Sarah y gwerthwr pysgod yw’r gyntaf yng Nghymru

Mae dynes a roddodd y gorau i swydd yn gwerthu hysbysebion ar gyfer papur newydd y Glasgow Herald i ddechrau ei busnes ei hun yng Nghymru wedi cael ei disgrifio fel “enghraifft wych o werthu pysgod ar ei orau yng Nghymru”.

Sarah O’Connor, sy’n rhedeg The Fabulous Fish Company yng Nghanolfan Arddio Cas-gwent yng Nghas-gwent, yw’r gwerthwr pysgod cyntaf yng Nghymru i gwblhau prentisiaeth sylfaen mewn Sgiliau Pysgod a Physgod Cregyn.

Mae’r brentisiaeth yn rhan o fframwaith cenedlaethol Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, a chafodd ei darparu gan y darparwr dysgu yn y gwaith Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, sydd wedi ennill gwobrau.

Yn daer am newid gyrfa, deffrodd Sarah un bore yn y ddinas a oedd yn gartref iddi, Glasgow, a phenderfynu ei bod eisiau gwerthu pysgod. Ar unwaith dechreuodd geisio darganfod sut i wireddu ei breuddwyd.

Gyda help oddi wrth Seafish, yr awdurdod ar fwyd môr, daeth o hyd i gwrs dwys pythefnos o hyd yn Doncaster, a osododd y sylfeini ar gyfer ei gyrfa newydd. Yna symudodd i Gymru bum mlynedd yn ôl a gweithio mewn iard hurio wrth sefydlu busnes yn gwerthu pysgod o fan oergell ym Marchnadoedd Cas-gwent a Threfynwy.

Pan ddaeth siop fach ar gael yng Nghanolfan Arddio Cas-gwent ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, bachodd y cyfle i osod gwreiddiau i lawr ac mae ei busnes yn ffynnu. Mae’n ffynnu cymaint ei bod yn cyflogi cynorthwy-ydd yn y siop, Gemma Robinson ac mae’n arallgyfeirio i greu pate pysgod o ansawdd.

Mae hi wedi ennill Gwobr efydd Gwir Flas Cymru am Hoff Werthwr Pysgod Dewis y Bobl, ac mae hi’n
angerddol am ei busnes, yn gwerthu pysgod o’r ansawdd gorau yn unig i’w chwsmeriaid ac yn pasio ei sgiliau a’i gwybodaeth ymlaen i Gemma. Mae hi’n mynnu bod pysgod yn cael eu prynu a’u gwerthu ar yr un diwrnod.

“Roedd fy ffrindiau’n meddwl fy mod yn wallgof ac y buaswn i nôl cyn bo hir yn dinllipa, ond dwi wrth fy mod yn gwerthu pysgod ac mae fy musnes yn ffynnu,” meddai Sarah, sydd â merch 18 oed. “Dwi erioed wedi bod yn rhan o ddiwydiant fel hwn lle mae pawb yn gweithio â’i gilydd. Dwi wedi dod yn ffrindiau da â gwerthwyr pysgod eraill a phorthorion a gwerthwyr yn y farchnad bysgod.”

I geisio trosi ei sgiliau i mewn i gymhwyster, cysylltodd â Lee Cooper, pennaeth hyfforddiant ar y tir yn Seafish, a roddodd hi mewn cysylltiad â darparwr prentisiaeth cydnabyddedig Seafish, Cwmni Hyfforddiant Cambrian a chyn bod hir cychwynnodd ar ei phrentisiaeth sylfaen mewn Sgiliau’r Diwydiant Pysgod a Physgod Cregyn. Cwblhaodd y cymhwyster haf eleni ac mae Gemma yn agos y tu nôl iddi â’i phrentisiaeth sylfaen ei hun.

“Mae’r brentisiaeth wedi bod yn wych oherwydd ei bod wedi gwneud i mi edrych ar fy hun, a chymaint o wahanol agweddau ar fy musnes, â llygaid newydd,” esboniodd Sarah. “Mae gennym system HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) ar waith a dwi’n dysgu pethau newydd trwy’r amser.

“Bellach rydym wedi dechrau gwneud gwahanol fathau o bate pysgod, yn defnyddio cynhwysion o ansawdd da ac mae fy nghwsmeriaid wrth eu boddau â’r rhain. Gwnes i lansiad meddal mewn g?yl fwyd a gwerthu llawer mwy o botiau nag oeddwn wedi dychmygu. Trwy wneud y brentisiaeth, dwi wedi cyflwyno systemau yn y siop sy’n caniatáu i mi gynllunio ymlaen llaw.

“Ni allaf fynegi cymaint y mwynheais wneud y brentisiaeth a chymaint y mae wedi agor fy meddwl. Buaswn yn ei hargymell yn gryf i bob gwerthwr pysgod.”

Er dechrau ei busnes, mae hi wedi darganfod teimlad o ‘déjà vu’, hynny yw roedd ei chyndadau Gwyddelig yn bysgotwyr yng nghyfnod Oliver Cromwell, a gwnaeth ef eu hatal rhag pysgota.

Gan fyfyrio ar ei newid gyrfa, dywedodd: “Mae’n dangos yn union beth ellir ei gyflawni pan fyddwn ni wedi ymrwymo i wneud rhywbeth. Merch y ddinas ydw i sydd wedi symud i gefn gwlad, a dwi wrth fy modd. Dwi erioed wedi bod yn hapusach.”

Meddai Chris Jones, pennaeth uned fusnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Bu’n bleser gweithio gyda Sarah, y mae ei gwybodaeth am bysgod heb ei hail. Mae hi wedi bod yn help mawr wrth hyrwyddo’r diwydiant pysgod a physgod cregyn ac rydym yn falch ei bod wedi cwblhau ei chymhwyster â ni.”

Mae Lee Cooper yn disgrifio Sarah fel “arweinydd ffasiwn” a “llysgennad gwych” i’r diwydiant a physgod Cymru, ar ôl i’w brwdfrydedd dros ei gyrfa newydd wneud argraff dda arno.

“Mae Sarah yn enghraifft wych o werthu pysgod yng Nghymru ar ei gorau, a dwi wrth fy modd mai hi yw’r gwerthwr pysgod cyntaf yng Nghymru i gwblhau’r brentisiaeth sylfaen mewn Sgiliau Pysgod a Physgod Cregyn,” meddai ef.

I ddysgu mwy am Sarah a’r Fabulous Fish Company ewch i www.fabulousfish.co.uk

Capsiynau’r lluniau:

Sarah O’Connor â’i harddangosfa bysgod yn The Fabulous Fish Company.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818