ledled Canolbarth Cymru a Swydd Amwythig, ac oherwydd ein bod ni wedi gweld y manteision yn uniongyrchol a’r gwahaniaeth a wnânt.”

Ond nid yw’r gwaith codi arian i’r elusen yn stopio yn y fan honno. Mae Katy’n gobeithio cael cefnogaeth Banc Barclays i gynnal ras neu daith gerdded pum cilometr yn y Trallwng ar ddyddiad a fydd yn cael ei gadarnhau ym mis Mawrth.

Mae Cronfa Ganser Lingen Davies yn ymroi i wella gwasanaethau canser er esmwythâd cleifion canser yn Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru, trwy ddarparu offer ac adeiladau arbenigol. Mae’r elusen wedi buddsoddi miliynau dros y blynyddoedd i wella’r cyfleusterau i gleifion canser lleol.

Diolchodd Louise Cliffe, rheolwraig codi arian yr elusen i bawb oedd wedi helpu i godi’r swm “gwych” o arian a fyddai’n helpu cyflawni apêl Nadolig y gronfa o £12,000.

Nod yr apêl yw gwneud gwelliannau i ardal aros yr adran radiotherapi yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig, gosod teclyn codi o’r nenfwd i helpu codi cleifion i’r gwely triniaethau a phrynu dyfais diogelwch sy’n mesur dosys radiotherapi’r claf.

“Ariannwn bob math o bethau ar draws Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru sy’n gwella’r amgylchedd y mae cleifion canser yn cael eu trin ynddo,” ychwanegodd Louise.

Cysylltwch â Katy Godsell i gael rhagor o wybodaeth ar Ffôn: 01938 555 893.