Clinton y pencampwr cigyddiaeth yn cyflwyno ei lwyddiant yn y rownd derfynol i’w ddiweddar fam

Mae enillydd cyntaf cystadleuaeth Cigydd Porc Cymru wedi cyflwyno ei fuddugoliaeth i’w ddiweddar fam a fu farw tair wythnos yn ôl.

Trechodd Clinton Roberts profiadol, sy’n berchen ar Ponty Butchers, Pontardawe, her gref gan bencampwyr presennol a blaenorol Cigydd Ifanc Cymru Rushforth, 20, o Siop Fferm Swans, Treuddyn, yr Wyddgrug a Tomos Hopkin, 22, o Gwyrhyd Mountain Meat, Rhiwfawr, Abertawe.

Un pwynt a hanner yn unig oedd rhwng y tri chigydd gorau ar ôl rownd derfynol agos yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt ddydd Llun. Enillydd y bedwaredd wobr yn y gystadleuaeth, a oedd ar agor i gigyddion o bob oed, oedd Dave Lang o New Inn Butchers Shop, Pontnewydd-ar-Wy.

Enillodd Roberts gyfres o gystadlaethau yn y 1990au, a dywedodd: “Rwy’n cyflwyno’r fuddugoliaeth hon i’m mam, a fu farw tair wythnos yn ôl. Hi oedd fy ysbrydoliaeth ac roedd hi mor falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni. Rwy’n si?r ei bod wedi bod yn gwylio drosof ac yn gwenu heddiw.”

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, sy’n darparu prentisiaethau i gigyddion â chyllid Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi cydweithio â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i redeg y gystadleuaeth ar y cyd.

Gyda nawdd Cymdeithas Foch Prydain, rhoddodd y rownd derfynol gyfle i’r pedwar cigydd gyflwyno arddangosfa arloesol a chreadigol o hanner mochyn Cymreig, gan ddefnyddio naill ai dulliau modern ynteu ddulliau traddodiadol i hybu Porc Cymreig yn y ffordd orau i ddefnyddwyr. Derbyniodd Roberts £130 a rhannodd y ddau a enillodd yr ail wobr £70.

Cafodd y rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol yr her o ddewis darnau i gynyddu gwerthadwyedd a gwerth y cynnydd gymaint â phosibl, a bydd y beirniaid yn chwilio am syniadau newydd a chreadigol, techneg torri, gwerth ychwanegol, technegau arddangos, HACCP a hylendid personol a’r cynnyrch mwyaf posibl o’r carcasau.

“Nid oeddwn wedi gwneud cystadleuaeth arddangosfa ers 1997 ond roedd hwn yn gyfle rhy dda i’w golli,” meddai Roberts. “Gwnes i gadw at y meini prawf â chymysgedd o ddarnau traddodiadol a modern.

“Roedd yn dda cystadlu yn erbyn y cigyddion ifanc gorau i ddangos bod yr hen gigydd yn dal i fod yn well. Rwy’n creu ei bod yn ffantastig bod Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn meithrin cigyddion ifanc oherwydd bod cymaint o ddiffyg diddordeb yn y fasnach.”

Chris Jones, oedd beirniad y gystadleuaeth gyda Steve Morgans o Morgans Butchers, Aberhonddu, a dywedodd: “Roedd yn gystadleuaeth dda iawn ac roedd yn neis gweld cigyddion ifanc a phrofiadol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Nid oedd llawer i ddewis rhwng y tri uchaf.”

Capsiwn y llun:

Pencampwr Cigydd Porc Cymru â’i arddangosfa fuddugol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893, Keith Brown yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ar Ffôn: 01982 552100 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.