Tri chigydd yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cigyddiaeth WorldSkills UK

Bydd tri chigydd o Ogledd a Chanolbarth Cymru yn profi eu sgiliau yn erbyn goreuon y busnes yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Cigyddiaeth Genedlaethol WorldSkills UK yr wythnos hon.

Bydd y chwe chigydd sy’n ennill y nifer fwyaf o farciau o’r rhagbrofion cyfun yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn mynd benben yn y rownd derfynol yn The Skills Show, a gynhelir yn NEC Birmingham, ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon.

Yn dilyn y gystadleuaeth, bydd y cigyddion yn rhoi arddangosfa yn y sioe ar ddydd Sadwrn wrth iddynt aros am y canlyniadau mewn digwyddiad cyflwyno gyda’r nos. The Skills Show yw digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf y genedl, ac mae’n helpu i siapio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Yn cynrychioli Cymru mae Matthew Edwards, 23, o Gigydd Teulu Vaughan, Penyffordd, ger Caer, Daniel John Allen-Raftery, 31, cigydd a lladdwr o Randall Parker, Llanidloes a Peter Rushforth, 20, o Fferm Siop Swans, yr Wyddgrug. Gwnaeth bob un ohonyn nhw argraff dda yn rhagbrawf Cymru a gynhaliwyd ym Mwydydd Randall Parker yn Nolwen, Llanidloes.

Yn cynrychioli Lloegr, ar ôl llwyddiant yn y rhagbrofion a gynhaliwyd yn Leeds, y mae John Brereton, 41, rheolwr cigyddiaeth yng Nghanolfan Fwyd Llwydlo sydd wedi ennill gwobrau a Matthew Parkes, 21, sy’n byw yn Willenhall ac sy’n rheolwr cynorthwyol ar gyfer Siop Walter Smith Fine Foods yng Nghanolfan Arddio Melbicks, Coleshill.

Yn cynrychioli Gogledd Iwerddon bydd Dylan Gillespie, 20, o Clougher Valley Meats, Clougher, Tyrone, a enillodd ragbrawf Gogledd Iwerddon yng Ngholeg Rhanbarthol y De, Newry.

Bydd y cigyddion yn cael pum prawf i’w cwblhau dros ddau ddiwrnod, a fydd yn profi eu sgiliau i’r eithaf. Y profion yw: cynnyrch parod i’w bwyta, gwneud selsig, cynnyrch barbeciw, cynnyrch parod i’r gegin a diesgyrnu ac arddangosfa gigyddiaeth ar thema.

Yn ddiweddar mae Rushforth wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth gigyddiaeth ryngwladol yn Utrecht, yr Iseldiroedd, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth.

“Mae’n debyg iawn i’r gystadleuaeth ryngwladol gwnes i’n ddiweddar, sydd wedi fy sefydlu’n eithaf da,” meddai. “Mae’r gystadleuaeth yn cwmpasu pob agwedd ar y fasnach a byddai’n andros o anrhydedd os bydda’ i’n gallu ei hennill.

“Mae Matthew a minnau wedi bod benben ers cyfnod eithaf hir a bydd yn neis gweld pwy sy’n ennill y gystadleuaeth hon. Bydd pawb ar eu gorau.”

Bu Edwards yn cystadlu dros Brydain Fawr yn Utrecht y llynedd hefyd, ac mae wedi bod yn ymarfer ers iddo ennill rhagbrawf Cymru. “Bydd y rownd derfynol yn rhoi pob agwedd ar fy sgiliau cigyddiaeth ar brawf a bydd yn ddau ddiwrnod dwys,” meddai.

“Bydd yn un o’r cystadlaethau gorau i mi fod yn rhan ohono, a dwi’n gobeithio y bydda’ i’n ennill. Nid wyf wedi stopio ymarfer ers ennill rhagbrawf Cymru. Dwi’n gwybod y bydd yn rhaid i mi fod ar fy ngorau i ennill oherwydd ansawdd y gystadleuaeth.”

Dywedodd Parkes fod y siop lle mae’n gweithio pum munud yn unig i ffwrdd o’r NEC. Mae pythefnos o wasanaeth rheithgor wedi amharu ar ei baratoadau ond mae’n gobeithio y bydd yn barod i’r rownd derfynol.

“Buaswn i wrth fy mod i orffen yn y tri uchaf, ond byddai ennill y rownd derfynol a dweud mai fi yw WorldSkills UK Cigyddiaeth yn gyflawniad anhygoel,” ychwanegodd. “Dwi wedi bod yn edrych ymlaen at y rownd derfynol ers cymaint o amser, dyma’r gystadleuaeth fwyaf i mi gymryd rhan ynddi erioed.”

Mae Raftery’n byw yn Aber-miwl, ger y Drenewydd, a dywedodd: “Dwi’n edrych ymlaen at gystadlu yn erbyn cystadleuwyr profiadol o bob rhan o’r wlad a gweld y gwahanol gynhyrchion ac arddulliau cigyddiaeth. Yn y fasnach cig, byddwch chi byth yn stopio dysgu.”

Mae Brereton wedi bod yn cystadlu ers wyth mlynedd ond mae’n dal i deimlo’n bryderus yn mynd i mewn i’r rownd derfynol. “Nid wyf yn teimlo mor gysurus yngl?n â rhai disgyblaethau, felly dwi wedi ymarfer y meysydd hynny a dwi’n gobeithio ennill y gystadleuaeth,” meddai.

“Ond nid ennill yw popeth, mae’n ymwneud â’r hyn byddwch chi’n dysgu wrth gystadlu gymaint ag unrhyw beth arall. Mae’r gystadleuaeth yn gwneud i chi ddod o hyd i’r amser i edrych ar ddatblygu cynnyrch newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.”

Mae Gillespie, 20, hefyd wedi bod yn brysur yn ymarfer ers ennill rownd derfynol Gogledd Iwerddon ac mae’n edrych ymlaen at y rownd derfynol. “Bydd yn brofiad gwych a bydda’ i’n gwneud fy ngorau i ennill,” meddai.

“Dyma fy ail gystadleuaeth yn unig, felly byddai ennill yn dda iawn i mi yn ogystal â Clougher Valley Meats.”

Mae’r darpar hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, sydd wedi ennill gwobrau, wedi trefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran WorldSkills UK a chafodd y rhagbrofion eu noddi gan y National Federation of Meat and Food Traders, Institute of Meat a PBEX.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dod â phrif chwaraewyr y diwydiant cig at ei gilydd i ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth newydd.

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni hyfforddiant a phrentisiaeth a rhoi hwb i sgiliau yn y diwydiant. Cigyddiaeth yw un o blith mwy na 60 o sgiliau i fod yn rhan o gystadlaethau eleni.

Meddai Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Rydym yn falch iawn i ddod â chigyddiaeth i’r Skills Show am y tro cyntaf. Dyma arddangosfa sgiliau cigyddiaeth ac rydym yn gobeithio gwneud y gystadleuaeth gyntaf hon yn un o brif nodweddion y Skills Show fel bod cefnogaeth barhaus ar gyfer cigyddion yn y dyfodol.”

Ymhlith y partneriaid mae Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, The National Federation of Meat & Food Traders, Institute of Meat, Eblex, Dunbia Cyf, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru, Bwydydd Randall Parker a Mr Harvey.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818