Yn galw’r cigyddion gorau yng Nghymru ar gyfer dwy gystadleuaeth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Mae’r cigyddion gorau yng Nghymru’n cael eu hannog i roi cynnig ar ddwy gystadleuaeth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd fis nesaf.

Eleni bydd Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, sy’n cael ei chynnal am y tro cyntaf, yn ymuno â Chystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, sy’n boblogaidd ac yn cael ei chynnal yn flynyddol, ar raglen y sioe.

Cynhelir y ddwy gystadleuaeth ar ddydd Llun, Tachwedd 30, â’r Gystadleuaeth Cigydd Porc Cymru yn y bore. Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i gigyddion o bob oed sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd.

Bydd Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru yn dilyn yn y prynhawn, ac eleni mae’r terfyn oed wedi’i hymestyn i’r rheiny dan 25 oed ar Ionawr 1, 2015 i alinio â rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng yn trefnu’r gystadleuaeth, a hefyd yn cydweithio â Keith Brown, prif stiward cystadlaethau cynhyrchu cig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i redeg Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru ar y cyd.

Mae’r gystadleuaeth i gigyddion ifanc yn cael ei noddi ar y cyd gan Hybu Cymru, Bwydydd Randall Parker, a WMO, Y Trallwng. Yn ogystal â chael y fraint o gael ei (h)enwi yn gigydd ifanc gorau Cymru, bydd yr enillydd yn derbyn siec am £130, bydd enillydd yr ail wobr yn derbyn £70 a bydd y pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlws.

Eleni, bydd y cigyddion ifanc yn cael eu herio i gynhyrchu arddangosfa o gig mewn dwy awr gan ddefnyddio crwper uchaf cyfan o Gig Eidion Cymreig, coes o Gig Oen Cymreig PGI, hanner ysgwydd o Borc Cymreig a chyw iâr Gymreig gyfan o Gefn Llan.

Mae Cymdeithas Moch Prydain a Hybu Cig Cymru yn noddi’r gystadleuaeth i gigyddion porc. Bydd y cigyddion yn cael dwy awr i greu arddangosfa arloesol a chreadigol gan ddefnyddio hanner mochyn Cymreig, gan ddefnyddio naill ai dulliau modern ynteu ddulliau traddodiadol i hybu Porc Cymreig yn y ffordd orau i ddefnyddwyr.

Bydd yn rhaid i gigyddion yn y ddwy gystadleuaeth ddewis darnau sy’n cynyddu gwerthadwyedd a gwerth y cynnydd gymaint â phosibl, a bydd y beirniaid yn chwilio am syniadau newydd a chreadigol, techneg torri, gwerth ychwanegol, technegau arddangos, HACCP a hylendid personol a sicrhau’r cynnyrch mwyaf posibl o’r carcasau.

Bydd panel o feirniaid yn dewis pedwar ymgeisydd i gyrraedd rownd derfynol bob cystadleuaeth o blith y ceisiadau, y mae’n rhaid eu cyflwyno erbyn dydd Llun, Tachwedd 9. Gallwch lwytho ffurflenni gair i lawr o www.cambriantraining.com .

Mae’n rhaid anfon ceisiadau i’r gystadleuaeth i gigyddion porc at Rhian Davies naill ai trwy e-bost: rhian@rwas.co.uk ynteu trwy’r post i: Cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, Powys, LD2 3SY.

Mae’n rhaid anfon ceisiadau i’r gystadleuaeth i gigyddion ifanc at Katy Godsell naill ai trwy e-bost: katy@cambriantraining.com ynteu trwy’r post i: Katy Godsell, Cystadleuaeth Cigyddion Ifanc Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Y Swyddfeydd @ Coed Y Dinas, Y Trallwng, Powys, SY21 8RP.

Meddai Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae’r ddwy gystadleuaeth yma’n darparu’r llwyfan perffaith ar gyfer y cigyddion gorau yng Nghymru iddyn nhw arddangos eu sgiliau mewn digwyddiad pwysig. Anrhydedd mawr yw bod y gorau yng Nghymru yn eich galwedigaeth o ddewis.”

Dywedodd Mr Brown fod y gystadleuaeth newydd wedi cael ei dylunio i roi cyfle i gigyddion o bob oed gael cydnabyddiaeth i’w sgiliau, wrth hybu Porc Cymreig ar yr un pryd.

“Rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o hybu Porc Cymreig ac mae’r gystadleuaeth hon yn cyd-ddigwydd â menter newydd Porc.Wales Hybu Cig Cymru,” ychwanegodd. “Nod Porc.Wales yw darparu llwyfan ar gyfer cynhyrchwyr a manwerthwyr i hybu porc o foch sydd wedi’u geni a’u magu yma yng Nghymru.”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, Keith Brown yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar Ffôn: 01982 552100 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.