Wythnos Prentisiaeth: yn Bryson Recycling

 

Rheolwr Prentisiaethau, Tracey Gilliam:

Pa sgiliau allweddol wnaethoch chi eu dysgu ar eich prentisiaeth?

Roedd y sgiliau allweddol a ddysgais yn cynnwys gwella fy nysgu a fy mherfformiad fy hun, a datrys problemau. Y tri sgil allweddol oedd Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a TG

 A fuasech chi’n argymell Prentisiaeth? Os felly, pam?

Fe fuaswn yn argymell prentisiaethau i bobl sydd eisiau dysgu sgiliau newydd ac sydd eisiau rhoi hwb addysgol iddyn nhw eu hunain. Dwi wedi dysgu llawer o wybodaeth, ac wedi ychwanegu at yr wybodaeth roeddwn i’n ei gwybod yn barod.

Gan Bryson Recycling:

Pam wnaethoch chi benderfynu cymryd rhan mewn prentisiaethau?

Fe benderfynom ei fod yn gyfle gwych i staff ddysgu sgiliau newydd a sylweddoli faint o wybodaeth roedden nhw eisoes yn ei gwybod. Maen nhw wrth eu bodd yn cael cymwysterau, ac mae'n rhoi hwb da i’r staff o ran eu hyder.

Yn eich barn chi, sut mae cymryd rhan yn y rhaglen brentisiaeth wedi dylanwadu ar eich staff? e.e. lefelau cynhyrchiant, cymhelliant, gwybodaeth.

Mae eu gwybodaeth wedi gwella, ac mae wedi rhoi gwell ymdeimlad o hunanwerth i rai aelodau o staff. Maen nhw'n rhannu gwybodaeth ac yn helpu ei gilydd gyda gwybodaeth nad oedden nhw’n ei gwybod o’r blaen.

Ydych chi’n meddwl bod prentisiaethau wedi cyfrannu at eich llwyddiant fel busnes? Os felly, pam?

Mae gan staff synnwyr a gwybodaeth well o ddysgu.

A fyddech chi’n argymell y rhaglen Brentisiaeth i fusnesau eraill? Os felly, pam?

Yn sicr, buaswn yn argymell prentisiaethau i fusnesau eraill. Fel ‘dwi eisoes wedi dweud, mae’n rhoi hwb moesol ac ymdeimlad o hunanwerth i’r staff. Mae ,mathemateg a sgiliau Saesneg rhai aelodau o staff wedi gwella’n fawr.