Mae Hyfforddiant Cambrian yn partneru gyda HIT Training a LACA i lansio prentisiaethau arlwyo ysgolion

Mae LACA – The School Food People – yn lansio pedair prentisiaeth sy’n  benodol i’r diwydiant a’r sector mewn partneriaeth â’r darparwyr hyfforddiant  cenedlaethol HIT Training a Chwmni Hyfforddiant Cambrian.  

Mae’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 5 a 11 Chwefror ac mae LACA  yn hapus iawn i lansio pedair prentisiaeth newydd a grëwyd ar gyfer y diwydiant  arlwyo ysgolion yn y DU yn benodol. Gan weithio mewn partneriaeth â HIT Training  yn Lloegr a Chwmni Hyfforddiant Cambrian yng Nghymru, bydd y pedair brentisiaeth  yn cynnwys: 

  • Cynorthwyydd Arlwyo Ysgol Lefel 2 
  • Uwch Gogydd Cynhyrchu Lefel 3 
  • Rheolwr Lletygarwch Lefel 4 
  • Rheolwr Gweithrediadau Lefel 5 

Y nodwedd unigryw sydd gan y prentisiaethau hyn yw eu bod yn gymwysterau a  gydnabyddir yn genedlaethol a grëwyd gan weithwyr proffesiynol arlwyo a hyfforddi  ysgolion er mwyn darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiad i’r rhai hynny yn y  diwydiant amrywiol sy’n hanfodol i’w rôl wrth fwydo plant ysgol ein cenedl. Bydd  creu’r cymwysterau pwrpasol hyn yn sicrhau bod y diwydiant arlwyo ysgolion yn cael  ei gydnabod a’i werthfawrogi fel galwedigaeth broffesiynol. 

Mae’r prentisiaethau hyn yn cwmpasu pob rôl yn y sector felly mae rhywbeth addas i  bob gweithiwr sector. Mae’r bartneriaeth unigryw gyda HIT yn Lloegr a Hyfforddiant  Cambrian yng Nghymru yn cynnig llwybr uniongyrchol i gyflogwyr a gweithwyr at  gyngor a gwybodaeth benodol wedi’i deilwra ar sut i gael gafael ar gyllid priodol, y  lefel brentisiaeth orau ar gyfer unigolyn a chyngor unigryw wedi’i deilwra i ddysgwyr.  

Mae arlwyo ysgol yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth wedi’i deilwra i’w holl  weithwyr. Mae’r prentisiaethau’n adeiladu ar y wybodaeth a’r dealltwriaeth, y sgiliau  a’r ymddygiadau allweddol i gyflwyno a ffurfioli’r dysgu ar gyfer dyfarniad  prentisiaeth. Maent hefyd yn galluogi parhad o fewn y sector bwyd ysgol a  throsglwyddo sgiliau yn ffurfiol ar gyfer parhad ar draws y sector lletygarwch  ehangach. 

Mae gan bob prentisiaeth daflen ffeithiau ar gael ar wefan LACA sy’n cynnig yr holl  wybodaeth. Mae pob prentisiaeth fel arfer yn cymryd rhwng blwyddyn a 18 mis i’w  chwblhau ac fe’i cwblheir yn y gweithle. Mae’r gofynion mynediad yn amrywio gyda  chyngor ar gael i gefnogi dysgwyr i benderfynu ar eu llwybr mynediad gorau. Mae  Asesiad Pwynt Diwedd yn arwain at ddyfarniad prentisiaeth ar y lefel berthnasol.

Anita Brown, Cadeirydd LACA:  

“Rwy’n hapus iawn i allu lansio’r cyfleoedd cyffrous hyn ar gyfer hyfforddiant a  datblygiad i’n cyd-weithwyr sy’n gweithio mewn rolau allweddol mewn ysgolion, tra’n  bwydo ein pobl ifanc bob dydd. Mae gweithio yn y sector i ddarparu ciniawau ysgol  iach a maethlon yn yrfa gwerth chweil, a gyfoethogir drwy ennill gwobr a gydnabyddir  yn genedlaethol yn unig.” 

Jill Whittake, OBE FCA, Cadeirydd Gweithredol HIT Training: 

“Yn HIT Training, ein nod yw trawsnewid bywydau, siapio’r dyfodol ac ennill sgiliau  bywyd hanfodol. Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â LACA  a Hyfforddiant Cambrian fel rhan o’r fenter brentisiaeth gyffrous hon.” 

Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cambrian Training:  

“Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn hapus iawn i fod mewn partneriaeth â HIT  Training a LACA i ddarparu prentisiaethau seiliedig ar waith i aelodau LACA yng  Nghymru. Mae gweithio ym maes lletygarwch ac arlwyo yn rolau pwysig, ac rydym  yn awyddus i gefnogi proffesiynoli’r diwydiant ar draws pob sector, gan weithio  gyda’n cleientiaid cyflogwyr a’n cleientiaid dysgwyr ledled Cymru.” 

Y Tri Sefydliad Partner 

LACA – The School Food People – yw’r prif gyrff proffesiynol sy’n cynrychioli  aelodau ar draws y sector bwyd ysgol, sy’n cynrychioli cyflenwyr ac arlwywyr y  sector preifat a chyhoeddus i ysgolion ac academïau ledled y DU. 

Gyda thua thair miliwn o giniawau yn cael eu gweini ym mhob diwrnod ysgol mewn  27,000 o ysgolion, rhwydwaith LACA yw’r darparwr bwyd ysgol mwyaf yn y wlad.  Mae’r sefydliad yn un proffesiynol gydag aelodau sy’n cynrychioli mwy na 110,000 o  aelodau staff. 

Mae LACA yn cefnogi ei aelodaeth drwy gynnwys aelodau mewn rhwydwaith  cenedlaethol gan greu cyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau rhwydweithio sy’n  helpu i ehangu addysg a datblygiad pobl sy’n gweithio yn y diwydiant. 

Lansio pedair prentisiaeth sy’n benodol i’r diwydiant ac a grëwyd yn benodol yw’r  enghraifft ddiweddaraf o ddatblygiadau i greu cyfleoedd i’n haelodau a chefnogi  proffesiynoli’r sector ymhellach. 

HIT Training  

HIT Training yw’r darparwr hyfforddiant a phrentisiaethau arbenigol blaenllaw ar  gyfer y diwydiannau lletygarwch, arlwyo a manwerthu yn y DU. Gan weithio mewn  partneriaeth â chyflogwyr y sector, rydym yn uwchsgilio gweithwyr, yn cynyddu  effeithlonrwydd a chynhyrchiant, a galluogi arloesi wrth atgyfnerthu’r llinell waelod. 

Cwmni Hyfforddiant Cambrian  

Gyda dros 25 mlynedd o hanes, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr  prentisiaethau seiliedig ar waith yng Nghymru ym maes lletygarwch ac arlwyo. Mae  ein prentisiaethau arobryn yn cefnogi cyflogwyr i logi ac uwchsgilio staff yn  llwyddiannus, gwella cymhelliant, cadw a chynhyrchiant, wrth helpu dysgwyr i  gyflawni eu huchelgeisiau gyrfa.