Category: Archif 2015

Mae enillydd cyntaf cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru wedi cyflwyno ei fuddugoliaeth i’w ddiweddar fam a fu farw tair wythnos yn ôl. Trechodd Clinton Roberts profiadol, sy’n berchen ar Ponty Butchers, Pontardawe, her gref gan bencampwyr presennol a blaenorol Cigydd Ifanc Cymru Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, Treuddyn, yr Wyddgrug a Tomos Hopkin, 22, o… Read more »

Mae Pencampwr Cigydd Ifanc Cymru Peter Rushforth wedi llwyddo i amddiffyn ei deitl ar ôl rownd derfynol agos lle canmolodd y beirniaid safon uchel y gigyddiaeth. Aeth Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, Treuddyn, yr Wyddgrug, i’r rownd derfynol yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt ar ddydd Llun yn syth ar ôl ennill medal… Read more »

Bydd pencampwr presennol Cigydd Ifanc Cymru Peter Rushforth yn cystadlu yn erbyn Tomos Hopkin sydd wedi ennill tair gwaith yn y gorffennol yn rownd derfynol eleni yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt ar ddydd Llun. Mae Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, Treuddyn, yr Wyddgrug, yn cyrraedd y gystadleuaeth yn syth ar… Read more »

Mae’r cigydd dawnus o Ogledd Cymru Matthew Edwards yn dathlu ei gyflawniad mwyaf hyd yma trwy ennill Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK ddydd Sadwrn. Gwnaeth Matthew, 23, sy’n gweithio i Gigydd Teulu Vaughan, Penyffordd, ger Caer, ennill y fedal aur ar ôl dau ddiwrnod o gystadlu brwd yn The Skills Show, a gynhaliwyd yn NEC… Read more »

Bydd tri chigydd o Ogledd a Chanolbarth Cymru yn profi eu sgiliau yn erbyn goreuon y busnes yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Cigyddiaeth Genedlaethol WorldSkills UK yr wythnos hon. Bydd y chwe chigydd sy’n ennill y nifer fwyaf o farciau o’r rhagbrofion cyfun yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn mynd benben yn y rownd derfynol… Read more »

Mae dynes a roddodd y gorau i swydd yn gwerthu hysbysebion ar gyfer papur newydd y Glasgow Herald i ddechrau ei busnes ei hun yng Nghymru wedi cael ei disgrifio fel “enghraifft wych o werthu pysgod ar ei orau yng Nghymru”. Sarah O’Connor, sy’n rhedeg The Fabulous Fish Company yng Nghanolfan Arddio Cas-gwent yng Nghas-gwent,… Read more »

Cafodd dull unigryw o ymdrin â chyflogaeth a hyfforddiant gan gwmni gwastraff ac ailgylchu yng Ngogledd Cymru ei gydnabod â llwyddiant dwbl yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015. Cwmni dan eiddo teuluol yw Thorncliffe Abergele a sefydlwyd yn Abergele ym 1987, ac mae wedi cael ei ddisgrifio gan ddarparwr hyfforddiant fel “ysbrydoledig”. Cafodd ei enwi’n Cyflogwr… Read more »

Mae’r cigyddion gorau yng Nghymru’n cael eu hannog i roi cynnig ar ddwy gystadleuaeth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd fis nesaf. Eleni bydd Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, sy’n cael ei chynnal am y tro cyntaf, yn ymuno â Chystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, sy’n boblogaidd ac yn cael ei chynnal yn flynyddol, ar raglen… Read more »

DYDD MAWRTH, 2 CHWEFROR 2016 CANOL CAERDYDD MAE’R DIGWYDDIAD HWN WEDI CAEL ARDYSTIAD DATBLYGIAD PROFFESIYNOL PARHAUS Gwestai Gwadd: Michael Davis, Prif Weithredwr, Comisiwn y DU ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau Bydd y seminar hwn, sydd wedi’i amseru i ddilyn ymateb Llywodraeth Cymru i’w hymgynghoriad parhaus ar ddiwygio’r model Prentisiaethau yng Nghymru, yn dwyn ynghyd gwneuthurwyr… Read more »

Mae’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill gwobrau, wedi dangos sut i weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus trwy sicrhau bod cigyddiaeth yn cael ei mabwysiadu fel Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK am y tro cyntaf eleni. Bellach mae’n bosibl y bydd y cwmni arloesol o’r Trallwng yn ennill gwobr bwysig yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru… Read more »