Wythnos Prentisiaeth: yn Celtic Manor Resort

The Celtic Manor Resort…

Pam benderfynoch chi ymhél â prentisiaethau?

Mae prinder pobl hynod fedrus yn y diwydiant lletygarwch. Mae’r rhaglen brentisiaeth yn ein galluogi ni i hyfforddi’n staff i sicrhau eu bod yn cyflawni i’r safonau sy’n ofynnol yn ein busnes, ac
fel cyrchfan 5 seren, mae hyn yn hollbwysig i’n llwyddiant. Mae ymhél â phrentisiaethau yn wych i ddatblygiad personol ein gweithwyr hefyd gan eu bod yn eu galluogi i ehangu eu sgiliau a’u gwybodaeth tra byddant yn y gweithle, gan gynyddu eu cynhyrchiant a’u cymhelliant. Mae’n wych gweld y twf mewn unigolion adeg cwblhau eu cymhwyster, gan eu bod yn aml yn awyddus i
ymgymryd â lefel nesaf y cymhwyster er mwyn iddynt allu parhau i ddatblygu.

Sut ydych chi’n credu bod ymhél â’r rhaglen brentisiaeth wedi dylanwadu ar eich staff? E.e. lefelau cynhyrchiant, cymhelliant, gwybodaeth.

Mae cymryd rhan yn y rhaglen brentisiaeth wedi dylanwadu ar ein staff ar sawl lefel. Mae’r unigolion hynny wedi’u hyfforddi yn y sgiliau allweddol a’r cymwyseddau sy’n ofynnol yn eu swydd,
sy’n golygu eu bod yn barod i gyflawni’n safonau gwasanaeth. Yn ogystal â sgiliau cysylltiedig â swyddi, mae prentisiaid hefyd yn ennill sgiliau bywyd allweddol sydd o fantais iddynt yn eu bywyd
personol a phroffesiynol, mae’r sgiliau hyn yn cynnwys: datrys problemau, rheoli amser, cyfathrebu a chymryd perchnogaeth. Mae’r holl ffactorau hyn yn gwneud gweithlu cymwys, cynhyrchiol ac uchel eu cymhelliant.

Ydych chi’n credu bod prentisiaethau wedi cyfrannu at eich llwyddiant fel busnes? Os ydy, pam?

Rwy’n grediniol bod prentisiaethau wedi cyfrannu at ein llwyddiant fel busnes. Rhydd brentisiaethau nifer fawr o fuddiannau i’r busnes. I ddechrau, mae’n sicrhau bod ein holl staff yn cyflawni i’r safonau uchel sy’n ofynnol yn ein busnes, i ni mae hyn yn golygu bod ein holl staff yn cyflawni’n safonau pum seren cryf i sicrhau bod ein gwesteion yn cael profiad cadarnhaol a bythgofiadwy wrth ymweld â’r Celtic Manor Resort. Mae prentisiaethau’n helpu wrth recriwtio a chadw ein staff, mae’n dangos ein bod ni fel busnes yn ymroi i ddatblygu a meithrin ein doniau ein hunain. Yn aml, mae’r unigolion hynny sy’n dilyn prentisiaeth gyda ni’n ffyddlon iawn, yn uchelgeisiol ac yn awyddus i ddysgu. Yn y pen draw, mae hyn yn effeithio ar eu cynhyrchiant a’u hymrwymiad i’r busnes.

A fyddech yn argymell y rhaglen Brentisiaeth i fusnesau eraill? Os felly, pam?

Byddwn yn sicr yn argymell y rhaglen Brentisiaeth i fusnesau eraill. Gan fod prinder o bobl hynod fedrus yn mynd i mewn i’r diwydiant lletygarwch, yn ogystal â’r ffaith nad ystyrir y diwydiant yn
llwybr gyrfa gan lawer, mae prentisiaethau’n bwysig iawn er mwyn hyrwyddo’r diwydiant lletygarwch ac annog pob cenhedlaeth y gall y diwydiant lletygarwch ddarparu gyrfa gyffrous a llwyddiannus. Bydd y rhaglen brentisiaeth yn sicrhau hefyd bod eich gweithlu’n fedrus, yn llawn gwybodaeth, yn uchel ei gymhelliant ac yn gynhyrchiol – allwch chi ddim gofyn am lawer mwy na
hyn!

Brentis Gwesty a Lletygarwch. Jessica Howells

Wnaethoch chi wastad freuddwydio am fod yn “Brentis Gwesty a Lletygarwch”? Os do, pam?

Naddo, roeddwn i wastad yn meddwl mai gweinyddes awyren fydden i, ond ar ôl sylweddoli nad dyna’r swydd i mi, dychwelais i’r Celtic Manor a sylweddoli mai dyna beth oeddwn i am wneud.

Pa sgiliau allweddol ddysgoch chi ar eich prentisiaeth a dynnodd sylw atoch chi fel “Brentis Gwesty a Lletygarwch”?

Rwy’n credu mai un o’r sgiliau allweddol ddysgais i yn fy mhrentisiaeth yw’r gallu i weithio dan bwysau a pheidio â chynhyrfu. Rwy’n credu bod gennyf sgiliau rheoli amser da iawn a’r dymuniad i
weithio yn y diwydiant lletygarwch sy’n gwneud i mi sefyll allan.

A fyddech chi’n argymell Prentisiaeth? Os felly, pam?

Byddwn yn sicr yn argymell i unrhyw un fod yn brentis; cefais drafferth fawr yn yr ysgol a chefais fy ngwthio ganddi i wneud cymwysterau Safon Uwch ac wedyn roedd disgwyl i mi fynd i’r brifysgol. Rwy’n credu y bydd prentisiaeth yn paratoi unrhyw un ar gyfer unrhyw swydd maen nhw’n ei dymuno yn fwy nag y bydd gradd prifysgol yn ei gwneud.