Sgiliau Adwerthu

Adwerthu yw gwerthu nwyddau a gwasanaethau gan unigolion neu fusnesau i’r defnyddiwr terfynol. Mae adwerthwyr yn rhan o system integredig a elwir yn gadwyn gyflenwi. Mae adwerthwr yn prynu nwyddau neu gynhyrchion mewn symiau mawr yn uniongyrchol gan gynhyrchwyr neu trwy gyfanwerthwyr, ac yna’n gwerthu symiau llai i’r defnyddiwr am elw.

Gellir adwerthu mewn mannau fel siopau neu farchnadoedd, o ddrws i ddrws neu mae danfoniadau neu adwerthu ar-lein, sef math o fasnach electronig a ddefnyddir ar gyfer trafodion busnes i ddefnyddwyr ac archebu drwy’r post yn fathau o adwerthu heb fynd i’r siop.

Gall dysgu trwy brentisiaethau helpu staff i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol i greu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Cynigiwn brentisiaethau mewn Sgiliau Adwerthu i weddu i bob maes o’r diwydiant; o lefel sylfaen ledled Cymru. Gellir defnyddio’r prentisiaethau hyn ar draws ystod eang o sectorau a rolau swyddi.

Mae prentisiaethau’n darparu rhaglen syml a rhesymol o ddysgu sy’n cyflwyno cyflawniad a chymwysterau dysgwyr mewn ffordd sy’n hawdd ei deall, ei mesur a’i chymharu gyda chymwysterau cenedlaethol eraill.

Anelwn at roi cyfle i unigolion ddysgu’n fwy hyblyg a galluogi ystod ehangach o sefydliadau, gan gynnwys cyflogwyr, i gael cydnabyddiaeth am eu hyfforddiant.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ganolfan gymeradwy gydag Edexcel i gyflwyno hyfforddiant mewn Sgiliau Adwerthu.

Mewn Sgiliau Adwerthu, mae’r cymwysterau canlynol ar gael;

  • Lefel 2 a 3 mewn Sgiliau Adwerthu
  • Lefel 2 a 3 mewn Gwerthiant

Gall ein Swyddogion Hyfforddiant profiadol helpu gweithwyr i ddewis y cwrs iawn ar y lefel briodol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Cyflwynir y cymwysterau hyn yn y gweithle.

Mae’r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. I gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â hyn, cliciwch fan hyn >>

Cyflogwyr
Rydym wedi sefydlu cysylltiadau gweithio gwych gyda chyflogwyr o bob maint ledled Cymru. Mae gennym rwydwaith o gyflogwyr sy’n cymryd rhan mewn prentisiaethau fel rhan o’u rhaglen datblygu hyfforddiant ac rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau newydd gan gyflogwyr yng Nghymru bob amser.

Cysylltwch â Ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a gyflwynwn neu os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’n cymwysterau, mae croeso i chi gysylltu â’n Pennaeth Uned Sgiliau Adwerthu, Heather Martin; heather@cambriantraining.com