Prentisiaid yn Dathlu Graddio | Hyfforddiant Cambrian
Mae un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith Cymru wedi dathlu gwaith caled, gwydnwch a chyflawniadau mwy na 100 o raddedigion.
Cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng ei seremoni raddio ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt lle disgrifiodd y rheolwr gyfarwyddwr Faith O’Brien y prentisiaid fel “dyfodol diwydiant Cymru”.
“Chi yw’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, gofalwyr, gwneuthurwyr, peirianwyr, crewyr ac arloeswyr,” meddai wrth y graddedigion. “Mae’r byd rydych chi’n ymuno angen pobl fel chi – pobl sy’n barod i ddysgu, g weithio a thyfu.
“Nid eich prentisiaeth yw diwedd eich stori – dyma’r sylfaen y byddwch chi’n adeiladu eich dyfodol arni. Parhewch â’r gwydnwch rydych chi wedi’i ddangos, y balchder rydych chi’n ei deimlo heddiw, a’r gred y gallwch chi gyflawni beth bynnag rydych chi eisiau ei gyflawni.”
Gyda’i bartneriaid, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian arobryn yn darparu prentisiaethau ar gyfer y diwydiannau lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt a hamdden egnïol.
“Fel sefydliad yng Nghanolbarth Cymru, rydym yn falch o gefnogi sectorau sy’n sicrhau bod Cymru’n ffynnu,” ychwanegodd Faith. “Mae eleni wedi bod yn un o gynnydd i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, gan ein bod wedi cefnogi miloedd o brentisiaid, cryfhau partneriaethau ledled Cymru, buddsoddi mewn offer dysgu digidol a pharhau i hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel.”
“Rydym wedi dathlu cydnabyddiaeth genedlaethol am ragoriaeth mewn cyflwyno prentisiaethau, sy’n adlewyrchu cyflawniadau ein prentisiaid.
“Ledled Cymru, mae prentisiaethau yn parhau i gael eu trafod yn eang ac mae un neges yn glir: nid prentisiaethau yw’r llwybrau hawdd. Mae prentisiaid yn cydbwyso dysgu â gwaith, bywyd teuluol, pwysau ariannol ac mewn llawer o achosion, cyfrifoldebau gofalu. Mae hyn yn gofyn am gryfder, disgyblaeth a gwydnwch.”
Estynnodd diolch i rwydweithiau cymorth y prentisiaid am eu hanogaeth a’u cefnogaeth, i gyflogwyr am fuddsoddi mewn pobl a staff Cwmni Hyfforddiant Cambrian a’i bartneriaid am eu gwaith diflino.
“Mae prentisiaethau yn ffynnu pan fydd cyflogwyr yn credu ynddynt, ac mae eich cred wedi siapio’r gweithlu medrus sydd ei angen ar Gymru,” ychwanegodd Faith. “Mae eich arweiniad, eich mentora a’ch parodrwydd i ddatblygu talent wedi cael effaith parhaol ac yn cadw prentisiaethau’n fyw, yn berthnasol ac yn ffynnu ledled Cymru.”
Yn ddiweddar, cynhaliodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian Bwrdd Crwn Llais y Dysgwr WorldSkills yn y Trallwng ar y cyd â Grŵp Colegau NPTC ar gais y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell.
Mynegodd Faith balchder yn y tri phrentis o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a oedd yn panelwyr yn y digwyddiad ac a oedd hefyd yn enillwyr Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogwyr a Sgiliau blynyddol y cwmni yn yr haf.
Mae Adam Pike, uwch gogydd adran yn Pant-yr-Ochain, Gresffordd, a enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn, yn gyn-joci sydd wedi ailhyfforddi fel cogydd. Roedd yn enillydd medal aur yng nghelfyddydau coginio a’r prentis gorau yng Nghanolbarth Cymru yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru eleni.
“Mae fy mhrentisiaeth a chystadlu wedi rhoi’r hyder i mi arddangos y sgiliau rydw i wedi’u dysgu a symud ymlaen fel cogydd,” dywedodd Adam wrth y bwrdd crwn. “Heb fy mhrentisiaeth, fyddwn i ddim lle rydw i nawr.”
Dywedodd Oliver Addis-Fuller, rheolwr bar a digwyddiadau yng Ngwesty’r Glyn Clydach, Castell-nedd, a oedd yr Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn:
“Mae fy mhrentisiaeth uwch wedi dysgu popeth sydd angen i mi ei wybod am fy swydd, wedi datblygu fy hyder ac wedi fy helpu i gynllunio digwyddiad ar gyfer 1,000 o bobl. Mae pob diwrnod rydych chi’n gweithio yn ddiwrnod arall rydych chi’n dysgu.”
Dywedodd Aaron Jones, gweinydd blaen y tĹ· yn Penycae Inn, Penycae, ger Abertawe, a enillodd gwobr Prentis y Flwyddyn:
“Mae fy mhrentisiaeth wedi ehangu fy ngorwelion ac rwy’n gobeithio y bydd yn mynd â mi i gam nesaf fy ngyrfa fel goruchwylydd. Rydw i mor falch o’r rhwystrau rydw i wedi’u goresgyn fel person sydd â niwroamrywiaeth.”
Ymhlith y cyflogwyr a gynrychiolwyd yn y seremoni oedd y Celtic Collection, Whitbread, Voco St David’s Caerydd, McDonald’s, Mytton Food Group (Morrisons Deeside), Aldi, Puffin Produce, Charlies Store Ltd a Compass Group Uk & I.

Graddedigion gyda’r rheolwr gyfarwyddwr Faith O’Brien yn seremoni raddio Hydref Cwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.