MeatUp y Prif gigydd Ifanc yn 2017

Estynnir gwahoddiad i brentisiaid cigyddiaeth o bob rhan o’r DU gymryd rhan yng Nghystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc 2017 a gynhelir gan Yandell Media yn MeatUp yn yr Arena, Milton Keynes (NEC) ar ddydd Iau 25 Mai flwyddyn nesaf.

Dilyna hyn lwyddiant y gystadleuaeth yn y Birmingham NEC ym mis Ebrill pan frwydrodd wyth o bob cwr o’r DU yn y rownd derfynol am bedwar tlws ar ddeg a theitl y Prif Gigydd Ifanc 2016. Mae’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd (NFMFT) yn chwilio am brentisiaid cigyddiaeth 18-23 oed dawnus i gystadlu mewn cynhyrchu ac arddangos cynhyrchion Parod i’w Bwyta, Rhost wedi’i Stwffio, Cigyddiaeth Ar Hyd yr Uniad, Barbeciw a Pharod i’r Gegin arloesol er mwyn ennill teitl Prif Gigydd Ifanc 2017.

Mae enillydd 2016, James Henshaw o Taylors Farm Shop yn Lathom, Sir Gaerhirfryn bellach yn paratoi gyda’i gyd-gystadleuwyr a ddaeth yn agos at y brig yn 2016, sef Dylan Gillespie o Clogher Valley Meats, Gogledd Iwerddon a James Taylor o Simpsons yn Heckington, Lincolnshire, i adeiladu ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol yn Imst, Awstria fis Mai nesaf.

Dywed Jim Sperring, sef cigydd o Lundain a Llywydd yr NFMFT “mae cystadlu yn y Prif Gigydd Ifanc yn gyfle aruthrol a gall newid bywyd unrhyw un sydd â’i fryd ar yrfa mewn cigyddiaeth!”

Mae cystadleuaeth Prif Gigydd Ifanc 2017 yn agored i BOB prentis cigyddiaeth 18 – 23 oed yn y DU a dylai unrhyw brentis neu gyflogwr sy’n credu bod ganddo brentis â’r sgiliau angenrheidiol gysylltu â roger@nfmft.co.uk neu fynd i www.nfmft.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Trefnir cystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc 2017 gan yr NFMFT ac fe’i cynhelir gan Yandell Media, ei noddi gan AHDB Beef & Lamb, AHDB Pork, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Dalziel, Institute of Meat, Meat Ipswich, Quality Meat Scotland, RAPS (UK), Weddel Swift a’r Worshipful Company of Butchers.