Deg ar y Rhestr Fer i Rownd Derfynol Gwobrau VQ eleni yng Nghymru

Mae deg o bobl wedi cyrraedd y rhestr fer i rownd derfynol gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) eleni, ledled Cymru.

Ar ôl ystyried ceisiadau o ledled Cymru, roedd gan y panel y dasg anodd o ddewis tri o bobl i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn Uwch VQ, tri o bobl ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn VQ a phedwar o bobl ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn Canolraddol VQ.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yng Ngwesty a Sba Dewi Sant, Caerdydd ar Fehefin 7, y diwrnod cyn Diwrnod VQ. Mae Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a ColegauCymru / CollegesWales yn trefnu’r gwobrau. Media Wales yw’r partner cyfryngau.

Dyma’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn Canolraddol VQ:
• Elizabeth Forkuoh, Gwesty Parc y Strade, Llanelli, a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli
• Nick Rudge, Fat Duck, Bray a enwebwyd gan Goleg Llandrillo Gr?p Llandrillo Menai
• Darryn Pitman, Captiva Spa, Caerffili, a enwebwyd gan ISA Training, Pen-y-bont ar Ogwr
• Stefano Amoruso, Trojan Electronics, Abertawe, a enwebwyd gan Goleg G?yr Abertawe

Dyma’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn Uwch VQ:
• Dorota Orzeska, Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe, a enwebwyd gan Hyfforddiant GCS o Goleg G?yr Abertawe
• Lorna Wilcox-Jones, Cartrefi Cymru, Bangor, a enwebwyd gan gampws Dinbych Gr?p Llandrillo Menai
• Melanie Durney, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, a enwebwyd gan Goleg Sir Benfro

Dyma’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn VQ:
• Arthur J. Gallagher, Llantrisant a enwebwyd gan Acorn Learning Solutions
• Thorncliffe Mold a enwebwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian
• Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Caerdydd a enwebwyd gan VQ Assessment Services

Mae Gwobrau Dysgwyr VQ yn cydnabod unigolion sy’n arddangos cynnydd a rhagoriaeth yn glir mewn astudiaethau galwedigaethol ac sydd wedi gwneud cyflawniadau sylweddol yn eu maes oherwydd cymwysterau galwedigaethol. Mae’r wobr ganolradd ar gyfer dysgwyr â chymwysterau hyd lefel tri, ac mae’r wobr uwch ar gyfer cymwysterau o lefel pedwar i fyny.

Mae Gwobr Cyflogwr VQ yn dathlu cyflogwyr sy’n buddsoddi mewn dysgu galwedigaethol i gynyddu sgiliau’r gweithlu a chynyddu cynhyrchiant a chystadleurwydd.

Bellach yn eu nawfed flwyddyn, mae’r gwobrau’n cyd-ddigwydd â Diwrnod VQ ar Fehefin 8, dathliad o fanteision a gwerth dysgu galwedigaethol ac ymarferol, technegol o ansawdd uchel i unigolion ac i’r economi.

Anogir darparwyr dysgu ar draws Cymru i drefnu digwyddiadau rhanbarthol i ddathlu Diwrnod VQ ac ymgysylltu â dysgwyr o bob oed. Nid yw cymwysterau galwedigaethol erioed wedi bod yn fwy pwysig i’r economi a’r unigolyn, oherwydd eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a dawnus y mae busnesau’n crefu amdanynt, ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau sy’n ofynnol i lwyddo mewn addysg a gwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y gwobrau, ewch i https://www.vqday.wales