Dathlu popeth sy’n wych ynglŷn â hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru

Yma yn Hyfforddiant Cambrian rydym yn gweithio â chyflogwyr a dysgwyr gwych ledled Cymru yn darparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant, prentisiaethau, a hyfforddiant cyflogaeth a sgiliau ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae gan bob un busnes, prentis neu ddysgwr ei stori a’i gyflawniad ei hun i adrodd arno.

Ac i ddathlu hyn rydym wedi penderfynu lansio ein gwobrau ein hunain.

Bydd Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau Hyfforddiant Cambrian yn tynnu sylw at lwyddiannau eithriadol cyflogwyr ac unigolion sy’n cymryd rhan ym mhopeth, o Dwf Swyddi Cymru i hyfforddiant prentisiaeth ledled Gogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru.

Bydd y Categorïau’n cynnwys:

Ymgysylltu Cyflogwyr â Phrentisiaeth y Flwyddyn – Bach, Canolig, Mawr a  Macro
Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru
Prentis y Flwyddyn – Prentis Sylfaen (Lefel 2), Prentisiaeth (Lefel 3), Prentisiaethau Uwch (Lefel 4 +)

Ni waeth pa sector rydych ynddo, lle rydych neu ba rôl rydych yn ymgymryd â hi, gallwch wneud cais heddiw am un o’r gwobrau trwy glicio yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Chwefror 2017 a datgelir y rheiny sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn y seremoni wobrwyo ym mis Mawrth.

Bydd enillwyr pob categori yn rhoi cynnig ar Wobrau Prentisiaeth Cymru 2017 y mae NTfW a Llywodraeth Cymru yn eu trefnu, gan gystadlu â chyflogwyr ac unigolion eraill ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Os Oes gennych unrhyw cwestiynnau, cysylltwch gyda Katy Godsell, ein Rheolwr Machnata ar katy@cambriantraining.com

Pob Lwc.