Cydnabod rhagoriaeth yng Ngwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Cydnabuwyd cyflogwyr a dysgwyr sydd wedi rhagori mewn prentisiaethau, rhaglenni hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gan un o gwmnïau hyfforddiant gorau Cymru mewn seremoni wobrwyo flynyddol nos Fercher.

Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ei ail seremoni Wobrwyo Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau flynyddol yn y Pafiliwn Rhyngwladol ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd i gyd-daro ag Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau. Cyrhaeddodd 18 y rowndiau terfynol ledled Cymru.

Ymhlith yr enillwyr oedd: Prentis Sylfaen y Flwyddyn, Thomas Martin, chef de partie yng Ngwesty Holm House, Penarth. Prentis y Flwyddyn, Mitchell Penberthy, chef de partie yn Charlton House, CH & Co, Bae Caerdydd. Uwch Brentis y Flwyddyn, Karen Jones, rheolwr Euro Garages, Dolgellau.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn, Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Mainetti, Wrecsam. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, CDT Sidoli, Y Trallwng.

Bydd cyfle i enillwyr y gwobrau nawr i gael eu rhoi gerbron ar gyfer Gwobrau mawreddog Prentisiaethau Cymru, a gyd-drefnir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.

“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori ar y disgwyliadau yn ystod eu hymwneud a’u hymrwymiad â rhaglenni hyfforddiant a sgiliau,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae pawb yn y rownd derfynol wedi dangos dull unigryw o droi at hyfforddiant a datblygiad ac wedi dangos blaengaredd a menter, arloesedd a chreadigedd. Rydym yn ffodus o weithio gydag ambell i gyflogwr a dysgwr eithriadol ar hyd a lled Cymru wrth i ni gyflwyno ystod o raglenni hyfforddiant prentisiaeth, sgiliau a chyflogaeth ar ran Llywodraeth Cymru.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Enillwyr

Aeth y wobr am Brentis Sylfaen y Flwyddyn i Thomas Martin, y chef de partie 22 oed o Westy Holm House, Penarth. Mae wedi gweithio yn rhai o fwytai gorau Llundain a chyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Cogydd Iau Cymru yn ddiweddar.

Mae’n dweud bod y cyfleoedd sydd wedi deillio o Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol wedi rhoi hwb i’w hyder. “Rydw i’n hapus iawn i ennill y wobr hon ac mae’n dangos bod llawer o waith caled wedi talu ffordd,” meddai.

“Rydw i am agor fy mwyty fy hun o fewn y pump i chwe blynedd nesaf i hyrwyddo’r cynnyrch gorau o Gymru.”

Yn rownd derfynol y categori oedd Kelly Venables-Jones, Mainetti, Wrecsam a Codi Louise Wiltshire, Jewson Ltd, Llanfair-ym-muallt.

Prentis y flwyddyn oedd y cogydd Mitchell Penberthy, 26 oed, sy’n gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Charlton House, CH & Co, Bae Caerdydd. Yn sgil ei ddymuniad brwd i lwyddo, fe’i dyrchafwyd i chef de partie ar ôl cwblhau’r cymhwyster AAA Lefel 3 mewn Coginio Celfydd.

Yn ogystal, mae wedi gwirfoddoli ym mwyty seren Michelin James Sommerin ac wedi rhoi ei enw gerbron am waith arlwyo i bobl bwysig iawn yn Stadiwm y Principality. “Mae’n wirioneddol wych ennill y wobr hon a oedd yn annisgwyl,” meddai Mitchell, sy’n bwriadu hogi ei sgiliau cigyddiaeth a symud ymlaen i gymhwyster AAA Lefel 4 mewn Coginio Celfydd.

“Rydw i’n dringo’r ysgol yn y gwaith a’r cam nesaf fyddai bod yn sous chef iau.”

Yn rownd derfynol y categori oedd Daniel Raftery, Randall Parker Foods, Llanidloes; Daniel Roberts, Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog; Rhiannon Lee Wilson, Links Electrical Supplies Ltd, Y Drenewydd a Paul McCarley, Tîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Cyngor Sir Powys, Rhaeadr Gwy.

Enillwyd gwobr Uwch Brentis y Flwyddyn gan Karen Jones, rheolwr Euro Garages, Dolgellau. Mae hi newydd gwblhau Uwch Brentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Fe’i disgrifiwyd gan ei chyflogwr fel “rheolwr gwych” ac mae hi ar daith dysgu gydol oes barhaus er mwyn gwella’i gwybodaeth a’i sgiliau. Cafodd ei henwebu am wobr Rheolwr y Flwyddyn Cymru gan ei chyflogwr yn 2017.

 

Rhoddodd Karen, sy’n byw yn Nhanygrisiau, ganmoliaeth i’r gefnogaeth mae hi wedi’i chael gan ei thiwtor, Dawn Thomas. “Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gwmni cwbl ryfeddol, oherwydd cymeron nhw dros fy nghymhwyster Lefel 5 pan nad oeddwn yn llwyddo i fynd ymhellach gyda chwmni hyfforddiant arall,” meddai.

“Byddwn yn argymell prentisiaethau, yn enwedig i bobl ifanc a phobl hŷn fel finnau. Mae dysgu’n rhywbeth parhaus oherwydd rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.”

Roedd George Carwyn Gilberthorpe, Gower Holiday Parks Ltd, Abertawe yn y rownd derfynol hefyd.

Enwyd Lelo Skip Hire Ltd, Brynsaithmarchog yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn. Recriwtiodd y busnes teuluol ei aelod cyntaf o staff ar raglen Twf Swyddi Cymru bedair blynedd yn ôl ac mae wedi symud ymlaen i Uwch Brentisiaeth mewn rheoli systemau a gweithrediadau. Oherwydd y sgiliau a’r wybodaeth a enillodd, bydd yn rheoli safle newydd i ehangu’r busnes.

Dywedodd Oswyn Jones, cyfarwyddwr Lelo Skip Hire Ltd, ei fod wrth ei fodd o ennill y wobr a datgelodd fod y busnes yn edrych i ehangu a chymryd rhagor o staff. Roedd gweithiwr yn elwa ar y rhaglen brentisiaeth i yrru’r busnes yn ei flaen.

Roedd Wickedly Welsh, Hwlffordd yn rownd derfynol y categori hwn hefyd.

Mainetti, Wrecsam oedd piau gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Mae gan yr ailgylchwr cambrenni arloesol, Mainetti, weithlu amlwladol o 160, sy’n cynnwys 56 prentis, rhai ohonynt wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn rheoli adnoddau’n gynaliadwy i Uwch Brentisiaeth mewn rheoli.

Dywed y cwmni fod prentisiaethau wedi helpu cynyddu cynhyrchiant a chynnydd gan 7% a lleihau’r gwastraff sy’n cael ei dirlenwi gan 25%.

Dywedodd Rebecca Burrows, rheolwr Adnoddau Dynol Mainetti UK: “Rydw i’n falch iawn o bawb sydd wedi ein helpu ni i gyflawni’r wobr hon. Fel cwmni, ymfalchïwn ar gefnogi’n gweithwyr a’u hyrwyddo a’u datblygu cymaint ag y gallwn.

“Cyflogwn weithwyr o ryw 15 cenedl a chaiff pob un ohonynt yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn prentisiaethau. Trwy helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau, mae gennym weithlu hapus a mwy ymgysylltiol.”

Yn rownd derfynol y categori oedd Tîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Antur Waunfawr, Caernarfon a Thîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Potters, Y Trallwng.

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn oedd CDT Sidoli, Y Trallwng. Mae’r gwneuthurwr pwdinau crefftus wedi sefydlu Academi Brentisiaeth i godi lefelau sgiliau a gwella ansawdd a chynhyrchiant ar draws y busnes.

Mae cysylltiadau gydag ysgolion a chanolfannau gwaith yn cael eu meithrin gan y cwmni, sydd â 73 aelod o staff o weithlu o 400 sy’n gweithio tuag at gymwysterau sy’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Uwch Brentisiaethau.

Yn rownd derfynol y categori oedd Tîm Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy Cyngor Sir Powys, Aberhonddu a thîm lletygarwch Stena Line, Wdig.

Picture caption:

Enillwyr y gwobrau gyda’u tlysau (o’r chwith) Karen Jones, Oswyn Jones o Lelo Skip Hire Limited, Mitchell Penberthy, Thomas Martin, Rebecca Burrows o Mainetti a Chris Jones, yn cynrychioli CDT Sidoli.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar y Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar y Ffôn: 01686 650818.