Matthew, enillydd y fedal Aur, yw pencampwr cigyddiaeth WorldSkills UK

Mae’r cigydd dawnus o Ogledd Cymru Matthew Edwards yn dathlu ei gyflawniad mwyaf hyd yma trwy ennill Cystadleuaeth Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK ddydd Sadwrn.

Gwnaeth Matthew, 23, sy’n gweithio i Gigydd Teulu Vaughan, Penyffordd, ger Caer, ennill y fedal aur ar ôl dau ddiwrnod o gystadlu brwd yn The Skills Show, a gynhaliwyd yn NEC Birmingham.

Ef oedd un o’r chwe chigydd a gafodd y sgoriau uchel yn y rhagbrofion cyfun yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr a gyrhaeddodd y rownd derfynol lle bu’r cystadlu’n frwd. Cawsant eu herio i gwblhau pum prawf: cynnyrch parod i’w bwyta, gwneud selsig, cynnyrch barbeciw, cynnyrch parod i’r gegin a diesgyrnu ac arddangosfa gigyddiaeth ar thema.

Yn dilyn y gystadleuaeth, rhoddodd y cigyddion arddangosfa ar ddydd Sadwrn yn y sioe, digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf y genedl, sy’n helpu i siapio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Mae Matthew eisoes wedi ennill cystadleuaeth pencampwriaeth Cigydd Ifanc Cymru, ac enillodd chwe phwynt yn fwy nag enillydd y fedal arian John Brereton, 41, rheolwr cigyddiaeth yng Nghanolfan Fwyd Llwydo, sydd wedi ennill gwobrau, yn Llwydlo. Roedd gan enillwyr y fedal efydd dri phwynt yn llai, sef pencampwr presennol Cigydd Ifanc Cymru Peter Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, yr Wyddgrug a Dylan Gillespie, 20, o Clougher Valley Meats, Clougher, Tyrone, enillydd rhagbrawf Gogledd Iwerddon.

Y ddau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Daniel John Allen-Raftery, 31, cigydd a lladdwr o Randall Parker, Llanidloes a Matthew Parkes, 21, sy’n byw yn Willenhall ac yn rheolwr cynorthwyol ar gyfer siop Walter Smith Fine Foods yng Nghanolfan Arddio Melbicks, Coleshill. 12 pwynt yn unig oedd yn gwahanu’r holl gigyddion.

Dyma oedd y tro cyntaf i gigyddiaeth gael ei chynnwys fel cystadleuaeth WorldSkills UK. Wedi’i drefnu gan y darparwr hyfforddiant o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill gwobrau, ar ran WorldSkills UK, dechreuodd y gystadleuaeth â rhagbrofion rhanbarthol wedi’u noddi gan The National Federation of Meat and Food Traders, Institute of Meat a PBEX.

“I fod yn onest, cefais fy synnu pan enillais oherwydd bod lefel y sgiliau mor eithriadol,” cyfaddefodd Matthew. “Gwnes i gystadlu dros Brydain Fawr mewn cystadleuaeth yn y Swistir llynedd, ac roedd y gystadleuaeth yr un mor anodd.

“Ers i mi ennill rhagbrawf Cymru yn gynharach eleni, dwi wedi bod yn ymarfer yn ddi-baid ac mae hyn yn dangos bod gwaith caled yn talu. Dyma’r gystadleuaeth fwyaf i mi ei hennill erioed a dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi sylweddoli eto mai fi yw pencampwr y DU.

“Dwi ddim yn meddwl bod pobl yn gwerthfawrogi faint o sgiliau a dawn artistig sy’n rhan o gigyddiaeth a pharatoi arddangosfeydd cig.”

Diolchodd i’w gyflogwyr, Steve a Helen Vaughan am eu cefnogaeth a’u hanogaeth. Gan edrych i’r dyfodol, dywedodd y byddai’n hoffi fod yn rhan o dîm y DU a fydd yn cystadlu yn erbyn Awstralia a Seland Newydd mewn cystadleuaeth cigyddiaeth Tair Cenedl flwyddyn nesaf.

Meddai Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i arddangos sgiliau cigyddiaeth ac roedden ni wrth ein boddau â’r safon ardderchog cyflawnodd y rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

“Roedd yn glir bod y rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi gwneud llawer o hyfforddiant yn eu busnesau ers y rhagbrofion rhanbarthol, a chawsom swm aruthrol o ganmoliaeth oddi wrth ein partneriaid yn y gystadleuaeth.

“Y rheswm y mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau yw datblygu meincnod ar gyfer y cystadleuwyr ac ar gyfer yr hyfforddwyr. Eleni rydyn ni wedi gosod y bar ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cael ei godi yn y dyfodol.”

Dywedodd mai nod y cwmni yn y pen draw oedd cael cigyddiaeth, un o sgiliau hynaf y byd, wedi’i gynnwys fel cystadleuaeth

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni hyfforddiant a phrentisiaeth a rhoi hwb i sgiliau yn y diwydiant. Roedd Cigyddiaeth yn un o blith mwy na 60 o sgiliau i fod yn rhan o gystadlaethau eleni.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dod â phrif chwaraewyr y diwydiant cig at ei gilydd i ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth.

Ymhlith y partneriaid roedd Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, The National Federation of Meat & Food Traders, Institute of Meat, Eblex, Dunbia Cyf, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru, Bwydydd Randall Parker ac ymgynghorydd y diwydiant cig Viv Harvey.

Capsiynau’r lluniau:

Matthew Edwards gyda rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Arwyn Watkins ar ôl derbyn ei fedal aur.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818