Prentisiaid cwmni hyfforddiant yn profi ‘You can do it, when you B&Q it’

Graddedigion B&Q gyda phartner datblygu talent a dysgu B&Q, Paul Callahan, a Christine Grayson, Swyddog Hyfforddiant yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae staff sy’n gweithio i fusnes DIY, gwella cartrefi a chanolfannau garddio rhyngwladol yn Ne Cymru wedi mabwysiadu slogan eu cyflogwr, “You can do it, when you B&Q it”, i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd.

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae 32 aelod o staff wedi cwblhau prentisiaethau mewn gwasanaeth cwsmeriaid, manwerthu a rheoli, ac mae 16 aelod o staff eraill yn gweithio tuag at brentisiaethau ar hyn o bryd. Darperir y prentisiaethau can Gwmni Hyfforddiant Cambrian, un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Un o’r cyflawnwyr yw Kathleen Sillitoe, 49, o Abertawe, sy’n gynghorydd ystafell arddangos yn siop B&Q yn Llanelli.

Ar ôl gweithio i’r cwmni am 20 mlynedd, mae wedi cyflawni prentisiaethau ar Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, Lefel 3 mewn Rheoli Manwerthu, ac wedi symud ymlaen i ILM Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli. Mae Kathleen bellach yn ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) ILM mewn Rheoli.

Dathlodd Kathleen a’i chydweithwyr eu taith ddysgu pan fynychodd seremoni raddio prentisiaeth a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’i bartneriaid dysgu seiliedig ar waith ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, yr wythnos diwethaf.

“Ar y cychwyn, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon hyderus i wneud prentisiaeth ond penderfynais roi gynnig arni ac yna roeddwn i eisiau gwneud mwy,” meddai. “Mae’r prentisiaethau wedi fy ngwneud yn llawer mwy hyderus wrth ddelio â chwsmeriaid, blaenoriaethu fy llwyth gwaith a threfnu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.”

Dywed mai ei huchelgais yw parhau i ddysgu i fod yn “person gwell” a chefnogi gweithwyr newydd sy’n ymuno â B&Q. Mae eisoes wedi annog saith gweithiwr newydd i ddod yn brentisiaid yn y siop yn Llanelli.

Neges Kathleen i ddysgwyr sy’n oedolion eraill a allai fod yn ystyried prentisiaeth yw:

“Os gallaf ei wneud, gall unrhyw un gyda rheolwr cefnogol.”

Canmolodd rheolwr presennol a chyn-reolwr y siop, Gavin Davies a Brett Jones, yn y drefn honno, am eu hanogaeth. Neilltuodd canmoliaeth arbennig i’w swyddog hyfforddiant o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Christine Greyson.

“Mae Christine yn rhagorol ac mor gefnogol,” meddai. “Bydd yr holl brentisiaid yma yn dweud yr un peth.”

Canmolodd Gavin, hyrwyddwr prentisiaethau yn B&Q yng Nghymru, Kathleen a phrentisiaid eraill y cwmni ar ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.

“Rydyn ni’n datblygu diwylliant perfformiad uchel yn B&Q ac rwy’n angerddol am roi cyfle i bobl dysgu a datblygu eu hunain a’u gyrfa,” meddai Gavin, cyn-brentis sydd wedi gweithio yn y diwydiant manwerthu am fwy na 30 mlynedd.

“Nid yw rhai pobl yn gwneud yn dda yn yr ysgol oherwydd nad oeddent yn barod i ddysgu neu mae’n well ganddyn nhw ddysgu yn y gweithle. Nid yw un dull yn cwrdd ag anghenion dysgu pawb ac mae’n bwysig ein bod yn dathlu cyflawniadau.”

“Mae effaith prentisiaethau ar y busnes yn enfawr oherwydd ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth, sgiliau a hyder i gydweithwyr, ac yn mynd â nhw allan o feysydd sy’n gyfarwydd iddynt. Cewch arweinwyr ar draws y siop.”

“Mae’r gefnogaeth a dderbyniwn gan Christine a Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn wych.”

Dywedodd Christine, sy’n cefnogi prentisiaid mewn siopau B&Q yn Llanelli, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Casnewydd, Caerdydd, a Chwmbrân: “Mae Gavin a B&Q yn gefnogol iawn ac yn annog eu cydweithwyr i ddatblygu a gwella eu sgiliau trwy brentisiaethau.

“Mae Kathleen yn fodel rôl dda iawn sydd wedi magu hyder trwy gyflawni sgiliau hanfodol mewn Saesneg, llythrennedd digidol a chymhwyso rhif fel rhan o’i phrentisiaeth.”

Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.

Ends

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Alison Collingridge, rheolwr marchnata Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01983 555893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.