Tri phrentis rhagorol yn ennill Gwobrau Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Apprentices winners

Enillodd tri dysgwr rhagorol gwobrau prentisiaeth yng ngwobrau blynyddol mawreddog Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw yng Nghymru.

Enwyd Adam Pike, cogydd ym Mhant yr Ochain, Gresffordd, Aaron Jones, gweinydd blaen y tŷ ym Mhenycae Inn, ym Mhenycae, ger Abertawe, a Samantha Stennhof, pennaeth cynorthwyol yn Ysgol Pen Coch, y Fflint, yn brentis sylfaen, prentis, a phrentis uwch y flwyddyn, yn y drefn honno.

Mae’r gwobrau a ddewiswyd gan banel o feirniaid annibynnol yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau a ddarperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi’i lleoli yn y Trallwng, a’i bartneriaid.

Roedd saith ar hugain ar y rhestr fer – tri ym mhob un o’r naw categori – y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Mae Adam, a oedd hefyd ar restr fer y Wobr Unigolyn Rhagorol, yn cael blwyddyn i’w gofio, gan ei fod hefyd wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth celfyddydau coginio ac enwyd yn brentis gorau yn rhanbarth Canolbarth Cymru yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.

Clywodd y seremoni wobrwyo am ei gynnydd rhagorol gyda’i Brentisiaethau mewn Coginio Proffesiynol. Cyfnewidiodd yrfa fel joci ceffylau ras i ddod yn uwch gogydd mewn llai na thair blynedd.

Ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen a Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg a Saesneg mewn llai na 18 mis, mae bellach yn rhagori yn ei Lefel 3, yn mentora prentisiaid eraill ac yn perfformio’n hyderus mewn amgylchedd pwysau uchel, gan wasanaethu hyd at 500 o brydau pob dydd.

Dywedodd Adam:

“Rwy’n gobeithio bydd y wobr hon yn gam mawr i’r flwyddyn nesaf pan fyddaf yn bwriadu cymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gyflawniad gwych o ystyried nad oeddwn yn gwybod unrhyw beth am goginio tan ddwy flynedd a hanner yn ôl.

“Gan fy mod yn dod o gefndir rasio ceffylau, mae popeth wedi datblygu yn gyflym iawn ac mae’n teimlo mor naturiol. Mae wedi cymryd llawer o waith ond mae’n rhaid i mi ddiolch i Bant yr Ochain am roi cyfle i mi a’m swyddog hyfforddiant, Mel Canning, am fod yno i’m helpu ar unrhyw adeg.”

Mae Aaron wedi cael ei gydnabod yn y gwobrau am ddwy flynedd yn olynol – enillodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Unigolyn Rhagorol y llynedd – ac mae wedi symud ymlaen o fod yn gynorthwyydd cegin i weithiwr proffesiynol lletygarwch hyderus.

Ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch, mae bellach yn arwain sifftiau, yn datrys problemau cwsmeriaid gyda phroffesiynoldeb ac yn mentora staff iau. Yn aelod allweddol o’r tîm, mae ei wasanaeth cwsmeriaid yn aml yn cael ei ganmol mewn adolygiadau ar-lein, gan gyfrannu at lwyddiant arobryn Penycae Inn.

Y tu hwnt i’r gwaith, mae Aaron yn siaradwr cyhoeddus hyderus, ar ôl annerch  digwyddiad rhwydweithio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a chynrychioli prentisiaid, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu arbennig, yn y Senedd ac ar BBC Radio Cymru.

Wrth ymateb i’w wobr, dywedodd Aaron:

“Rwy’n hynod falch fy mod wedi ennill y wobr hon, fel person ag awtistiaeth. Rwy’n siŵr y bydd beth bynnag a ddaw nesaf i mi yn llwyddiannus.”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd ei fod yn ei chysegru i’r diweddar Denzil a Margaret Williams, ei gynorthwywyr personol a rhoddodd diolch i Anthony a Claire Christopher, perchnogion Penycae Inn a swyddogion hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andrew Addis-Fuller a Leah Williams am eu cefnogaeth.

“Roeddwn i’n gweithio yn y gegin ym Mhenycae Inn ar y dechrau oherwydd roeddwn i eisiau bod yn gogydd, ond roedd Anthony yn gwybod bod gyrfa blaen tŷ yn fwy addas i mi fel person pobl.”

Mae Samantha, a oedd yn fuddugol dros ei chyd-bennaeth cynorthwyol, Rebecca Kirkpatrick, i ennill y wobr, wedi rhagori yn ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 5) ILM mewn Arwain a Rheoli, a ddarperir gan Portal Training.

Mae wedi arwain prosiectau digidol strategol, wedi cyflwyno technoleg i helpu unigolion ag anawsterau llefarydd neu iaith i gyfathrebu, wedi cyfrannu at ddylunio’r cwricwlwm a chreu llwybrau dysgwyr personol a gefnogodd arolygiad llwyddiannus gan Estyn.

Ar ôl cwblhau ei chymhwyster yn gynt na’r disgwyl, mae bellach yn cefnogi ysgolion eraill ledled Gogledd Cymru. Ochr yn ochr ag addysgu llawn amser, mae wedi cryfhau datblygiad staff trwy fentora ac asesu.

Dywedodd Samantha ei bod eisiau rhannu’r wobr gyda Rebecca a ddisgrifiodd fel ei “gwraig waith” a rhoddodd diolch i’w thiwtor Deb Davison am ei chefnogaeth.

“Mae Rebecca a minnau wedi gweithio gyda’n gilydd trwy wahanol lefelau o hyfforddiant rheoli ers 15 mlynedd,” esboniodd. “Rwy falch iawn o ennill y wobr sy’n gydnabyddiaeth am yr holl waith rydyn ni’n ei wneud o fewn a thu hwnt i’r ysgol.”

Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian:

“Mae’r tri phrentis hyn yn cynrychioli’r gorau o ddysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae eu hymrwymiad, eu proffesiynoldeb, a’u hymdrech i barhau i ddatblygu eu sgiliau yw’r union yr hyn y mae ein rhaglenni prentisiaeth wedi’u cynllunio i’w feithrin.

“Rydym yn hynod falch o’u cyflawniadau a’r effaith maen nhw eisoes yn cael yn eu sectorau.”

Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.

 

 

Diwedd

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01983 555893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.