Chwalu 6 myth am Brentisiaethau

Mae prentisiaethau’n ffordd wych o gychwyn eich gyrfa neu gael rhai sgiliau newydd yn eich rôl bresennol…serch hynny, mae yna rai camsyniadau cyffredin y mae angen i ni eu cywiro.

1. Dim ond mewn diwydiannau llaw y ceir prentisiaethau.

Mae prentisiaethau bellach ar gael mewn dros 170 o ddiwydiannau…sy’n gyfwerth â thros 1,500 o
alwedigaethau! Felly, mae prentisiaeth ar gael ar eich cyfer CHI, o letygarwch a pheirianneg, i’r
gyfraith a bancio.

2. Mae cymwysterau prentisiaeth o safon isel.

Yn syml iawn, nid yw hyn yn wir. Cydnabyddir prentisiaethau ar raddfa eang gan Gyflogwyr, gyda
chymwysterau’n amrywio o Lefel 2, sy’n gyfwerth â TGAU, hyd at Lefel 4+, sy’n gyfwerth â gradd!

3. Mae prentisiaethau i bobl sy’n gadael yr ysgol yn unig.

Mae prentisiaethau ar gyfer unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn. Felly… os ydych chi am roi cynnig ar yrfa newydd, neu efallai am ddysgu rhai sgiliau newydd yn eich rôl bresennol, galla Prentisiaethau gynnig yr ateb!

4. Mae cyflog prentisiaid yn wael.

Bydd pob Prentis yn cael Cyflog Prentisiaethau Cenedlaethol o leiaf, sef £3.90 yr awr ar hyn o bryd i bobl 16 i 18 oed, ac i bobl 19 oed neu’n hŷn yn eu blwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, mae mwyafrif y cyflogwyr yn dewis talu mwy na hyn!

Dylech ystyried hefyd y gallai uwch brentisiaethau wella enillion oes rhywun o £77,000 i £117,000!

5. Ni chymerir prentisiaid o ddifrif yn y gweithle.

Anghywir! Mae prentisiaethau’n swyddi amser llawn gyda thâl, gyda’r un hawliau a buddiannau â rolau eu cydweithwyr. Mae’r Adran Addysg hyd yn oed yn dweud fod 23% o brentisiaid yn cael
cynnig dyrchafiad cyn pen 12 mis o gymhwyso.

6. Nid oes cyfleoedd am brentisiaethau.

Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd am brentisiaethau yng Nghymru fan hyn: https://bit.ly/2NK0pGD

…neu os ydych chi eisoes mewn gwaith ac am ennill sgiliau newydd, chwiliwch ar ein rhestr o
gymwysterau Prentisiaeth fan hyn: https://www.cambriantraining.com/wp/cy/ewch-yn-brentis/