Arf recriwtio ar-lein am ddim bellach ar gael i Gyflogwyr yng Nghymru

Fel un o ddarparwyr hyfforddiant gorau Cymru, gallwn nawr gynnig cyfle gwych i bob cyflogwyr ledled Cymru hysbysebu a hyrywyddo’u cyfleoedd gwaith prentisiaeth o safon ar lein yn RHAD AC AM DDIM ar y Gwasanaeth Paru Prentisiaeth.

Gellir gweld y gwasanaeth paru ar wefan Gyrfa Cymru sydd ar gael i filoedd o bobl ifanc o Fôn i Fynwy. Gallant chwilio arni a gwneud cais am swyddi y mae cyflogwyr yn eu creu er mwyn tyfu eu prentisiaid eu hunain.

Gallwn hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth ar draws y sectorau diwydiant canlynol; Lletygarwch, Cynhyrchu Bwyd a Diod, Rheoli ac Ailgylchu Adnoddau Cynaliadwy, Arwain Tîm, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheolaeth, Sgiliau Adwerthu, Gweinyddiaeth Fusnes a Gwasanaethau Cynllunio Ariannol; Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar yr amod eu bod ar gael.

Cynigia hyn ddewis i gyflogwyr hidlo ac adolygu ceisiadau’n hawdd a llunio rhestr fer a gwahodd ymgeiswyr am gyfweliad, a’r cyfan o ardal bersonol o’r system.

Fel eich Darparwr Hyfforddiant Prentisiaeth, byddwn yn gweithio gyda chi hefyd i sicrhau y gallwn wneud y mwyaf o effaith a chyrhaeddiad eich hybyseb trwy gynnig y gwasanaethau ychwanegol canlynol i chi os byddwch yn gofyn amdano;

  • Postio’ch swyddi gwag ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter a LinkedIn gyda hysbyseb unigryw ac wedi’i frandio gan ddefnyddio’ch logos a’r cyfarwyddyd a gyflenwyd gennych

Os ydych chi’n edrych i recriwtio prentis i wella’ch perfformiad busnes ac yr hoffech ddefnyddio’r Gwasanaeth Paru Prentisisiaeth ar-lein RHAD AC AM DDIM, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd i’n Rheolwr Marchnata, Katy Godsell trwy e-bost; katy@cambriantraining.com

Fodd bynnag, os hoffech rywfaint o arweiniad am brentisiaethau yn y gweithle a sut gallwn helpu’ch busnes i gyflawni ei nodau, cysylltwch â’n tîm dros y ffôn; 01938 555893 neu e-bost; info@cambriantraining.com

AM DDIM – Arf Recriwtio Prentisiaeth Ar-lein >>