Robbie ben ac ysgwyddau uwchlaw’r lleill yn rhagbrawf Cigyddiaeth WorldSkills UK yr Alban

Profodd y cigydd ifanc Robbie Hughan ei fod ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill wrth iddo guro’i gyd-gystadleuwyr yn rhabrawf yr Alban o gystadleuaeth Cigyddiaeth fawreddog WorldSkills UK ddoe (Dydd Mawrth).

Gwnaeth Robbie, sy’n gweithio i Blair Drummond Smiddy Farm Shop, Stirling, guro’i gydweithiwr Euan McLagan ac Erin Conroy o Falleninch Farm, Stirling i ennill trydedd rhagbrawf a’r rhagbrawf terfynol yn y gystadleuaeth eleni yng Ngholeg Dinas Glasgow.

“Roeddwn i ar ben fy nigon pan enillais i’r rhagbrawf oherwydd roedd yn annisgwyl braidd,” meddai Robbie, 25 oed, sydd ar fin dod yn rheolwr cynorthwyol yn y busnes. “Dywedodd y beirniaid fod y gystadleuaeth o safon uchel iawn ac mae’n braf gallu cael yr hawl i frolio dros fy nghydweithiwr Euan.

“Rydw i wedi bod yn ymarfer am y gystadleuaeth ers rhyw chwe wythnos ac aeth popeth fel watsh. Dyma’r tro cyntaf i mi roi cynnig ar y gystadleuaeth a gobeithio fy mod i wedi gwneud digon i gymhwyso am y rownd derfynol.”

Mae Robbie wedi gweitiho’n rhan-amser yn y siop cigydd ers ei ddyddiau ysgol ac wedi gweithio’i ffordd i fyny yn y busnes a gobeithia redeg ei siop ei hun un diwrnod.

“Dechreuais weithio’n rhan-amser yn y siop ar ôl ysgol, wedyn mynd yn brentis ac rydw i wedi gwneud cynnydd graddol,” meddai. “Rwy’n mwynhau bod yn greadigol a chael adborth gan gwsmeriaid.”

Rhaid i Robbie a phob un o’r cigyddion eraill o’r tri rhagbrawf rhanbarthol bellach aros i glywed a ydyn nhw wedi gwneud digon i gymhwyso am y rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC, Birmingham o 15 i 17 Tachwedd. Bydd y sawl yn y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen yr haf hwn.
Bydd y chwe chigydd gyda’r sgorau uchaf o’r rhagbrofion yn cael eu dewis i gwblhau pum tasg dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Canolbwyntia’r gystadleuaeth ar bob un o’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus fel cigydd amlfedrus yn y diwydiant cynhyrchu bwyd.

Profir cigyddion am eu sgiliau cyffredinol, eu harloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull a ffordd o droi at dasgau, defnydd o’r carcas a’r toriad gorau, gwastraff ac arfer gweithio diogel a hylan.

Trefnir y gystadleuaeth gigyddiaeth gan y darparwr hyfforddiant arobryn, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, ac fe’i cefnogir gan Grŵp Llywio’r Diwydiant. Ymhlith y noddwyr mae’r sefydliad dyfarnu arbenigol FDQ, y Sefydliad Cig, Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales a’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd.

I roi cynnig, rhaid bod y cigyddion heb gwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Cynhyrchu Bwyd neu gymhwyster cyfatebol.

Yn rhagbrawf yr Alban, rhoddwyd y dasg o dorri coes o borc ar hyd y cyhyr mewn 45 munud a chreu arddangosfa farbeciw o gyw iâr, porc, cig eidion a chig oen mewn 90 munud.

Dywedodd Katie George, o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, fod rhagbrawf yr Alban wedi bod yn destun cystadleuaeth glos gydag ychydig iawn o bwyntiau’n gwahanu’r tri chigydd. Diolchodd i Goleg Dinas Glasgow am ei letygarwch gwych.

Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yng Nghystadlaethau WorldSkills UK eleni sydd wedi profi eu bod yn helpu pobl ifanc i fynd ymhellach ac yn gynt yn eu hyfforddiant a’u gyrfaoedd. Dyluniwyd y cystadlaethau gan arbenigwyr y diwydiant ac maen nhw’n canolbwyntio ar y safonau uchaf yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cyflwynant fuddiannau nid yn unig i brentisiaid a myfyrwyr ond i’w cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a cholegau hefyd. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau’n paratoi prentisiaid gyda’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae eu hangen i helpu sefydliadau i gynnal eu hochr gystadleuol.

Cred dros 95% o gyn ymgeiswyr fod cymryd rhan yn y cystadlaethau wedi gwella’u sgiliau technegol a chyflogadwyedd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar Ffôn: 01686 650818.