Cyhoeddi rhestr rownd derfynol gwobrau cyntaf erioed y Mentor-gogyddion

Mae Albert Roux OBE ar y rhestr fer am ddwy wobr – Llun gan Richard Vines

Mae rhestr fer rownd derfynol y Gwobrau Mentor-gogyddion cyntaf erioed wedi’i chyhoeddi, ac arni enwau uchel eu proffil ar draws y sectorau bwytai, gwestai, arlwyo ac addysg.

Bydd y gwobrau a gynhelir yn y Celtic Manor fel rhan o’r H&C EXPO ar 17 Gorffennaf yn cydnabod cogyddion sy’n wedi rhoi o’u hamser yn eu gyrfaoedd i hyfforddi, meithrin a datblygu unigolion a thimau ar draws diwydiant lletygarwch ac arlwyo’r DU.

Enwebwyd y cogyddion, sydd weithiau’n gweithio y tu ôl i’r llenni, o bob un o sectorau mawrion y diwydiant lletygarwch. Dyma restr o’r rhai ar y rhestr fer isod:

Y Mentor-Gogydd Bwyty Gorau, ar y cyd ag EquipLine

  • Michael Ramsden, Cwmni Hyfforddiant Cambrian
  • Albert Roux OBE
  • Werner Hartholt, Bourne Leisure – Butlins

Y Mentor-Gogydd Gwesty Gorau, ar y cyd â McVitie’s

  • Hywel Jones, Lucknam Park
  • James Golding, The Pig Hotel
  • Gerry Sharkey, Holiday Inn Glasgow Theatreland
  • Noel McMeel, Lough Erne Resort, Gogledd Iwerddon

Y Mentor-Gogydd Contract Arlwyo Gorau

  • Gareth Billington, Clwb Pêl-droed Everton
  • Nick Wood, BaxterStorey
  • Steve Oram, CH&Co
  • Colin Gray, Capital Cuisine

Y Mentor-Gogydd Cartref Gofal Gorau

  • Matt Dodge, Chelsea Court Place
  • Kelly Gavriliuc, Elior UK

Y Mentor-Gogydd Ysgol Gorau, ar y cyd ag Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginio

  • Tom Allen, Sodexo
  • Neil Price, Principals
  • George Spires, The Brasserie Coleg Milton Keynes

Y Mentor-Gogydd Coleg Gorau, ar y cyd â Foxes Academy

  • Michael Burke, Coleg Sheffield
  • Matthew Shropshall, Coleg Prifysgol Birmingham
  • Mandy Prince, Coleg Vision West Nottinghamshire
  • David Auchie, Coleg South Lanarkshire

Y Mentor-Gogydd Prifysgol Gorau

  • Anthony Wright, Coleg Prifysgol Birmingham
  • Murray Chapman, First Contact
  • Mick Burke, Master Chefs of Great Britain
  • Gregg Brown, Prifysgol Gorllewin Llundain

Y Mentor-Gogydd Mwyaf Addawol

  • Leon Seraphin, Beyond Food CIC
  • Hrishikesh Desai, Gilpin Hotel & Lake House
  • Helen Doyle, 21 Hospitality Group
  • Darran McGregor, Maes Awyr Gatwick – Charlton House

Gwobr Peter Hazzard

  • John Retallick, The Wynnstay
  • Simon Boyle, Beyond Food CIC
  • Albert Roux OBE
  • David Mulcahy, Sodexo
  • Murray Chapman, First Contact

Beirniadodd ffigurau mawrion o fwytai, gwestai, sefydliadau arlwyo ac addysgol bron i 100 o geisiadau.

Cyrus Todiwala OBE

Dywedodd Cyrus Todiwala OBE, cadeirydd y panel beirniadu:

“Fel beirniaid, roedd pob un ohonom wrth ein boddau o gael cynifer o enwebiadau, roedd yr amser a’r ymdrech a roddwyd gan y rhai a enwebodd yn hollol galonogol.

“Mae pob mentor yn haeddu cydnabyddiaeth a gwnaeth swm ac ansawdd yr enwebiadau a ddaeth i law y gwaith beirniadu’n anodd iawn, ond roeddem yn hapus gyda’r canlyniadau.

“Rydym bellach yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y noson Wobrwyo yn y Celtic Manor lle byddwn yn dathlu’r cogyddion ar y rhestr fer ac yn cyhoeddi enillwyr pob categori.

“Gwyddwn yn barod oherwydd y rhestr gwesteion a’r byrddau sydd wedi’u cadw y bydd y Gwobrau Mentor-Gogyddion yn noson arbennig iawn.

“Mae fy nghyd-feirniaid a minnau’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld cynifer â phosibl o’n diwydiant gwych yn dod at ei gilydd i ddathlu Mentor-Gogyddion gyda ni ar y noson.”

Gellir gofyn am fanylion llawn ar sut i fynychu a chymryd rhan mewn dathlu cogyddion sy’n datblygu pobl eraill trwy’r ffurflen isod.

Mae nifer gyfyngedig o fyrddau ac maen nhw’n mynd yn gyflym, felly os hoffech fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.