Esbonio Cig Eidion Hallt Cymreig, Get Jerky a Gweithgynhyrchu Moesegol
Mae Grŵp Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn dod â Chwmni Hyfforddiant Cambrian a’n chwaer gwmni, Trailhead Fine Foods, gan adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i’r sector Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod. Gan ein bod yn gweithredu busnes bwyd llwyddiannus ein hunain sy’n ymfalchïo mewn gweithgynhyrchu cyfrifol, rydym yn deall y sgiliau, y dreftadaeth a’r ymroddiad a dathlir yn ystod Wythnos Genedlaethol Cogyddion. Mae’r profiad go iawn hwn yn cryfhau prentisiaethau galwedigaethol o ansawdd uchel a ddarparwn ar draws maes cynhyrchu cig a bwyd yng Nghymru.
Mae’r diddordeb mewn cig eidion hallt Cymreig, jerky cig eidion, a chig o ffynonellau moesegol yn parhau i gynyddu wrth i gwsmeriaid geisio mwy o dryloywder. Mae pobl eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod, sut mae’n cael ei gynhyrchu ac os yw’n cefnogi cymunedau lledol ac economïau gweledig. Felly mae cyrchu moesegol wedi dod yn nodwedd ddiffiniol o gynhyrchu cig yng Nghymru, gan sicrhau safonau lles uchel, olrhain llawn a chadwyni cyflenwi cynaliadwy.
Esbonio Gweithgynhyrchu Cig Moesegol
Mae gweithgynhyrchu cig moesegol yn golygu cymryd cyfrifoldeb ym mhob cam o’r cynhyrchiad. Ar gyfer ein cig eidion hallt Cymreig a’n jerky cig eidion, mae hyn yn cynnwys:
- Safonau uchel o les anifeiliaid
- Olrhain llawn o’r fferm i’r cynnyrch gorffenedig.
- Cefnogi ffermwyr a chymuned weledig Cymru
- Cadwyni cyflenwi cynaliadwy gyda llai o filltiroedd bwyd.
Conglfaen y dull hwn yw defnyddio Cig Eidion Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (DDG) Cymreig. Mae statws DDG yn gwarantu bod y cig eidion wedi’i eni, ei fagu a’i brosesu yng Nghymru yn unol â meini prawf ansawdd llym, gan ddiogelu dilysrwydd a hunaniaeth ranbarthol.
O’r Fferm i’r Cynnyrch Gorffenedig
Mae pob cynnyrch yn dechrau gyda thoriadau o gig eidion Cymreig premiwm sydd wedi’u dewis yn ofalus. Mae’r toriadau hyn yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer dwy broses wahanol:
- Yn draddodiadol, mae Cig Eidion Hallt yn cael ei halltu gan ddefnyddio dulliau rheoledig sy’n cadw’r blas a’r ansawdd.
- Mae Jerky Cig Eidion yn cael ei greu trwy farinadu toriadau dethol cyn eu sychu’n araf i greu byrbryd llawn protein sy’n cadw cymeriad y cig gwreiddiol.
Mae’r ddau ddull yn dibynnu ar:
- Paratoi medrus.
- Gwybodaeth am halltu a chadw bwyd.
- Cydymffurfio â hylendid bwyd yn llym.
- Systemau olrhain clir.
- Sicrwydd ansawdd parhaus.
Mae’r cyfuniad hwn o grefftwaith traddodiadol a safonau gweithgynhyrchu bwyd modern yn sicrhau cysondeb, diogelwch ac ansawdd trwy gydol y daith gyfan.
I archwilio taith y cynnyrch yn fanylach a dysgu mwy am dreftadaeth cig Cymreig, ewch i’r blog swyddogol: https://www.getjerky.wales/get-jerky-blog/
Mae Hyfforddiant Cambrian yn cefnogi dyfodol y sector Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru drwy brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol. Trwy ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol a medrus, rydym yn helpu i ddiogelu treftadaeth bwyd Cymru.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant – mae ein rhaglenni prentisiaeth yn cynnig llwybrau at arbenigedd, cyfleoedd, a thwf hir dymor yn y diwydiant.
