Defnyddio Cwcis

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei osod ar yriant caled eich cyfrifiadur yw cwci. Ar ôl i chi gytuno, bydd y ffeil yn cael ei hychwanegu a bydd y cwci’n helpu dadansoddi traffig y we neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn galluogi cymwysiadau’r we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall cymhwysiad y we deilwra’i weithredoedd i’ch anghenion, eich hoff a chas bethau trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Defnyddiwn gwcis log traffig i ddynodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig tudalennau gwe a gwella’n gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion y cwsmeriaid. Defnyddiwn y wybodaeth hon ond at ddibenion dadansoddi ystadegol ac yna caiff y data ei dynnu oddi ar y system.

Ar y cyfan, mae cwcis yn ein helpu ni i ddarparu gwell gwefan ar eich cyfer, trwy’n galluogi i fonitro pa dudalennau sydd o gymorth i chi neu beidio. Nid yw cwci yn rhoi i ni fynediad i’ch cyfrifiadur nac i unrhyw wybodaeth amdanoch o gwbl, ar wahân i’r data y dewiswch ei rannu gyda ni.

Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe’n derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel rheol, gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os oes well gennych. Gallai hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google, Inc. (“Google”). Defnyddia Google Analytics “cwcis”, sef ffeiliau testun a osodir ar eich cyfrifiadur i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r safle. Bydd y wybodaeth a grëir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei throsglwyddo i Google a’i storio ganddo ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion arfarnu’ch defnydd o’r wefan, rhoi adroddiadau at ei gilydd ar weithgarwch ar y wefan i weithredwyr gwefannau a darparu gwasanaethau eraill sy’n ymwneud â gweithgarwch y wefan a defnydd o’r rhyngrwyd. Gallai Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle mae’r gyfraith yn gofyn am hynny, neu lle mae’r trydydd partïon hynny’n prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallech wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, fodd bynnag, sylwch os byddwch yn gwneud hyn, hwyrach na allwch ddefnyddio swyddogaeth lawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n caniatáu i Google brosesu data arnoch yn y ffordd ac at y dibenion a osodwyd uchod.

Dyma’r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon ar hyn o bryd:

__utma

  • 2 flynedd o sefydlu/diweddaru
  • Fe’i defnyddir i wahaniaethu defnyddwyr a sesiynau. Crëir y cwci pan fydd y llyfrgell javascript yn gweithredu ac nad oes cwcis _utma yn bodoli. Diweddarir y cwci bob tro yr anfonir data at Google Analytics.

__utmz

  • 6 mis o sefydlu/diweddaru
  • Mae’n storio’r ffynhonnell traffig neu’r ymgyrch sy’n esbonio sut cyrhaeddodd y defnyddiwr eich safle. Crëir y cwci pan fydd y llyfrgell javascript yn gweithrefu ac mae’n cael el ei ddiweddaru bob tro yr anfonir data at Google Analytics.

_ga

  • 2 flynedd
  • Fe’i defnyddir i wahaniaethu defnyddwyr.

Dolenni i wefannau eraill

Gallai ein gwefan gynnwys dolenni i’ch galluogi i droi at wefannau eraill o ddiddordeb yn hawdd. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r dolenni i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth ar y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch wrth ymweld â’r safleoedd hynny ac ni reolir y safleoedd hynny gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn wyliadwrus a chwilio am y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.