**DIGWYDDIAD** Dyfodol Prentisiaethau yng Nghymru

DYDD MAWRTH, 2 CHWEFROR 2016
CANOL CAERDYDD
MAE’R DIGWYDDIAD HWN WEDI CAEL ARDYSTIAD DATBLYGIAD PROFFESIYNOL PARHAUS

Gwestai Gwadd: Michael Davis, Prif Weithredwr, Comisiwn y DU ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau

Bydd y seminar hwn, sydd wedi’i amseru i ddilyn ymateb Llywodraeth Cymru i’w hymgynghoriad parhaus ar ddiwygio’r model Prentisiaethau yng Nghymru, yn dwyn ynghyd gwneuthurwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol i drafod y dyfodol o ran dylunio a chyflwyno Prentisiaethau yng Nghymru.

Bydd y sesiynau’n astudio effaith y newidiadau diweddar ar fframweithiau Prentisiaethau mewn rhannau eraill o’r DU, y gwersi i’w dysgu o’r fframweithiau newydd hyn a’u gweithrediad, yn ogystal â sut i sicrhau cydnawsedd unrhyw system Gymreig newydd.

Bydd y cynrychiolwyr yn trafod hefyd ydy cynlluniau Llywodraeth Cymru’n debygol o fynd i’r afael yn llwyddiannus â’r heriau allweddol gan gynnwys delio â lefel isel y bobl 16-19 oed sy’n mynd i ddilyn prentisiaeth, cynyddu nifer y cyflogwyr sy’n cynnig Prentisiaethau a thyfu eu rôl yn y broses ddylunio, a datblygu mwy o brentisiaethau ar Lefel 3 hyd at Lefelau 5, 6 a 7 cyfwerth â gradd.

Disgwylir i’r mynychwyr gynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o’r Cynulliad Cenedlaethol ochr yn ochr â chyflogwyr, grwpiau diwydiant a chymdeithasau masnach, colegau a darparwyr hyfforddiant eraill, elusennau, academyddion a phobl eraill a chanddynt ddiddordeb yn y maes polisi pwysig hwn.

Mae’r canlynol wedi cytuno’n garedig i gyflwyno areithiau cyweirnod yn y gynhadledd: Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Isadran Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru; Michael Davis, Prif Weithredwr, Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau a Julie Fionda, Aelod Cabinet, Y Comisiynydd Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol, Sgiliau a Symudedd Llafur, y Comisiwn Ewropeaidd.

Yn y cyfnod cynnar hwn, mae’r canlynol wedi cytuno siarad: Beth Button, Llywydd, UCM Cymru; Iestyn Davies, Darpar Brif Weithredwr, ColegauCymru, ac Aelod o Fwrdd Cynghori Cymwysterau Cymru; Richard Guy, Uwch Ymgynghorydd Prentisiaethau, City & Guilds; Rachel Searle, Rheolwr Perthynas Genedlaethol, Sgiliau er Cyfiawnder y DU ac Arwyn Watkins, Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae Rhun ap Iorwerth AC, Aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llefarydd ar yr Economi, Menter a Chludiant, Plaid Cymru wedi cytuno’n garedig i gadeirio rhan o’r seminar hwn.

Er mwyn gweld yr agenda lawn neu i gadw lle, cliciwch fan hyn.