Cigyddion ifanc o fri yn ymgynnull ar gyfer rownd derfynol WorldSkills

Bydd chwech o gigyddion ifanc gorau’r genedl yn cystadlu ar ddiwedd yr wythnos hon mewn rownd derfynol cigyddiaeth WorldSkills.

Bwriadwyd y gystadleuaeth, a gynhelir yn yr NEC yn Birmingham ar ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Tachwedd, i wella prentisiaethau a rhaglenni hyfforddiant yn y diwydiant. Cigyddiaeth yw un yn unig o blith mwy na 60 o sgiliau i fod yn rhan o ddigwyddiadau eleni.

Dyma’r chwe chystadleuydd a fydd yn brwydro:
• Hannah Blakey o Goleg Dinas Leeds.
Enillodd Blakey rownd Cymru, a hi yw’r cystadleuydd ieuengaf yn y gystadleuaeth eleni a’r ferch gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol.
• Peter Rushforth o Siop Fferm Swan, yr Wyddgrug.
Gwnaeth Rushforth gymhwyso yn rownd derfynol Cymru hefyd a daw i’r gystadleuaeth yn syth ar ôl ennill gwobr Cigydd Ifanc y Flwyddyn Meat Trades Journal yng Ngwobrau Siop Cigydd y Flwyddyn. Y llynedd, gorffennodd yn gydradd drydydd yn rownd derfynol WorldSkills.
• James Gracey o Quails of Dromore, Sir Down.
Cystadleuydd sy’n dychwelyd, Gracey enillodd rownd Gogledd Iwerddon a hefyd bu’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cigydd Ifanc Premier eleni.
• Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Sir Tyrone.
Mae Gillespie hefyd yn gystadleuydd sy’n dychwelyd i’r gystadleuaeth eleni, ar ôl iddo orffen yn gydradd drydydd y llynedd. Cymhwysodd yn rownd Gogledd Iwerddon.
• Martin Naan o Kettyle Irish Foods, Sir Fermanagh.
Naan yn y trydydd cigydd o Iwerddon sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar ôl ei berfformiad yn rownd Gogledd Iwerddon. Dyma’r tro cyntaf iddo gystadlu yn Worldskills.
• Daniel Turley o Aubrey Allen, Coventry.
Hefyd yn newydd i’r gystadleuaeth, Turley yw’r unig gigydd a gymhwysodd yn rownd Lloegr.

Dros gyfnod y ddau ddiwrnod, bydd y cigyddion ifanc yn wyneb cyfres o heriau. Mae categorïau diwrnod un yn cynnwys barod i fwyta; pan fyddant yn cael awr a hanner i gynhyrchu dau gynnyrch sy’n barod i’w bwyta o’u dewis, sydd union yr un fath, sy’n dangos creadigrwydd, cysondeb a gallu technegol. Bydd un o’r cynhyrchion yn cael ei goginio, tra bydd y llall yn aros yn amrwd i gael ei farnu.

Ail dasg y diwrnod cyntaf bydd yr her gwneud selsig i fanyleb. Bydd un ysgwydd gyfan o borc yn cael ei ddarparu i’r cigyddion ynghyd â chynhwysion iddynt wneud math penodol o selsig yn gywir. Caiff y selsig eu barnu yn amrwd ac wedi’u coginio a byddant yn cael eu marcio ar sail blas, gwaith ymarferol a methodoleg, cymysgu, llenwi, maint, siâp a chysondeb. Bydd ganddynt un awr i gwblhau hyn, heb gynnwys amser coginio.

Y dasg derfynol, sef y drydedd, ar ddiwrnod un bydd yr her barbeciw, lle bydd cyw iâr gyfan, ochr o gig eidion, coes o gig oen a lwyn porc di-asgwrn yn cael eu darparu i’r cystadleuwyr. Bydd gofyn i gystadleuwyr baratoi arddangosfa barbeciw hardd â labeli clir mewn awr a hanner. Mae’n rhaid paratoi’r holl gynhyrchion fel y gellir eu coginio ar farbeciw.

Bydd yr ail ddiwrnod yn cynnwys yr her blwch dirgel, lle bydd y cigyddion yn creu cynnyrch o flwch o gigoedd anhysbys sy’n gyfleus i’w coginio mewn cartref cwsmer posibl. Bydd ganddynt un awr a 10 munud ar gyfer y rownd hon.

Yn nhasg dau, arddangos a chigyddiaeth diesgyrnu a thorri, bydd gofyn i’r cystadleuwyr diesgyrnu ochr o gig eidion yn doriadau cychwynnol mewn tair awr. Bydd ganddynt fynediad at bantri lle gallant ddewis unrhyw dair eitem arall i’w defnyddio a fydd yn gwella eu harddangos terfynol.

“Mae’n bwysig ar gyfer datblygu crefft cigyddiaeth bod pawb y tu ôl i chwe chystadleuydd rownd derfynol Cigyddiaeth WorldSkills (DU) yr wythnos hon,” meddai Roger Kelsey, prif weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, a fydd yn barnu’r gystadleuaeth ochr yn ochr ag ymgynghorydd Viv Harvey a Keith Fisher, prif weithredwr yr Institute of Meat.

“Rydw i, am un, yn edrych ymlaen at weld amrywiaeth o gynhyrchion arloesol a manwl wedi’u cynhyrchu yn ystod dau ddiwrnod o gystadlu cyffrous ar ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon,” ychwanegodd Kelsey.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn trefnu’r gystadleuaeth, â chefnogaeth gr?p llywio’r diwydiant a’r unig bartner cyfryngau yw Meat Trades Journal.

“Mae’r gystadleuaeth yn ffordd wych i arddangos y gorau o sgiliau cigyddiaeth ledled y DU i’r genhedlaeth nesaf ar lwyfan byw cenedlaethol yn y Sioe Sgiliau,” meddai Arwyn Watkins, Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian.

“Mae’n fraint cymryd rhan mewn digwyddiad mor wych, lle mae pobl o bob rhan o’r DU yn cael eu hysbrydoli o ran eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae trefnu’r gystadleuaeth yn gyffrous ac mae’n werth chweil tu hwnt gweld canlyniadau holl waith caled y cystadleuwyr, gan weithio â’n holl bartneriaid yn y diwydiant.

“Y rheswm y mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau yw datblygu meincnod, nid yn unig ar gyfer y cystadleuwyr ond hefyd ar gyfer hyfforddwyr, a’n nod yw cael cigyddiaeth, un o’r sgiliau hynaf y byd, yn rhan o gystadleuaeth WorldSkills.”

Ymhlith y partneriaid sy’n noddi mae ABP, Fridge Rentals, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, Institute of Meat, Hybu Cig Cymru, Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod Cyf ac ymgynghorydd yn y diwydiant Viv Harvey.