Cyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer gwobrau blynyddol Hyfforddiant Cambrian

Bydd cyflogwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaeth a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian a’n his-gontractwyr ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael eu dathlu mewn noson wobrwyo y mis hwn.

Bydd 27 o brentisiaid yn cystadlu am y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau eleni. Bydd y gwobrau mawreddog yn cael eu cynnal yn y Metropole Hotel & Spa, yn Llandrindod, ar 22 Mai. Mae’r Gwobrau’n dathlu cyflawniadau rhagorol prentisiaid a chyflogwyr sy’n ymroddedig i’r rhaglen brentisiaethau.

Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yw: Jan Gric, Nazareth House, Caerdydd; Laura Harding, y Green Giraffe Nursery, Caerdydd; a Robert Stephens, ESS-Compass, Crucywel.
Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis y Flwyddyn yw: Kieran Ray, Gwesty Hamdden y Cletic manor, Casnewydd; Keri-Ann Evans, Bluestone, Arberth; a Eveline Maria Meerdink, Robinsosn, Conwy.
Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yw: Anna Tommis, Stenaline, Caergybi; a Tina Barry, Sirius Skills Consulting Ltd, Mountain Ash.

Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Rhagorol y Flwyddyn yw: Stewart Wooles, ESS-Compass, Crucywel; Sam Hoyland, JNP Legal, Merthyr Tudful; Anne Lucas, Bluebird Home Care, Y Bont-faen; Andrew John Ogbrone, Ogrborne to Drive, Llanelli; Rajani Gurung, Woodside Care Home, Port Talbot; Ethan Wodecki, Vale Resort, Hensol; Mike Evans, Sirius Skills Consulting Ltd, Mountain Ash; Dobromile Ilieva, Trefeddian Hotel, Aberdyfi; Adri Razumnova, y Parkgate Hotel y Celtic Collection, Caerdydd; a Emma Purcell, Little Red Berries Day Nursery, Cwmbran.

Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Fach y Flwyddyn yw: Fleetsauce, Wrecsam; Kings Arms, Caerdydd; Crown Inn; a Coffi Fach, Pen-y-bont ar Ogwr.

Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yw: y Green Giraffe Nursery, Caerdydd; Puffin Produce Ltd, Hwlffordd; a Nazareth House, Caerdydd.

Y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yw: y Celtic Collection, Casnewydd; a Vale Resort, Hensol.

Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian: “Mae’r seremoni wobrwyo yn amser i ddathlu, nid yn unig i’r prentisiaid a’r cyflogwyr eu hunain ond hefyd i bawb sydd wedi cael yr anrhydedd o fod yn rhan o’u taith.

“Rydym yn dod at ein gilydd i ddathlu ymrwymiad ac ymroddiad yr unigolion a’r cwmnïau sy’n chwarae rhan hanfodol wrth yrru’r economi yn ei blaen a chefnogi’r rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, Pennaeth Marchnata Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, Cynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.