Cyflogwyr a dysgwyr ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Hyfforddiant Cambrian 2020

Mae deunaw o gyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni hyfforddiant, prentisiaethau, a hyfforddiant cyflogaeth a sgiliau sy’n cael eu darparu gan un o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith gorau Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Bydd Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli a Llanfair-ym-Muallt, yn cyflwyno ei Wobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau blynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar 4 Mawrth.

Mae Hyfforddiant Cambrian wedi dewis Wythnos Prentisiaethau Cymru – fydd yn rhedeg rhwng 3-7 Chwefror, i gyhoeddi enwau’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Er mwyn cael eu henwebu ar gyfer gwobrau, mae’n rhaid i gyflogwyr a dysgwyr ymrwymo i’r rhaglenni a gyflwynir gan y cwmni ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwobrau, fydd yn cael eu cynnal am y pedwerydd tro, wedi’u cynllunio i ddathlu popeth sy’n wych am hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru. Mae’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos y gronfa dalent a’r ystod o raglenni dysgu seiliedig ar waith sydd ar gael ar draws Cymru.

Y rheiny sydd wedi cyrraedd y Rownd Derfynol ar gyfer y gwobrau Prentis Sylfaen (lefel 2), Prentis (lefel 3) a Phrentis Uwch (lefel 4) y Flwyddyn ydy; Bethany Morgan, 17, prentis gwesty a lletygarwch, Gwesty’r Celtic Manor, Casnewydd; Daniel Carlo, 38, cynghorydd ailgylchu, Bryson Recycling, Conwy; Yasmin Dewse, 28, cogydd ym Mhrifysgol Aberystwyth; Daniel Allen, 26, prif gogydd yn Clockworks (Marstons), Abertawe; Emma Hooper, 36, prif stiward Compass Group PLC-ESS Defence, Cas-gwent;  Stephen Paul Whiffen, 38, rheolwr ystafell surop, Radnor Hills, Knighton a Lorna Morris, 46, perchennog Beyond Breakout, y Drenewydd.

Y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn ydy Chris Evans, 26, gweithiwr gwastraff/ailgylchu yn Rhuthun i Gyngor Sir Ddinbych a Sasha Jones, 20, daliwr allweddi yn Nags Head Inn, Garthmyl.

Y rheiny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Prentisiaethau Ymgysylltu Cyflogwyr â Phrentisiaethau Macro, Bach, Canolig a Mawr y Flwyddyn ydy: Happy Horse Retirement Home, Aberhonddu; Thomas Skip and Plant Hire Ltd, Caernarfon; Gwesty’r Harbourmaster, Aberaeron; A. J. Rees & Sons Ltd (Andrew Rees Butchers), Narberth; Tiny Rebel, Casnewydd; Parry & Evans Limited, Glannau Dyfrdwy; Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.

“Mae ein gwobrau’n gwobrwyo unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori yn eu prentisiaethau a’u rhaglenni hyfforddiant, sydd yn cael eu darparu gennym ar ran Llywodraeth Cymru,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Hyfforddiant Cambrian.

“Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau’r rheiny sydd wedi rhagori ar eu disgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i’w rhaglenni hyfforddiant a sgiliau. Maen nhw wedi dangos agwedd unigryw at hyfforddiant a datblygu prentisiaethau, ac wedi dangos menter a mentergarwch, arloesedd a chreadigrwydd.

“Rydym yn edrych ymlaen at rannu straeon bendigedig yn y noson wobrwyo, a chydnabod y rheiny sydd wedi rhagori ar draws Cymru.”

Bydd enillwyr y categorïau sy’n cydredeg, yn cael y cyfle i gael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Mawreddog Cymru, sydd yn cael eu trefnu ar y cyd â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.

Mae’r Rhaglen Brentisiaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ends

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, drwy ffonio: 01938 555 893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar: