Sut helpodd prentisiaeth Coginio Proffesiynol Byron i ddod yn sous-chef
Mae uchelgais Byron Valentine i ddod yn brif gogydd a pherchen ar ei fwyty ei hun ar y trywydd iawn ar ôl graddio gyda Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol.
Mae Byron, sy’n 25 oed o Gefn Mawr, wedi dechrau swydd newydd yn ddiweddar fel sous chef yn y Wynnstay Arms, Rhiwabon, ar ôl cwblhau ei brentisiaeth wrth weithio fel chef de partie yn Pant-yr-Ochain, Gresffordd.
“Fe wnes i fy nghymwysterau lefel 1 a 2 yn y coleg ac roeddwn i wastad eisiau gwneud lefel 2,” esboniodd Byron, sy’n mwynhau bwyd gyda dylanwad Asiaidd. “Fe wnes i ddarganfod cymaint mwy amdanaf fy hun fel cogydd trwy wneud y brentisiaeth ac fe roddodd yr hyder i mi ddatblygu prydau yn ogystal â’m helpu i gael y swydd newydd.
“Ar ôl naw mlynedd fel cogydd, mae wedi dysgu i mi beth sydd angen i mi ei wneud i symud ymlaen yn fy ngyrfa. Fy uchelgais yw bod yn brif gogydd un diwrnod ac, gobeithio, yn berchen ar fy mwyty fy hun.”
Croesawodd hefyd y cyfle i wella ei sgiliau Saesneg a Mathemateg trwy gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol fel rhan o’i brentisiaeth a gwblhawyd mewn 18 mis.
Mae Byron bellach yn symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Lletygarwch gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, prif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith annibynnol Cymru i’r sector lletygarwch.
Bydd hefyd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru nesaf. Mae cofrestriadau ar agor rhwng Tachwedd 23 a Rhagfyr 4 yn https://inspiringskills.gov.wales/register.
Canmolodd cefnogaeth ei swyddog hyfforddiant Mel Canning o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, wrth iddo gyfuno dysgu â gwaith a genedigaeth ei fab, Noah, yn gynharach eleni.
Yn awyddus i feincnodi ei sgiliau, mae Byron yn bwriadu cymryd rhan yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a ni fyddai’n oedi cyn argymell prentisiaeth i gogyddion eraill sy’n dymuno symud ymlaen â’u gyrfa.
Dywedodd Mel: “Gwnaeth Byron yn dda iawn i gyflawni ei brentisiaeth tra’n brysur yn y gwaith a chael teulu ifanc. Mae wedi datblygu fel person ac roedd bob amser yn awyddus i wneud gwell prydau ac i wneud yr hyn oedd ei angen ar gyfer ei brentisiaeth. Edrychaf ymlaen at ei gefnogi drwy’r Brentisiaeth Uwch.”
Mynychodd Byron seremoni raddio hydref Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-muallt lle’r oedd yn un o fwy na 100 o brentisiaid i raddio.

Cambrian Training Graduations November 2026.
Picture by Phil Blagg Photography.